6 Cywertheddoedd rhwng ffracsiynau, degolion a chanrannau
Mae ffracsiynau, degolion a chanrannau yn ffyrdd gwahanol o ddweud yr un peth. Mae’n sgil pwysig dysgu am y perthnasoedd (neu ‘gywertheddoedd’) rhwng ffracsiynau, degolion a chanrannau er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y fargen orau.
Dyma rai cywertheddoedd cyffredin. Ceisiwch eu dysgu ar eich cof – byddwch yn dod ar eu traws yn aml mewn sefyllfaoedd pob dydd:
10% = = 0.1
20% = = 0.2
25% = = 0.25
50% = = 0.5
75% = = 0.75
100% = 1 = 1.0
Edrychwch ar yr enghraifft ganlynol. Os gallwch adnabod cywertheddoedd, bydd yn haws ichi wneud cyfrifiadau syml.
Enghraifft: Cymera’ i hanner
Beth yw 50% o £200?
Dull
Gan fod 50% yr un peth â , felly:
50% o £200 = o £200 = £100
Dylech gyfeirio at y cywertheddoedd cyffredin uchod (os oes angen) i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 36: Chwilio am gywertheddoedd
Beth yw 0.75 fel ffracsiwn?
Os ydych chi’n cerdded 0.25 km pob dydd, pa ffracsiwn o gilometr ydych chi wedi ei gerdded?
Mae prisiau tai wedi codi yn y pum mlynedd diwethaf. Beth yw’r cynnydd hwn fel canran?
Mae siop tasgau’r cartref yn cynnal sêl ‘gostyngiad o 50%’ ar geginau. Beth yw’r disgownt hwn fel ffracsiwn?
Rydych yn prynu hen fwclis am £3 000. Ar ôl deng mlynedd, mae eu gwerth wedi cynyddu 20%. Beth yw’r cynnydd hwn fel degolyn?
Mae pennawd yn darllen ‘Rhagweld y bydd nifer y siaradwyr Cymraeg yn codi 10%’. Beth yw’r cynnydd hwn fel ffracsiwn?
Pa ganran o awr yw 15 munud?
Ateb
0.75 fel ffracsiwn yw .
Mae 0.25 yr un peth â , felly byddwch wedi cerdded cilometr.
Mae yr un peth â 50%, felly 50% yw’r cynnydd.
Mae 50% yr un peth â , felly’r disgownt fel ffracsiwn yw .
Mae 20% yr un peth â 0.2, felly’r cynnydd fel degolyn yw 0.2
Mae 10% yr un peth â , felly yn ôl y pennawd, rhagwelir y bydd y nifer yn codi .
Meddyliwch am hwn fel ffracsiwn yn gyntaf: mae 15 munud yn chwarter () awr. Mae yr un peth â 25%, felly mae 15 munud yn 25% o awr.
Os ydych chi’n cael trafferth i ddeall sut i drosi, dylech edrych ar yr adnodd canlynol:
Transcript
Yn y fideo hwn, byddwch yn edrych ar ffracsiynau, degolion a chanrannau cywerth. Yn gyntaf, edrychwn ar droi ffracsiynau’n ddegolion. Mae’r ffracsiwn un chwarter gennych. I droi hwn yn ddegolyn, mae angen ichi rannu top y ffracsiwn â’r gwaelod. 1 wedi’i rannu â 4 yw 0.25. Felly, 0.25 yw’r degolyn cywerth.
Dewch inni edrych ar ffracsiwn arall – tri phumed. (Cofiwch, rhannwch dop y ffracsiwn â’r gwaelod). 3 wedi’i rannu â 5 yw 0.6. Felly 0.6 yw’r degolyn cywerth.
Dewch inni roi cynnig ar un ffracsiwn olaf – allwch chi ei gyfrifo cyn y caiff yr ateb ei ddangos? Dau bumed: rhannwch y top â’r gwaelod. 2 rhannu â 5 yw 0.4. Felly’r degolyn yw 0.4.
Nawr dewch inni ddefnyddio’r degolion rydym wedi eu cyfrifo i ganfod y ganran gywerth. Mae canran allan o 100. Cofiwch, ‘cant’ yw’r ‘can’ yn ‘canran’. Felly i droi degolyn yn ganran, mae angen ichi luosi’r degolyn â 100.
Er enghraifft, 0.25 lluosi â 100 yw 25. 25% yw hwn.
0.6 lluosi â 100 yw 60, 60%.
0.4 lluosi â 100 yw 40. 40% yw hwn.
Nawr, gan edrych ar y tabl, gallwch weld sut mae ffracsiynau, degolion a chanrannau yn perthyn i’w gilydd. Y cwbl mae angen ichi ei gofio yw rheolau sylfaenol troi ffracsiwn yn ddegolyn: rhannwch y top â’r gwaelod, yna, pan fydd y degolyn gennych, gallwch drosi i ganran trwy luosi â 100, gan gofio mai ‘cant’ yw’r ‘can’ yn ‘canran’.
Diolch am wylio. Nawr rhowch chi gynnig arni.
Crynodeb
Mae’n bwysig gwybod y cywertheddoedd cyffredin rhwng ffracsiynau, degolion a chanrannau pan rydych chi’n ceisio cymharu disgowntiau wrth siopa neu wrth ddewis tariff pan rydych chi’n talu’ch biliau.