Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3 Symleiddio ffracsiynau

Efallai y bydd angen ichi symleiddio ffracsiwn. Gellir defnyddio’r termau canlynol ar gyfer hyn hefyd:

  • canslo
  • mynegi yn y termau lleiaf
  • mynegi yn y ffurf symlaf.

Er enghraifft, mae eight divided by 12 yn gywerth â (yr un peth â) two divided by three, sef y ffordd symlaf o ysgrifennu’r ffracsiwn hwn.

Enghraifft: Symleiddio ffracsiynau

  1. Symleiddiwch five divided by 20.
  2. Symleiddiwch 20 divided by 30.

Dull

Er mwyn symleiddio ffracsiwn, bydd angen ichi rannu’r rhifau top a gwaelod â’r un gwerth. Rydych yn parhau i rannu i lawr nes nad ydych yn gallu gwneud y ffracsiwn yn llai. Bob tro rydych yn rhannu, rhaid ichi rannu rhifau’r top a’r gwaelod â’r un gwerth.

  1. Er mwyn symleiddio five divided by 20, mae angen ichi ganfod pa rif fydd yn rhannu I 5 a 20. Yr unig rif sy’n rhannu i 5 ac i 20 yw 5:

    • 5 ÷ 5 = 1
    • 20 ÷ 5 = 4

    Felly five divided by 20 = one divided by four.

  2. Mae yna ffyrdd gwahanol o symleiddio 20 divided by 30 i’r ffurf symlaf. Er enghraifft, gallwch rannu’r ddau rif yn 20 divided by 30 â 2:

    • 20 ÷ 2 = 10
    • 30 ÷ 2 = 15

    Fodd bynnag, nid 10 divided by 15 yw ffurf symlaf y ffracsiwn. Gallwch symleiddio’r ffracsiwn ymhellach trwy rannu’r rhifau top a gwaelod â 5:

    • 10 ÷ 5 = 2
    • 15 ÷ 5 = 3

    two divided by three yw ffurf symlaf 20 divided by 30.

    Fodd bynnag, efallai y sylwoch yr aiff 10 i 20 ac i 30, felly efallai eich bod wedi rhannu â 10 ar unwaith:

    • 20 ÷ 10 = 2
    • 30 ÷ 10 = 3

    Yr un yw’r ateb, ond trwy rannu â 10, byddech wedi cyrraedd yr ateb yn gyflymach.

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 21: Symleiddio ffracsiynau

Symleiddiwch y ffracsiynau canlynol:

  1. five divided by 10
  2. 20 divided by 25
  3. three divided by six
  4. two divided by eight
  5. three divided by nine

Ateb

  1. five divided by 10 = one divided by two (caiff y rhifau top a gwaelod eu rhannu â 5)
  2. 20 divided by 25 = four divided by five (caiff y rhifau top a gwaelod eu rhannu â 5)
  3. three divided by six = one divided by two (caiff y rhifau top a gwaelod eu rhannu â 2)
  4. two divided by eight = one divided by four (caiff y rhifau top a gwaelod eu rhannu â 2)
  5. three divided by nine = one divided by three (caiff y rhifau top a gwaelod eu rhannu â 3)