Mae'r Brifysgol Agored wedi ymuno â MoneySavingExpert (MSE) i gynhyrchu'r cwrs rhad ac am ddim newydd hwn i roi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi feistroli eich arian. Ysgrifennwyd y cwrs gan y Brifysgol Atodol, gyda chyngor ac arweiniad MSE. Cynhyrchwyd y cwrs hwn yn Saesneg yn wreiddiol ac mae wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan y Brifysgol Agored.
Gyda fideos, sain, cwisiau a gweithgareddau, mae'r cwrs yn cwmpasu holl agweddau allweddol cyllid personol mewn chwe sesiwn astudio, ac mae pob un yn cymryd tua dwy awr i'w cwblhau.
Mae'r cwrs yn dechrau drwy edrych ar sut i fod â synnwyr cyffredin wrth wario arian ac ar y pwysau ymddygiadol a marchnata sy'n ceisio dylanwadu ar yr hyn y mae defnyddwyr yn ei brynu.
Yna, mae'n edrych ar gyllidebu ac effaith treth ar gyllid cartrefi.
Mae benthyca arian yn rhywbeth y mae bron pob aelwyd yn gyfarwydd ag ef ond gall achosi problemau ariannol. Mae'r cwrs yn esbonio sut i fenthyg arian yn synhwyrol os oes angen, boed yn fenthyciad i brynu car neu forgais i brynu eich cartref.
Ydych chi eisiau cynilo neu fuddsoddi arian? Mae'r cwrs yn edrych ar gyfrifon cynilo syml ond hefyd buddsoddiadau fel cyfranddaliadau, nwyddau neu eiddo. Mae'n esbonio'r hyn sy'n gysylltiedig â'r risgiau rydych chi'n eu hamlygu wrth i chi chwilio am elw uwch ar eich arian.
Mae'r cwrs yn gorffen drwy fynd i'r afael â chymhlethdodau pensiynau. Bydd yn eich helpu i feddwl am eich opsiynau wrth ymddeol, fel beth fydd cyfanswm eich pensiwn y wladwriaeth, ategu hyn â phensiwn galwedigaethol neu bersonol, a'r hyn y gallwch ei wneud os nad yw eich darpariaeth bensiwn yn ddigonol ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch.
Mae'r argyfwng costau byw presennol sy'n codi o ganlyniad i'r cynnydd sydyn mewn prisiau ynni a hefyd gost gynyddol hanfodion eraill wedi ei gwneud hi’n bwysicach fyth eich bod yn mynd i'r afael â'ch arian personol. Drwy'r cwrs hwn byddwch yn gallu gwneud hynny.
Bydd cofrestru ar y cwrs yn rhoi cyfle i chi ennill bathodyn digidol y Brifysgol Agored – mae hyn, ynghyd â datganiad cyfranogiad OpenLearn, yn gyfystyr â'r cymhwyster y mae Martin Lewis yn cyfeirio ato yn y fideo. Nid yw bathodynnau wedi'u hachredu gan y Brifysgol Agored ond maent yn ffordd wych o ddangos eich diddordeb yn y pwnc a'ch ymrwymiad i'ch gyrfa, ac i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch reoli eich bathodynnau digidol ar-lein o My OpenLearn. Yn ogystal, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich datganiad cyfranogiad OpenLearn – sydd hefyd yn dangos eich bathodyn Prifysgol Agored.
Byddai'r Brifysgol Agored wir yn gwerthfawrogi ychydig funudau o'ch amser i ddweud wrthym amdanoch eich hun a'ch disgwyliadau ar gyfer y cwrs cyn i chi ddechrau, yn ein harolwg dechrau cwrs dewisol. Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cwrs byddem hefyd yn gwerthfawrogi eich adborth a'ch awgrymiadau ar gyfer gwella i'r dyfodol, yn ein harolwg diwedd y cwrs dewisol. Bydd cymryd rhan yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion i eraill.
This course is accredited by the CPD Standards Office. It can be used to provide evidence of continuing professional development and on successful completion of the course you will be awarded 12 CPD points. Evidence of your CPD achievement is provided on the free Statement of Participation awarded on completion.
Anyone wishing to provide evidence of their enrolment on this course is able to do so by sharing their Activity Record on their OpenLearn Profile, which is available before completion of the course and earning of the Statement of Participation.
Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
- cyllidebu'n effeithiol a gwybod sut i wneud penderfyniadau gwario da
- deall sut caiff incwm ei drethu
- deall sut a phryd i fenthyca arian mewn modd cyfrifol
- deall cynnyrch cynilo a buddsoddi – gan gynnwys y gwahanol risgiau sydd ynghlwm â nhw
- cynllunio ar gyfer ymddeoliad a gwybod beth i'w wneud os nad yw pensiwn disgwyliedig yn ddigonol.
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/03/2021
Wedi'i ddiweddaru: 26/09/2022