Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.5 Gweithio gyda rhifau cyfan

Mae’r gweithgareddau canlynol yn cynnwys popeth yn yr adran rhifau cyfan. Wrth ichi roi cynnig ar y gweithgareddau, chwiliwch am eiriau allweddol i ganfod yr hyn mae’r cwestiwn yn gofyn ichi ei wneud.

Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 5: Edrych ar rifau

  1. Edrychwch ar y pennawd papur newydd hwn:

    Pennawd papur newydd‘Pop Idols: 9 653 000 o bobl ifanc yn pleidleisio yn y rownd derfynol’.
    Ffigur 3 Pennawd papur newydd
    • a.Pa rif a gaiff ei gynrychioli gan y 9 yn y pennawd papur newydd?
    • b.Faint o filoedd sydd?
    • c.Edrychwch ar y manylion isod. Pwy enillodd y gystadleuaeth Sêr y Byd Pop?
    • Will: 4 850 000 o bleidleisiau
    • Gareth: 4 803 000 o bleidleisiau
  1. Edrychwch ar y data yn y tabl canlynol. Mae’n nodi’r tymereddau mewn pum dinas ar ddydd Llun ym mis Ionawr.
DinasTymheredd
Llundain0°C
Paris–1°C
Madrid10°C
Delhi28°C
Moscow–10°C
  •  

    • a.Pa ddinas oedd oeraf?
    • b.Pa ddinas oedd gynhesaf?
    • c.Faint o ddinasoedd sydd â thymheredd o dan 5°C?

Ateb

  1. Mae’r atebion fel a ganlyn:
    • a.9 miliwn
    • b.653 mil
    • c.Will
  2. Mae’r atebion fel a ganlyn:
    • a.Moscow
    • b.Delhi
    • c.Llundain, Paris a Moscow