Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Defnyddio ffracsiynau cywerth

Ffracsiynau cywerth yw ffracsiynau sydd yr un peth â’i gilydd, ond sy’n cael eu mynegi mewn ffyrdd gwahanol. Mae esboniad o ffracsiynau cywerth ar wefan BBC Skillswise [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

I wneud ffracsiwn cywerth, rydych yn lluosi neu’n rhannu’r rhifiadur (top) a’r enwadur (gwaelod) â’r un rhif. Ni fydd maint y ffracsiwn yn newid. Er enghraifft:

Yn y ffracsiwn four divided by six, 4 yw’r rhifiadur a 6 yw’r enwadur.

4 × 2 = 8

6 × 2 = 12

Felly four divided by six = eight divided by 12

Yn y ffracsiwn 10 divided by 15,10 yw’r rhifiadur a 15 yw’r enwadur.

10 ÷ 5 = 2

15 ÷ 5 = 3

Felly 10 divided by 15 = two divided by three

Enghraifft: Edrych ar ffracsiynau cywerth

Rhowch y ffracsiynau canlynol yn nhrefn eu maint, gan ddechrau gyda’r lleiaf:

  • three divided by six, one divided by three, two divided by 12

Dull

Mae angen ichi edrych ar rif gwaelod pob ffracsiwn (yr enwadur) a dod o hyd i’r lluosrif cyffredin lleiaf. Yn yr achos hwn, 6, 3 a 12 yw’r rhifau gwaelod, felly’r lluosrif cyffredin lleiaf yw 12:

  • 6 × 2 = 12
  • 3 × 4 = 12
  • 12 × 1 = 12

Beth bynnag a wnewch i waelod y ffracsiwn, rhaid ichi ei wneud hefyd i dop y ffracsiwn, fel ei fod yn dal y gwerth cywerth. 12 yw enwadur y trydydd ffracsiwn, two divided by 12, eisoes, felly does dim angen inni wneud unrhyw gyfrifiadau eraill ar gyfer y ffracsiwn hwn. Ond beth am three divided by six a one divided by three?

  • Mae 2 × three divided by six n golygu cyfrifo (2 × 3 = 6) a (2 × 6 = 12), felly’r ffracsiwn cywerth yw six divided by 12
  • Mae 4 × one divided by three yn golygu cyfrifo (4 × 1 = 4) a (4 × 3 = 12), felly’r ffracsiwn cywerth yw four divided by 12

Nawr gallwch weld trefn maint y ffracsiynau’n glir:

  • two divided by 12, four divided by 12, six divided by 12

Felly’r ateb yw:

  • two divided by 12, one divided by three, three divided by six

Defnyddiwch yr enghreifftiau uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 19: Ffracsiynau yn nhrefn eu maint

  1. Rhowch y ffracsiynau hyn yn nhrefn eu maint, gyda’r lleiaf yn gyntaf:
  • one divided by five, one divided by three, one divided by four, one divided by 10, one divided by two

Ateb

Cofiwch pan mai 1 yw rhifiadur ffracsiwn, po fwyaf yw’r enwadur, lleiaf yw’r ffracsiwn.

O’r lleiaf i’r mwyaf, y drefn yw:

  • one divided by 10, one divided by five, one divided by four, one divided by three, one divided by two
  1. Pa rif ddylech chi ei roi yn lle’r marciau cwestiwn er mwyn gwneud y ffracsiynau hyn yn gywerth?
  • one divided by three = question mark divided by six
  • one divided by four = question mark divided by eight
  • one divided by five = question mark divided by 10
  • one divided by two = question mark divided by 10

Ateb

  • one divided by three = two divided by six
  • one divided by four = two divided by eight
  • one divided by five = two divided by 10
  • one divided by two = five divided by 10
  1. Rhowch y ffracsiynau hyn yn nhrefn eu maint, gyda’r lleiaf yn gyntaf:
  • two divided by three, three divided by five, three divided by 10

Ateb

Mae angen ichi newid y rhain i ffracsiynau cywerth er mwyn cymharu tebyg at ei debyg. I wneud hyn, mae angen ichi edrych ar rifau gwaelod y ffracsiynau (3, 5 a 10) a chanfod y lluosrif cyffredin lleiaf. Lluosrif cyffredin lleiaf 3, 5 a 10 yw 30:

3 × 10 = 30

5 × 6 = 30

10 × 3 = 30

Beth bynnag a wnewch i waelod pob ffracsiwn, rhaid ichi wneud hefyd i’r top:

Gyda two divided by three, mae angen ichi luosi’r rhifau top a gwaelod â 10 i wneud 20 divided by 30.

Gyda three divided by five, mae angen ichi luosi’r rhifau top a gwaelod â 6 i fod yn hafal â 18 divided by 30.

Gyda three divided by 10, mae angen ichi luosi’r rhifau top a gwaelod â 3 i fod yn hafal â nine divided by 30.

Felly trefn y ffracsiynau o’r lleiaf i’r mwyaf yw:

three divided by 10 (nine divided by 30)

three divided by five (18 divided by 30)

two divided by three (20 divided by 30)