Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

10 Nodyn atgoffa: gwirio’ch gwaith

Nesaf gallwch wneud cwis i adolygu’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn y sesiwn hwn. Dylech wirio’ch atebion i’r cwis hwn a’r rhai yn nes ymlaen yn y cwrs. Dull amgen neu gyfrifiad tuag yn ôl yw gwiriad – efallai y byddwch wedi clywed hwn yn cael ei alw’n gyfrifiad gwrthdro. Os mai ateb cywir yw canlyniad y gwiriad, mae’n golygu bod eich swm gwreiddiol yn gywir hefyd. Er enghraifft, efallai eich bod wedi gwneud y cyfrifiad canlynol:

  • 20 – 8 = 12

Ffordd o wirio hwn fyddai:

  • 12 + 8 = 20

Fel arall, pe baech chi eisiau gwirio’r cyfrifiad canlynol:

  • 80 × 2 = 160

Ffordd o wirio hwn fyddai:

  • 160 ÷ 2 = 80

Os ydych wedi gwneud nifer o gyfrifiadau i gyrraedd eich ateb terfynol, dim ond gwneud un tuag yn ôl mae ei angen i’w wirio.