Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

9 Fformiwlâu geiriau

Mae fformiwlâu i’w gweld mewn bywyd pob dydd, ond weithiau gall fod yn anodd sylwi ar un sydd wedi’i ysgrifennu mewn geiriau.

Felly beth yw fformiwla? Mae’n rheol sy’n eich helpu i weithio allan swm. Byddwch yn gweld hyn wrth goginio, gweithio allan faint y byddwch yn cael eich talu neu eich biliau cartref.

Rydych chi’n defnyddio fformiwlâu llawer mewn diwrnod arferol, fel mae’r enghreifftiau isod yn dangos.

Enghraifft: Fformiwla i gyfrifo enillion

Caiff Daniel ei dalu £6.50 yr awr. Faint mae’n ei ennill mewn deg awr?

Dull

Cewch wybod ‘Caiff Daniel ei dalu £6.50 yr awr’.

Fformiwla yw hon. Gallwch ei defnyddio i weithio allan faint mae Daniel yn ei ennill mewn nifer benodol o oriau. Y cyfrifiad mae angen ichi ei wneud yw:

Cyflog Daniel = £6.50 × nifer yr oriau

Gofynnwyd ichi faint mae Daniel yn ei ennill mewn deg awr, felly rhowch ‘10’ yn y cyfrifiad yn lle ‘nifer yr oriau’:

£6.50 × 10 = £65.00

Gallwch ddefnyddio’r un fformiwla i weithio allan faint mae Daniel yn ei ennill mewn unrhyw nifer o oriau.

Bydd angen ichi allu defnyddio fformiwlâu sydd â mwy nag un cam. Mae’r enghraifft nesaf yn edrych ar fformiwla dau gam.

Enghraifft: Fformiwla coginio

Beth yw’r ddau gam mewn fformiwlâu geiriau? Gwyliwch y fideo canlynol i gael gwybod.

Download this video clip.Video player: bltl_formulas_in_words_welsh_boards.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Nawr rhowch brawf ar eich dysgu gyda’r problemau geiriau canlynol.

Gweithgaredd 40: Defnyddio fformiwlâu

  1. Mae Harvey yn ennill £7.75 yr awr. Faint fydd Harvey yn ei ennill mewn 8 awr?

Ateb

Er mwyn ateb hwn, mae angen ichi luosi’r swm mae Harvey yn ei ennill mewn awr (£7.75) â nifer yr oriau (wyth):

  • £7.75 × 8 = £62.00
  1. Mae angen coginio darn o borc am 40 munud y cilogram, adio 30 munud ychwanegol i sicrhau bod y tu allan yn grimp.
    • a.Faint o amser fydd yn ei gymryd i goginio darn 2 kg o borc?
    • b.Faint o amser fydd yn ei gymryd i goginio darn 1.5 kg o borc?

Ateb

  • a.Mae angen ichi ddefnyddio fformiwla dau gam i ateb pob un o’r cwestiynau hyn. I weithio allan pa mor hir mae’n ei gymryd i goginio darn 2 kg o borc, bydd arnoch angen fformiwla â dau gam:

    • Cam 1: 40 munud × nifer y cilogramau

      Cam 2: Adio 30 munud

    Wedi’i ysgrifennu fel fformiwla:

    • (40 × nifer y cilogramau) + 30 = yr amser coginio

    Felly byddai darn 2 kg o gig yn cymryd:

    • (40 × 2) + 30 = 110 munud, neu 1 awr a 50 munud.
  • b.Gan ddefnyddio’r un fformiwla, byddai darn 1.5 kg o gig yn cymryd:
    • (40 × 1.5) + 30 = 90 munud, neu 1 awr a 30 munud.
  1. Cost contract ffôn symudol yw £15 am y pedwar mis cyntaf, a £20 y mis ar ôl hynny. Faint fydd y ffôn yn ei gostio am flwyddyn?

Ateb

Mae’r wybodaeth yn y cwestiwn yn rhoi dwy fformiwla ichi. I ateb y cwestiwn, mae angen ichi ganfod yr atebion i’r ddwy fformiwla ac adio’r canlyniadau at ei gilydd.

Mae’r contract yn costio £15 y mis am y 4 mis cyntaf. Felly’r fformiwla ar gyfer y rhan hon o’r contract yw:

  • £15 × 4 = £60

Ar ôl y pedwar mis cyntaf, mae’r contract yn costio £20 y mis. Mae’r cwestiwn yn gofyn ichi beth yw cyfanswm cost y contract ffôn am flwyddyn, felly mae angen ichi gyfrifo faint y byddech chi’n ei dalu am wyth mis arall:

  • £20 × 8 = £160

Felly cyfanswm cost y contract am flwyddyn yw:

  • £60 + £160 = £220