3 Ymwybyddiaeth ofalgar mewn carchardai
Yn ‘Mindfulness’ allan o Mad or Bad: A Critical Approach to Counselling and Forensic Psychology, roeddech wedi dysgu bod ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu bod yn ddefnyddiol mewn carchardai am nifer o resymau, sef:
- mae lefelau anawsterau iechyd meddwl - gan gynnwys iselder, gorbryder a hunanladdiad - yn uwch mewn carchardai nag yn y boblogaeth gyffredinol. Mae ymwybyddiaeth ofalgar - yn arbennig mewn grŵp - yn ffordd ddefnyddiol a chost-effeithiol o fynd i'r afael ag anawsterau iechyd meddwl o'r fath (Shonin et al., 2015)
- mae carcharorion yn tueddu i gael lefelau uwch o emosiynau anodd, er enghraifft, dicter, ac yn ei chael yn fwy anodd rheoli teimladau o'r fath. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu bod yn arbennig o ddefnyddiol yng nghyswllt rheoli emosiynau (Chambers et al., 2009)
- hefyd mae camddefnyddio sylweddau yn tueddu i fod yn uwch ymysg carcharorion ac mae ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu helpu i drin hyn (Bowen et al., 2010)
- yn gysylltiedig â'r uchod, mae tystiolaeth bod cyfraddau aildroseddu ymysg carcharorion sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar yn barhaus yn sylweddol is (Auty et al., 2015).