Rhannu
Rhannu degolion â 10, 100 a 1 000
Pan rydych chi’n rhannu rhif degol â 10, mae pob rhif yn mynd 10 gwaith yn llai, felly mae’r pwynt degol yn symud un lle i’r chwith.
Pan rydych chi’n rhannu â 100, mae pob rhif yn mynd 100 gwaith yn llai, felly mae’r pwynt degol yn symud dau le i’r chwith.
Pan rydych chi’n rhannu â 1 000, mae pob rhif yn mynd 1 000 gwaith yn llai, felly mae’r pwynt degol yn symud tri lle i’r chwith.
Gwyliwch y clip canlynol sy’n dangos ichi’r dull cywir ar gyfer rhannu rhifau degol â 10, 100 neu 1 000.
Gwylio’r fideo ar.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.
Gweithgaredd 30: Rhannu degolion â 10, 100, 1 000
Cyfrifwch y canlynol:
- 57.08 ÷ 10
- 6.09 ÷ 10
- 433.57 ÷ 100
- 51.2 ÷ 100
- 899.34 ÷ 1 000
- 67.51 ÷ 1 000
Ateb
- 5.708
- 0.609
- 4.3357
- 0.512
- 0.89934
- 0.06751
Rhannu rhif degol â rhif cyfan
Pan rydych chi’n rhannu rhif degol â rhif cyfan, rydych yn rhannu fel arfer ac yn cadw’r pwynt degol yn ei le.
Mae’r fideo canlynol yn cynnwys enghreifftiau:
Gwylio’r fideo ar.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.
Gweithgaredd 31: Rhannu degolyn â rhif cyfan
Cyfrifwch y canlynol:
- 8.46 ÷ 6
- 79.9 ÷ 5
- 70.38 ÷ 9
- 423.06 ÷ 3
- 0.845 ÷ 5
- 301.14 ÷ 8
- Cost bil trydan yw £527.40 y flwyddyn. Beth yw’r gost pob mis?
- Cost bil tacsi yw £34.80. Os yw pedwar ffrind yn rhannu’r bil, faint fydd pob un yn ei dalu?
Ateb
- 1.41
- 15.98
- 7.82
- 141.02
- 0.169
- 37.6425
- £43.95 y mis
- £8.70 yr un
Rhannu rhif degol â rhif degol arall
Pan rydych chi’n rhannu rhif degol â rhif degol arall, yn gyntaf mae’n rhaid ichi newid y rhif rydych yn rhannu ag ef i rif cyfan. Rydych chi’n gwneud hyn trwy luosi â 10, 100 neu 1 000.
Enghraifft: Rhannu rhif degol â rhif degol arall
Cyfrifwch y canlynol:
4.2625 ÷ 0.05
Dull
0.05 yw’r rhif rydych yn rhannu ag ef. Er mwyn ei wneud yn rhif cyfan, rydych yn ei luosi â 100 (hynny yw, symud y pwynt degol dau le i’r dde):
0.05 × 100 = 5
Yna rydych yn lluosi’r rhif rydych yn rhannu iddo â’r un ffigur, sef 100 yn yr enghraifft hon. Y rhif rydych yn rhannu iddo yw 4.2625, felly:
4.2625 × 100 = 426.25
Nodwch nad oes rhaid ichi newid y rhif rydych yn rhannu iddo i rif cyfan.
Y cyfrifiad sydd gennych nawr yw:
426.25 ÷ 5
Gan ddefnyddio’r dull rhannu byr, y cyfrifiad fyddai:
Gellid gwneud hyn hefyd gan ddefnyddio’r dull rhannu hir, os yw’n well gennych ddefnyddio’r dull hwn:
Sut bynnag yr ydych yn rhannu, gwnewch yn siŵr bod y pwynt degol yn mynd yn yr un lle yn yr ateb â lle mae yn y rhif rydych yn ei rannu.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.
Gweithgaredd 32: Rhannu degolyn â degolyn
Cyfrifwch y canlynol, gan nodi’ch ateb i 2 le degol pan na fydd yn union:
1.5 ÷ 0.5
10.8 ÷ 0.03
13.25 ÷ 0.5
2.5 ÷ 0.04
56.9 ÷ 3.1
5.75 ÷ 1.1
Os yw wrn te yn dal 12.5 litr, faint o gwpanau o de 0.2 litr fydd yu cael eu darparu?
9.5 metr yw hyd llwybr mewn gardd ac mae cerrig palmant yn 0.25 metr o hyd yr un. Faint o gerrig palmant mae eu hangen i orchuddio hyd y llwybr?
Ateb
- 3
- 360
- 26.5
- 62.5
- 18.35 (i 2 le degol)
- 5.23 (i 2 le degol)
- 62.5 o gwpanau
- 38 o gerrig palmant