Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Cynnydd a lleihad canrannol

Byddwch yn aml yn gweld cynnydd a lleihad canrannol mewn sêl a chodiadau cyflog.

Described image
Ffigur 28 Canrannau sy’n cynyddu a lleihau

Enghraifft: Codiad cyflog Anjali

Mae Anjali yn ennill £18 000 y flwyddyn. Mae’n cael 10% o godiad cyflog. Faint mae hi'n ei ennill nawr?

Dull

Er mwyn canfod cyflog newydd Anjali, mae angen ichi ganfod beth yw 10% (10 divided by 100) o £18 000. Er mwyn gwneud hyn, yn gyntaf mae angen ichi ganfod beth yw 1% (one divided by 100) o £18 000:

18 000 ÷ 100 = 180

Felly 10% (10 divided by 100) o £18 000 yw:

10 × 180 = 1 800

Fel arall, gallech ganfod beth yw 10% trwy rannu £18 000 â 10:

18 000 ÷ 10 = 1 800

£1 800, yw codiad cyflog Anjali, felly ei chyflog newydd yw:

£18 000 + £1 800 = £19 800

Enghraifft: Sêl mewn siop ddodrefn

Mae siop ddodrefn yn lleihau ei holl brisiau 20%. Faint mae gwely dwbl gwerth £300 yn ei gostio yn y sêl?

Dull

Er mwyn canfod pris newydd y gwely dwbl, mae angen ichi ganfod beth yw 20% (20 divided by 100) o £300 is. I wneud hyn, yn gyntaf mae angen ichi ganfod beth yw (one divided by 100) o £300:

300 ÷ 100 = 3

Felly 20% (20 divided by 100) o £300 yw:

20 × 3 = 60

£60 yw’r disgownt, felly pris y gwely dwbl yn y sêl yw:

£300 – £60 = £240

Fel arall, gallech ganfod 20% o £300 trwy rannu â 10 (i ganfod 10%) ac yna lluosi â 2:

300 ÷ 10 = 30

30 × 2 = 60

Defnyddiwch yr enghreifftiau uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 35: Cyfrifo cynnydd a lleihad canrannol

  1. Rydych yn prynu car am £9 000. Mae ei werth yn dibrisio (lleihau) 25% pob blwyddyn. Faint fydd gwerth y car ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf?

  2. Ers dechrau’r 21ain ganrif, mae cyfranddaliadau InstaBank wedi codi 30%. Os oedd un cyfranddaliad yn costio £10 yn 2000, beth yw ei werth yn awr?

  3. Mae’r un fodrwy ddiemwnt yn cael ei gwerthu am bris gwahanol, a gyda disgowntiau canrannol gwahanol, mewn dwy siop wahanol. Pa siop sy’n cynnig y fargen orau?

    Described image
    Ffigur 29 Cymharu disgowntiau canrannol

Ateb

  1. Er mwyn canfod faint y bydd gwerth y car yn lleihau, mae angen ichi ganfod beth yw 25% (25 divided by 100) o £9 000 is. You can work this out in several different ways. Canfyddwch 1% (one divided by 100) yn gyntaf:
    • 9 000 ÷ 100 = 90
    Yna canfyddwch 25% (25 divided by 100) trwy luosi â 25:
    • 25 × 90 = 2 250
    Fel arall, gallech fod wedi canfod 25% o £9 000 trwy rannu 9 000 â 4 (25% = one divided by four):
    • 9 000 ÷ 4 = 2 250
  • Mae gwerth y car yn dibrisio £2 250 yn y flwyddyn gyntaf, felly gwerth y car ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf fydd:
    • £9 000 – £2 250 = £6 750
  1. Efallai y byddai’n haws yn yr enghraifft hon trosi £10 yn geiniogau (£10 = 1 000c). Er mwyn canfod gwerth newydd y cyfranddaliad, mae angen ichi ganfod beth yw 30% (30 divided by 100) o 1 000c. I wneud hyn, yn gyntaf mae angen ichi ganfod 1% (one divided by 100) o 1 000c:
    • 1 000 ÷ 100 = 10
  • Felly 30% (30 divided by 100) o 1 000c yw:
    • 30 × 10 = 300
    Felly mae pris un cyfranddaliad wedi cynyddu 300c (£3.00), felly mae un cyfranddaliad nawr yn werth:
    • £10 + £3 = £13
    Fel arall, gallech fod wedi canfod 10% trwy rannu â 10:
    • 1 000 ÷ 10 = 100
    Yna byddech yn lluosi â 3 i ganfod 30%:
    • 3 × 100 = 300
  1. Er mwyn canfod disgownt Siop A, mae angen ichi ganfod beth yw 25% (25 divided by 100) o £500. I wneud hyn, yn gyntaf mae angen ichi ganfod beth yw 1% (one divided by 100) o £500:
    • 500 ÷ 100 = 5
    Felly 25% (25 divided by 100) o £500 yw:
    • 5 × 25 = 125
    £125 yw’r disgownt, felly byddai’n rhaid ichi dalu:
    • £500 – £125 = £375
    Efallai y byddwch wedi cyfrifo 25% o £500 mewn ffordd wahanol. Oherwydd bod 25% yr un peth â one divided by four, efallai y byddwch wedi rhannu â 4:
    • 500 ÷ 4 = 125
    Fel arall, gallech fod wedi haneru a haneru eto:
    • 500 ÷ 2 = 250
    • 250 ÷ 2 = 125
    Er mwyn canfod disgownt Siop B, mae angen ichi ganfod beth yw 10% (10 divided by 100) o £400. I wneud hyn, yn gyntaf mae angen ichi ganfod1% (one divided by 100) o £400:
    • 400 ÷ 100 = 4
    Felly 10% (10 divided by 100) o £400 yw:
    • 4 × 10 = 40
    £40 yw’r disgownt, felly byddai’n rhaid ichi dalu:
    • £400 – £40 = £360
    Efallai eich bod wedi canfod 10% o £400 trwy rannu â 10:
    • 400 ÷ 10 = 40
    Pa bynnag ddull a ddefnyddioch, Siop B sy’n cynnig y fargen orau.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i gyfrifo cynnydd a lleihad canrannol. Bydd hyn yn ddefnyddiol wrth weithio allan gwerth codiad cyflog neu faint bydd eitem yn ei gostio mewn sêl. Rydych hefyd wedi gweld bod yna ffyrdd gwahanol o weithio allan canrannau. Mae angen ichi ddefnyddio’r dull sy’n gweithio i chi. Efallai y byddwch yn defnyddio dulliau gwahanol i weithio allan canrannau gwahanol.