5 Canrannau
Fel ffracsiynau a degolion, byddwch yn gweld digonedd o gyfeiriadau at ganrannau yn eich bywyd pob dydd. Er enghraifft:
Bydd yr adran hon yn eich helpu i:
- roi canrannau mewn trefn a’u cymharu
- gweithio allan canrannau mewn ffyrdd gwahanol
- deall sut mae canrannau’n cynyddu ac yn lleihau
- adnabod cywertheddoedd cyffredin rhwng canrannau, ffracsiynau a degolion.
Felly beth yw canran?
- Mae’n rhif allan o 100.
- Ystyr 40% yw ‘40 allan o bob 100’.
- Symbol canran yw %.
- Ystyr 100% yw 100 allan o 100. Gallech hefyd nodi hwn fel y ffracsiwn .
Efallai eich bod wedi gweld enghreifftiau o ganrannau ar labeli dillad. Ystyr ‘100% gwlân’ yw bod y dilledyn wedi’i wneud o wlân a dim byd arall. Ystyr ‘50% gwlân’ yw bod y dilledyn wedi’i wneud hanner o wlân a hanner o ddeunyddiau eraill.
Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos sut i weithio allan canran o swm.
Enghraifft: Sut allwch chi gyfrifo gostyngiadau canrannol?
Mae siop ar-lein yn cynnig disgownt o 10% ar deledu sy’n costio £400 fel arfer. Faint o ddisgownt gewch chi?
Mae canran yn rhif allan o 100, felly ystyr 10% yw ‘10 allan o 100’. Gellid hefyd nodi hyn fel , neu 10 o ganfedau.
Mae yna ffyrdd gwahanol o weithio allan canrannau. Mae’r dull a ddewiswch yn dibynnu’n llwyr ar y rhifau rydych chi’n gweithio gyda nhw.
Dyma ddau ddull o ddatrys y broblem hon:
Dull 1
I ddechrau, rydym yn canfod 1%.
I ganfod 1% o swm, dylech ei rannu â 100 (fel y gwnaethoch yn gynharach yn y sesiwn hwn):
400 ÷ 100 = 4
Pan fyddwn yn gwybod beth yw 1% o swm, gallwn ganfod unrhyw ganran trwy luosi â’r ganran rydym eisiau ei chanfod. Felly i ganfod 10%, rydym yn lluosi’r ffigur 1% â 10:
4 × 10 = 40
£40 yw’r disgownt.
Os ydych chi’n meddwl am 10% fel ffracsiwn mawr sef , rydych yn defnyddio rheol rhannu â’r enwadur (y rhif gwaelod mewn ffracsiwn) a lluosi â’r rhifiadur (y rhif ar y top).
Mae yna ddull arall o ganfod yr ateb.
Dull 2
Mae canran yn rhif allan o 100, felly yw 10%, sef yr un peth a dweud .
Os ydyn ni eisiau canfod 10% o £400, mae yr un peth â chanfod o £400:
400 ÷ 10 = 40
Mae hyn yn rhoi’r ateb £40.
Os gallwch weithio allan 10% o swm, gallwch ganfod llawer o ganrannau eraill. Dyweder, er enghraifft, eich bod eisiau canfod 30% o £60.
Yn gyntaf, rydych chi’n canfod 10%, trwy rannu â 10 (dull 2):
60 ÷ 10 = 6
Mae 30% yn dri 10%, felly pan fyddwch yn gwybod beth yw 10%, gallwch luosi’r swm â 3:
6 × 3 = 18
Felly £18 yw 30% o £60.
Awgrymiadau
- I ganfod 20%, canfyddwch 10% yn gyntaf ac yna lluosi â 2.
- I ganfod 5%, canfyddwch 10% yn gyntaf ac yna haneru’r ateb (rhannu â 2).
Pa ddull sydd orau gennych?
- Bydd Dull 1 yn gweithio ar gyfer unrhyw ganran, ac mae’n ddull da i’w ddefnyddio i ganfod canrannau gan ddefnyddio cyfrifiannell.
- Gellir defnyddio Dull 2 i weithio allan canrannau yn eich pen os yw’r rhifau’n addas.
Mae yna ffyrdd cyflym eraill o weithio allan rhai canrannau:
50% = , felly gallwch haneru’r swm (rhannu’r swm â 2)
25% = , felly gallwch rannu’r swm â 4 (neu gallwch ei haneru a’i haneru eto)
75% = , felly gallwch rannu’r swm â 4 ac yna lluosi â 3 (neu gallwch ganfod 50% a 25% o’r swm, ac yna adio’r ddau ffigur at ei gilydd).
Defnyddiwch y dull sydd orau gennych i’ch helpu gyda’r gweithgareddau canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 34: Canfod canrannau o symiau
- Mae angen ichi dalu blaendal o 20% ar wyliau sy’n costio £800. Faint yw’r blaendal?
Ateb
Dull 1
Er mwyn canfod faint yw’r blaendal, mae angen ichi ganfod beth yw 20% () o £800. I wneud hyn, yn gyntaf mae angen ichi ganfod beth yw 1% () o £800:
- 800 ÷ 100 = 8
Felly 20% () o £800 yw:
- 8 × 20 = 160
Y blaendal yw £160.
Dull 2
Er mwyn cyfrifo 10%, neu , mae angen ichi rannu’r rhif â 10:
- 800 ÷ 10 = 80
Nawr mae gennych 10% ac mae arnoch angen 20%. Felly mae angen ichi luosi’ch 10% â 2:
- 80 × 2 = 160
Y blaendal yw £160.
- Cyfrifwch y canlynol gan ddefnyddio unrhyw ddull sydd orau gennych heb gyfrifiannell:
- a.50% of £170
- b.30% of £250
- c.25% of £120
- d.75% of £56
- e.80% of £95
- f.5% of £620
Ateb
Mae yna ffyrdd gwahanol y gallech fod wedi gweithio allan yr atebion i’r cyfrifiadau hyn. Mae un dull wedi’i awgrymu mewn cromfachau bob tro, ond efallai y byddwch wedi defnyddio dull gwahanol.
- a.£85 (170 ÷ 2 = 85)
- b.£75 (Canfod 10% yw 250 ÷ 10 = 25, felly 30% = 3 × 25 = 75)
- c.£30 (120 ÷ 4 = 30)
- d.£42 (75% yw ; 56 ÷ 4 = 14, ac yna 14 × 3 = 42)
- e.£76 (Canfod 10% yw 95 ÷ 10 = 9.50, felly 80% = 8 × 9.50 = 76)
- f.£31 (Canfod 10% yw 620 ÷ 10 = 62, felly 5% = 62 ÷ 2 = 31)