2 Talgrynnu
Os ydych allan yn siopa, byddai gallu amcangyfrif cyfanswm cost eich siopa’n gyflym yn gallu’ch helpu i benderfynu a oes gennych ddigon o arian i dalu amdano. Mae brasamcanu atebion i gyfrifiadau’n sgil defnyddiol iawn.
Cofiwch y rhigwm talgrynnu a fydd yn eich helpu chi:
Gwyliwch y fideo hwn i’ch atgoffa o’ch gwybodaeth am dalgrynnu. Dylech gymryd nodiadau drwyddo draw:
Gwylio’r fideo ar.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgareddau canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 15: Talgrynnu i 10, 100 a 1 000
- Talgrynnwch y rhifau hyn i’r 10 agosaf:
- a.64
- b.69
- c.65
- d.648
- e.271
- f.587
Gwiriwch ein hawgrymiadau cyn mynd ymlaen.
Ateb
Gallwch weld yn Ffigur 5:
- a.64 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 60.
- b.. 69 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 70.
- c.65 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 70. (Cofiwch: pan mae rhif union hanner ffordd, rydych bob amser yn talgrynnu i fyny. Fel mae’r rhigwm yn ei ddweud, ‘Pump neu fwy, i fyny â hwy!’)
Mae’r atebion eraill fel a ganlyn:
- d.648 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 650.
- e.271 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 270.
- f.587 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 590.
Nawr dylech ymarfer talgrynnu i’r 100 agosaf. Mae’r rheol yn union yr un peth.
- Talgrynnwch y rhifau hyn i’r 100 agosaf:
- a.325
- b.350
- c.365
- d.2 924
- e.1 630
- f.2 279
Gwiriwch ein hawgrymiadau cyn mynd ymlaen.
Ateb
Gallwch weld yn Ffigur 6:
- a.325 wedi’i dalgrynnu i’r 100 agosaf yw 300.
- b.350 wedi’i dalgrynnu i’r 100 agosaf yw 400.
- c.365 wedi’i dalgrynnu i’r 100 agosaf yw 400.
Mae’r atebion eraill fel a ganlyn:
- d.2 924 wedi’i dalgrynnu i’r 100 agosaf yw 2 900.
- e.1 630 wedi’i dalgrynnu i’r 100 agosaf yw 1 600.
- f.2 279 wedi’i dalgrynnu i’r 100 agosaf yw 2 300.
Nawr dylech ymarfer talgrynnu i’r 1 000 agosaf.
- Talgrynnwch y rhifau hyn i’r 1 000 agosaf:
- a.4 250
- b.4 650
- c.4 500
- d.4 060
- e.31 300
- f.13 781
- g.155 600
Gwiriwch ein hawgrymiadau cyn mynd ymlaen.
Ateb
Gallwch weld yn Ffigur 7:
- a.4 250 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 4 000.
- b.4 650 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 5 000.
- c.4 500 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 5 000.
- d.4 060 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 4 000.
Mae’r atebion eraill fel a ganlyn:
- e.31 300 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 31 000.
- f.13 781 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 14 000.
- g.155 600 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 156 000.
Rydym yn aml talgrynnu rhifau mewn bywyd go iawn, yn enwedig pan siopa. Gwyliwch y fideo ar wefan BBC Skillswise [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i ddysgu mwy am esiamplau talgrynnu bywyd go iawn.
Talgrynnu i’r £ agosaf
Y rheol yw, os yw ffigur olaf y swm yn 50c neu fwy, talgrynnwch i’r £ nesaf, ac os yw ffigur olaf y swm yn llai na 50c, mae’r £ yn aros yr un peth.
Er enghraifft:
£6.32 = £6 i’r £ agosaf (oherwydd bod 32c yn llai na 50c)
£42.51 = £43 i’r £ agosaf (oherwydd bod 51c yn fwy na 50c)
Gweithgaredd 16: Talgrynnu i’r £ agosaf
Talgrynnwch y symiau canlynol i’r £ agosaf:
- £5.20
- £1.70
- £7.35
- £13.13
- £23.51
- £128.85
Ateb
- £5
- £2
- £7
- £13
- £24
- £129
Gweithgaredd 17: Siopa Bill
Mae gan Bill £20 i’w wario ar ei siopa. Dyma restr o’i eitemau, ynghyd â faint mae pob un yn ei gostio:
Defnyddiwch eich sgiliau talgrynnu i weithio allan a oes gan Bill ddigon o arian i dalu am ei holl siopa.
Awgrym: Yn y gweithgaredd hwn, talgrynnwch i’r bunt agosaf, felly byddai £2.20 yn cael ei dalgrynnu i £2.
Ateb
Dylai talgrynnu’r holl eitemau roi ichi gyfanswm o £19, felly oes, mae’n debyg bod gan Bill ddigon o arian i dalu am ei holl siopa.
- Allwch chi gyfrifo cyfanswm yr holl eitemau ar y rhestr siopa i weld beth yw gwir gost siopa Bill?
Ateb
Cyfanswm cost yr holl eitemau ar y rhestr siopa yw £19.33, sy’n agos iawn i’r ateb a gawsoch trwy dalgrynnu.
Da iawn! Rydych yn awr wedi talgrynnu a chwblhau rhywfaint o waith rhifau sylfaenol yn llwyddiannus. Allwch chi weld pwysigrwydd talgrynnu? Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth gadw at gyllideb.