Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.4 Problemau degol

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 33: Defnyddio degolion

Datryswch y problemau hyn sy’n cynnwys rhifau degol heb ddefnyddio cyfrifiannell.

Described image
Ffigur 25 Defnyddio degolion
  1. Rydych yn prynu bocs o greision ŷd am £2.65 a photel o laeth am £1.98.
    • a.Beth yw cyfanswm cost yr eitemau hyn?
    • b.Rydych yn defnyddio papur £5 i dalu amdanynt. Faint o newid ddylech chi ei gael?
  2. Rydych yn mynd ar eich gwyliau i’r Eidal. £1 = €1.4 yw’r gyfradd cyfnewid. Faint o ewros gewch chi am £8?
  3. Rydych yn mynd am bryd o fwyd gyda thri ffrind, a £56.60 yw cyfanswm cost y pryd. Rydych yn penderfynu rhannu’r bil yn gyfartal. Faint mae pob un ohonoch yn ei dalu?
  4. Troswch 6.25 m yn cm. (Cofiwch fod 100 cm = 1 m).

Ateb

  1. Mae’r atebion fel a ganlyn:
    • a.Adiwch gostau’r ddwy eitem:

      Y swm yw £2.65 + £1.98 = £4.93.

      (Cadwch y pwyntiau degol yn eu lle.)

      Cyfanswm cost yr eitemau yw £4.63.

    • b.Tynnwch gyfanswm y gost o £5:

      Y swm yw £5.00 – £4.63 = £0.37.

      Dylech gael 37c o newid o £5. Efallai y byddwch wedi defnyddio dull gwahanol i weithio hyn allan.

  2. Lluoswch y gyfradd cyfnewid mewn ewros (€1.4) â’r swm mewn punnoedd (£8):

    Y swm yw 1.4 × 8 = 11.2.

    Felly £8 = €11.20. Efallai y byddwch wedi defnyddio dull gwahanol i weithio hyn allan.

  3. Rhannwch gyfanswm y gost (£56.60) â nifer y bobl (4):

    Y swm yw 56.60 ÷ 4 = 14.15.

    Byddai pawb yn talu £14.15 yr un.

  4. I drosi 6.25 m yn cm, mae angen ichi luosi’r swm â 100.

    • 6.25 × 100 = 625

    Felly’r ateb yw 625 cm.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu:

  • sut mae gwerth digid yn dibynnu ar ei safle mewn rhif degol
  • sut i frasamcanu atebion i gyfrifiadau sy’n cynnwys rhifau degol
  • sut i adio, tynnu, lluosi a rhannu gan ddefnyddio rhifau degol.

Bydd hyn yn eich helpu wrth weithio gydag arian a mesuriadau.