3.4 Ffracsiynau o symiau
Edrychwch ar yr enghreifftiau canlynol, sy’n dangos sut y byddech yn canfod ffracsiwn o swm.
Enghraifft: Canfod ffracsiynau
Sêl
Dyweder eich bod yn mynd i mewn i siop i brynu ffrog. Fel arfer byddai’n costio £90, ond heddiw mae yn y sêl ‘gostyngiad o ‘. Faint o ostyngiad fyddech chi’n ei gael?
Dull
TY rheol sylfaenol ar gyfer canfod ffracsiwn uned o swm yw rhannu â nifer y rhannau (y rhif ar waelod y ffracsiwn) a lluosi’r canlyniad â’r rhif ar dop y ffracsiwn. Mae gweithio allan gostyngiad o ar £90 yr un peth â:
£90 ÷ 3 = £30
Y swm yw £30 × 1 = £30, felly byddech chi’n cael gostyngiad o £30.
Arolwg
Mewn arolwg, dywedodd o’r ymatebwyr yr hoffent gadw’r bunt fel arian cyfredol y Deyrnas Unedig. Os ymatebodd 800 o bobl i’r arolwg, faint o bobl oedd eisiau cadw’r bunt?
Dull
Eto, i ganfod ffracsiwn o swm, mae angen ichi rannu â’r rhif ar waelod y ffracsiwn ac yna lluosi’r canlyniad â’r rhif ar dop y ffracsiwn:
Er mwyn ateb hwn, bydd angen ichi weithio allan yn gyntaf beth yw o 800 o bobl.
o 800 = 800 ÷ 4 = 200
Yna defnyddiwch y rhifiadur (top y ffracsiwn) i gyfrifo faint o’r unedau ffracsiwn hynny mae eu hangen:
o 800 = 3 × 200 = 600
Felly roedd 600 o bobl eisiau cadw’r bunt.
Defnyddiwch yr enghraifft uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 22: Talu mewn rhandaliadau
Mae teulu yn bwriadu cael ymestyn y gegin.
Cost y prosiect hwn yw £12 000.
Mae’r adeiladwr maen nhw wedi’i ddewis i wneud y gwaith wedi gofyn am i’r arian gael ei dalu fesul cam:
- Mae angen talu o’r arian cyn dechrau’r prosiect.
- Caiff o’r arian ei dalu mis yn ddiweddarach.
- Caiff gweddill yr arian ei dalu pan fydd yr estyniad wedi’i adeiladu.
Faint o arian mae’r adeiladwr yn gofyn amdano yn ystod cam 1 a cham 2?
Ateb
I weithio allan o £12 000 mae angen ichi rannu £12 000 â 5.
- 12 000 ÷ 5 = 2 400
Nawr lluoswch hwn â’r rhif ar dop y ffracsiwn:
- 2 400 × 1 = £2 400
Felly yng ngham 1 bydd ar yr adeiladwr angen £2 400.
I weithio allan o £12 000 mae angen ichi weithio allan yn gyntaf beth yw o £12 000. I wneud hyn mae angen ichi rannu £12 000 â 3.
- 12 000 ÷ 3 = 4 000
Nawr mae angen ichi weithio allan o £12 000 felly rydych yn lluosi â’r rhif ar dop y ffracsiwn:
- 4 000 × 2 = 8 000
Felly yng ngham 2 bydd ar yr adeiladwr angen £8 000.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i:
- ganfod cywertheddoedd mewn ffracsiynau
- rhoi ffracsiynau mewn trefn a’u cymharu
- canfod ffracsiwn o swm.
Gellir defnyddio’r sgiliau a restrir uchod pan rydych chi’n siopa ac yn ceisio dod o hyd i’r fargen orau, neu pan rydych chi’n rhannu cacen neu pizza, dyweder, yn ddarnau hafal.
Mae’n bwysig gallu cymharu ffracsiynau, degolion a chanrannau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Byddwch yn edrych ar ganrannau yn nes ymlaen, ond yn gyntaf gallwch edrych ar ddegolion.