Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.3 Cyfrifiadau yn defnyddio degolion

Pan rydych chi’n gwneud unrhyw gyfrifiad gyda degolion – hynny yw, adio, tynnu, lluosi a rhannu – mae’n bwysig iawn gwneud yn siŵr bod y pwynt degol yn y lle cywir. Os na wnewch hynny, bydd eich ateb yn anghywir.

Adio a thynnu degolion

Pan rydym yn adio neu dynnu degolion, mae’n bwysig unioni’r pwyntiau degol.

Cyfrifwch y canlynol:

  1. 14.08 + 4.1
  2. 34.45 – 2.3

Dull

Described image
Ffigur 24 Cyfrifo gan ddefnyddio degolion

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 27: Defnyddio degolion

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol gan ddefnyddio dulliau ysgrifenedig. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

  1. 4.2 + 3.7
  2. 6.7 – 5.1
  3. 42.19 + 13.5
  4. 74.8 – 24.3
  5. £163.25 + £27.12
  6. 2.1 m – 0.75 m

Ateb

  1. 7.9
  2. 1.6
  3. 55.69
  4. 50.5
  5. £190.37
  6. 1.35 m