Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Brasamcanu â degolion

Nawr eich bod wedi edrych ar y system gwerth lle ar gyfer degolion, allwch chi ddefnyddio’ch sgiliau talgrynnu i amcangyfrif cyfrifiadau gan ddefnyddio degolion? Byddai angen y sgil hwn mewn bywyd pob dydd i frasamcanu cost eich siopa.

Enghraifft: Brasamcanu â degolion

Rhowch atebion bras i’r rhain. Talgrynnwch bob rhif degol i’r rhif cyfan agosaf cyn gwneud eich cyfrifiad.

  1. 2.7 + 9.1
  2. 9.6 cm – 2.3 cm
  3. 2.8 g × 2.6 g
  4. 9.6 ml × 9.5 ml

Dull

  1. Mae 2.7 rhwng 2 a 3, ac mae’n agosach i 3 na 2.

    Described image
    Ffigur 22 Llinell rhif

    Mae 9.1 rhwng 9 a 10, ac mae’n agosach i 9 na 10.

    Described image
    Ffigur 23 Llinell rhif

    Felly ein hateb bras yw:

    • 3 + 9 = 12
  2. Yn yr un modd, mae 9.6 cm rhwng 9 cm a 10 cm ac mae’n agosach i 10 cm na 9 cm, ac mae 2.3 cm yn agosach i 2 cm na 3 cm. Felly ein hateb bras yw:

    • 10 cm – 2 cm = 8 cm
  3. Mae 2.8 g yn agosach i 3 g na 2 g, ac mae 2.6 g hefyd yn agosach i 3 g na 2 g. Felly ein hateb bras yw:

    • 3 g × 3 g = 9 g
  4. Mae 9.6 ml yn agosach i 10 ml na 9 ml. Mae 9.5 ml union hanner ffordd rhwng 9 ml a 10 ml. Pan mae hyn yn digwydd, rydym yn talgrynnu i fyny bob amser, felly mae 9.5 ml yn cael ei dalgrynnu i 10 ml. Felly ein hateb bras yw:

    • 10 ml × 10 ml = 100 ml

Enghraifft: Talgrynnu i ddau le degol

Efallai y gofynnir ichi dalgrynnu rhif i ddau le degol. Y cyfan mae hyn yn ei olygu yw os oes llawer o rifau ar ôl y pwynt degol, gofynnir ichi adael dim ond dau rif ar ôl y pwynt degol. Mae hyn yn ddefnyddiol pan mae cyfrifiannell yn rhoi llawer o leoedd degol inni.

  1. Talgrynnwch 3.426 yn gywir i ddau le degol (rydym eisiau dau ddigid ar ôl y pwynt degol).

Dull

Edrychwch ar y trydydd digid ar ôl y pwynt degol.

Os yw’n 5 neu fwy, talgrynnwch y digid blaenorol i fyny o 1. Os yw’n llai na 5, peidiwch â newid y digid blaenorol.

6 yw’r trydydd digid ar ôl y pwynt degol yn 3.426. Mae hwn yn fwy na 5, felly dylech dalgrynnu’r digid blaenorol i fyny, o 2 i 3.

Felly’r ateb yw 3.43.

  1. Talgrynnwch 2.8529 i ddau le degol.

Dull

Fel yn rhan (a) uchod, mae’r cwestiwn yn gofyn ichi dalgrynnu i ddau ddigid ar ôl y pwynt degol.

Edrychwch eto ar y trydydd digid ar ôl y pwynt degol.

Yw’r digid (llai na 5) felly nid ydym yn newid y digid blaenorol (5).

Yr ateb yw 2.85.

  1. Talgrynnwch 1.685 i ddau le degol.

Yma, 5 yw’r trydydd digid ar ôl y pwynt degol, sy’n golygu bod angen talgrynnu’r digid blaenorol (8) i fyny.

Yr ateb yw 1.69.

Defnyddiwch yr enghraifft uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Awgrym: ‘Pump neu fwy, i fyny â hwy!’

Gweithgaredd 24: Talgrynnu

  1. Gweithiwch allan atebion bras i’r rhain trwy dalgrynnu pob rhif degol i’r rhif cyfan agosaf:
    • a.3.72 + 8.4
    • b.9.6 – 1.312
    • c.2.8 × 3.4
    • d.9.51 ÷ 1.5
  2. Talgrynnwch y rhifau canlynol i ddau le degol:
    • a.3.846
    • b.2.981
    • c.3.475

Ateb

  1. Mae’r atebion fel a ganlyn:
    • a.Y rhif cyfan agosaf i 3.72 yw 4.

      Y rhif cyfan agosaf i 8.4 yw 8.

      Felly ein hateb bras yw:

      4 + 8 = 12

    • b.Y rhif cyfan agosaf i 9.6 yw 10.

      Y rhif cyfan agosaf i 1.312 yw 1.

      Felly ein hateb bras yw:

      10 – 1 = 9

    • c.Y rhif cyfan agosaf i 2.8 yw 3.

      Y rhif cyfan agosaf i 3.4 yw 3.

      Felly ein hateb bras yw:

      3 × 3 = 9

    • d.Y rhif cyfan agosaf i 9.51 yw 10.

      Y rhif cyfan agosaf i 1.5 yw 2.

      Felly ein hateb bras yw:

      10 ÷ 2 = 5

  2. Mae’r atebion fel a ganlyn:
    • a.Er mwyn talgrynnu i ddau le degol, edrychwch ar y trydydd digid ar ôl y pwynt degol. Mae hwn yn fwy na 5, felly talgrynnwch y digid blaenorol (4) i fyny i 5.

      Yr ateb yw 3.85.

    • b.Yn yr achos hwn, mae’r trydydd digid ar ôl y pwynt degol yn llai na 5, felly peidiwch â newid y digid blaenorol.

      Yr ateb yw 2.98.

    • c.Y trydydd digid ar ôl y pwynt degol yma yw 5. Cofiwch, yn yr achos hwn, rydym bob amser yn talgrynnu i fyny.

      Yr ateb yw 3.48.