12 Crynodeb o Sesiwn 1
Rydych yn awr wedi cwblhau Sesiwn 1, ‘Gweithio gyda rhifau’. Os ydych wedi nodi unrhyw feysydd mae angen ichi weithio arnynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio’n ôl at yr adran hon o’r cwrs ac yn rhoi cynnig arall ar y gweithgareddau.
Erbyn hyn dylech chi fod yn gallu:
- deall a defnyddio rhifau cyfan, a deall rhifau negatif mewn cyd-destunau ymarferol
- adio, tynnu, lluosi a rhannu rhifau cyfan, gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau
- canfod ffracsiynau o rifau cyfan
- canfod canrannau cyffredin o rifau cyfan a chyfrifo cynnydd a lleihad canrannol
- adio, tynnu, lluosi a rhannu degolion hyd at ddau le degol
- deall a defnyddio cywertheddoedd rhwng ffracsiynau cyffredin, degolion a chanrannau
- datrys problemau syml sy’n cynnwys cymhareb, lle mae un rhif yn lluosrif o’r llall
- defnyddio fformiwlâu syml a fynegir mewn geiriau ar gyfer gweithrediadau un neu ddau gam.
Bydd yr holl sgiliau uchod yn eich helpu gyda thasgau mewn bywyd pob dydd. Os ydych chi yn y tŷ neu yn y gwaith, mae sgiliau rhif yn hanfodol.
Erbyn hyn rydych yn barod i symud ymlaen at Sesiwn 2.