7 Cymarebau
Ynghyd â chyfrannedd (y byddwch yn edrych arni yn yr adran nesaf), rydych chi’n defnyddio cymarebau yn eich gweithgareddau pob dydd fel garddio, coginio, glanhau a thasgau’r cartref.
Cymhareb yw lle mae un rhif yn lluosrif o’r llall. I gael gwybod mwy am gymarebau, darllenwch yr enghraifft ganlynol.
Enghraifft: Sut i ddefnyddio cymarebau
Dyweder bod angen ichi wneud un litr (1 000 ml) o hydoddiant cannydd. Er mwyn creu hydoddiant, mae’r label yn dweud bod angen ichi ychwanegu un rhan o gannydd i bedair rhan o ddŵr.
1 i 4 yw’r gymhareb hon, neu 1:4. Mae hyn yn golygu y bydd yr hydoddiant cyfan yn cynnwys:
Un rhan + pedair rhan = pum rhan
Os oes arnom angen 1 000 ml o hydoddiant, mae hyn yn golygu bod un rhan yn:
1 000 ml ÷ 5 = 200 ml
Mae angen gwneud yr hydoddiant fel a ganlyn:
Cannydd: un rhan × 200 ml = 200 ml
Dŵr: pedair rhan × 200 ml = 800 ml
Felly i wneud un litr (1 000 ml) o hydoddiant, bydd angen ichi ychwanegu 200 ml o gannydd i 800 ml o ddŵr.
Gallwch wirio’ch ateb trwy adio’r ddau swm at ei gilydd. Dylent fod yn hafal i gyfanswm yr hydoddiant mae ei angen:
200 ml + 800 ml = 1 000 ml
Defnyddiwch yr enghraifft uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 37: Defnyddio cymarebau
- Mae 17 o fyfyrwyr mewn dosbarth: mae deg yn wrywod a saith yn fenywod. Ysgrifennwch y gymhareb o fyfyrwyr gwryw i fenyw.
3:1 yw’r gymhareb o dywod i sment mae ei hangen i wneud concrid.
Os oes gennych 40kg o sment, faint o dywod ddylai fod gennych?
Darllenwch y label oddi ar botel o hylif tynnu papur wal:
- Gwanedu: ychwanegwch 1 rhan o’r hylif tynnu papur wal i 7 rhan o ddŵr.
Faint o hylif tynnu papur wal a dŵr mae ei angen i wneud 16 litr o hydoddiant?
- I wneud hydoddiant o liwydd gwallt mae angen ichi ychwanegu un rhan o’r lliwydd gwallt i bedair rhan o ddŵr. Faint o liwydd gwallt a dŵr mae ei angen i wneud 400 ml o hydoddiant?
Ateb
- 10:7
- Mae cymhareb o 3:1 yn golygu tair rhan o dywod i un rhan o sment, sy’n gwneud cyfanswm o bedair rhan. Os yw’r sment (un rhan) yn 40kg, yna bydd y tywod (tair rhan) yn:
- 3 × 40 kg = 120 kg
-
Mae cymhareb o 1:7 yn golygu un rhan o hylif tynnu papur wal i saith rhan o ddŵr, gan greu cyfanswm o wyth rhan.
Mae arnom angen 16 litr o hydoddiant. Os yw wyth rhan yn werth 16 litr, mae hyn yn golygu bod un rhan yn werth:
- 16 litr ÷ 8 = 2 litr
Felly ar gyfer 16 litr o hydoddiant mae angen:
-
Hylif tynnu papur wal: un rhan × 2 litr = 2 litr
Dŵr: saith rhan × 2 litr = 14 litr
Gallwch gadarnhau bod y ffigurau hyn yn gywir trwy eu hadio a gwirio eu bod yr un peth â’r maint mae ei angen:
- 2 litr + 14 litr = 16 litr
Mae’r gymhareb o 1:4 yn golygu un rhan o liwydd gwallt i bedair rhan o ddŵr, gan wneud cyfanswm o bum rhan.
Mae arnom angen 400 ml o hydoddiant. Os yw pum rhan yn werth 400 ml, mae hyn yn golygu bod un rhan yn werth:
- 400 ml ÷ 5 = 80 ml
Felly ar gyfer 400 ml o hydoddiant mae angen:
Lliwydd gwallt: un rhan × 80 ml = 80 ml
Dŵr: pedair rhan × 80 ml = 320 ml
Gallwch gadarnhau bod y ffigurau hyn yn gywir trwy eu hadio a gwirio eu bod yr un peth â’r maint mae ei angen:
- 80 ml + 320 ml = 400 ml
Crynodeb
Rydych yn awr wedi dysgu sut i ddefnyddio cymarebau i ddatrys problemau mewn bywyd pob dydd. Gallai hyn fod pan rydych chi’n cymysgu concrid, lliwydd gwallt neu hylif golchi ffenestr flaen. Allwch chi feddwl am ragor o enghreifftiau pan fyddai angen defnyddio cymarebau?