8 Cyfrannedd
Defnyddir cyfrannedd i gynyddu neu leihau meintiau â’r un gymhareb. Dangosir hyn yn yr enghraifft ganlynol – beth sy’n digwydd os ydych eisiau addasu’ch hoff rysáit i fod yn ddigon i fwy o bobl?
Enghraifft: Defnyddio cyfrannedd ar gyfer mwy o ddognau...
Dyma rysáit i wneud teisen sbwng i bedwar o bobl:
4 owns o flawd codi
4 owns o siwgr mân
4 owns o fenyn
2 wy
Faint o bob cynhwysyn mae ei angen i wneud teisen i wyth o bobl?
Dull
Er mwyn gwneud teisen i wyth o bobl, bydd angen dwywaith cymaint o bob cynhwysyn:
8 owns o flawd codi (4 × 2)
8 owns o siwgr mân (4 × 2)
8 owns o fenyn (4 × 2)
4 wy (2 × 2)
Defnyddiwch yr enghraifft uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 38: Mwyhau ryseitiau’n gymesur
Mae’r rysáit hon yn gwneud deg cwci mawr:
- 220 g o flawd codi
- 150 g o fenyn
- 100 g o siwgr mân
- 2 wy
Faint o bob cynhwysyn sydd ei angen i wneud 20 cwci?
Mae’r rysáit hon yn gwneud pedwar dogn o ysgytlaeth mefus:
- 800 ml o laeth
- 200 g o fefus
- 4 llwy o hufen iâ
Faint o bob cynhwysyn sydd ei angen i ddau berson?
Mae’r rysáit hon yn gwneud pwdin i ddau berson:
- 300 ml o laeth
- 60 g o bowdr
Faint o bob cynhwysyn sydd ei angen i wneud digon i chwech o bobl?
Ateb
- I wneud 20 o gwcis, mae arnoch angen dwywaith cymaint o bob cynhwysyn:
- 440 g o flawd (220 × 2)
- 300 g o fenyn (150 × 2)
- 200 g o siwgr (100 × 2)
- 4 wy (2 × 2)
- I wneud digon o ysgytlaeth i ddau berson, mae arnoch angen hanner cymaint o bob cynhwysyn:
- 400 ml o laeth (800 ÷ 2)
- 100 g o fefus (200 ÷ 2)
- 2 lwy o hufen iâ (4 ÷ 2)
- I wneud pwdin i chwech o bobl, mae arnoch angen tair gwaith cymaint o bob cynhwysyn:
- 900 ml o laeth (300 × 3)
- 180 g o bowdr (60 × 3)
Pan fyddwch wedi gwirio’ch atebion ac wedi cael pob un yn gywir, rhowch gynnig ar y gweithgaredd nesaf.
Gweithgaredd 39: Edrych ar gymhareb a chyfrannedd
Noder: Ni chaniateir defnyddio cyfrifiannell
Mae label ar botel hylif gwynnu llenni’n dweud y dylech ychwanegu un rhan o’r hylif gwynnu llenni crynodedig i naw rhan o ddŵr.
Faint o hylif gwynnu llenni a dŵr mae ei angen i wneud 2 000 ml o hydoddiant?
Dyma rysáit risoto braster-isel i ddau berson:
- 200 g o fadarch
- 175 g o reis
- 180 ml o ddŵr
- 180 ml o laeth anwedd
- Halen a phupur
Faint o bob cynhwysyn mae ei angen os ydych eisiau coginio digon o risoto i chwech o bobl?
Ateb
Mae cymhareb o 1:9 yn golygu un rhan o hylif gwynnu llenni i naw rhan o ddŵr, sy’n gwneud cyfanswm o ddeg rhan.
Mae arnoch angen 2 000 ml o hydoddiant. Os yw deg rhan yn werth 2 000 ml, mae hyn yn golygu bod un rhan yn werth:
- 2 000 ml ÷ 10 = 200 ml
Felly ar gyfer 2 000 ml o hydoddiant mae angen:
Hylif gwynnu llenni: un rhan × 200 ml = 200 ml
Dŵr: naw rhan × 200 ml = 1 800 ml
Gallwch gadarnhau bod y ffigurau hyn yn gywir trwy eu hadio a gwirio eu bod yr un peth â’r maint mae ei angen:
- 200 ml + 1 800 ml = 2 000 ml
- I wneud digon o risoto i chwech o bobl, mae arnoch angen tair gwaith cymaint o bob cynhwysyn:
- 600 g o fadarch (200 × 3)
- 525 g o reis (175 × 3)
- 540 ml o ddŵr (180 × 3)
- 540 ml o laeth anwedd (180 × 3)
Crynodeb
Yn yr adran hon rydych wedi dysgu sut i ddefnyddio cyfrannedd i ddatrys problemau syml mewn bywyd pob dydd, er enghraifft wrth addasu ryseitiau.