Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ymwybyddiaeth ofalgar ym maes iechyd meddwl ac mewn carchardai
Ymwybyddiaeth ofalgar ym maes iechyd meddwl ac mewn carchardai

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Cael profiad o fyfyrio yn y carchar

Described image
Ffigur 4 Fleet Maull

Dyma ran o gyfweliad â Fleet Maull (2005) y gwnaethoch chi ddarllen amdano yn ‘Mindfulness’. Yma mae'n sôn am ei siwrnai o gael ei ddedfrydu i 30 mlynedd yn y carchar, i ddefnyddio'r arferion myfyrio roedd wedi eu dysgu yn flaenorol er mwyn dod drwy’r profiad, ac, yn y pen draw, i sefydlu'r Prison Dharma Network.

Nawr, darllenwch am brofiad Fleet Maull: deffro yn y carchar [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Gweithgaredd 3 Sut y gall ymarfer myfyrdod helpu carcharorion?

Ar ôl darllen y darn o gyfweliad Fleet Maull, defnyddiwch y blwch isod i wneud rhestr o'r ffyrdd y gall ymarfer myfyrdod neu ymwybyddiaeth ofalgar fod yn fuddiol i bobl yn y carchar.

Hefyd, nodwch unrhyw sylwadau beirniadol sydd gennych chi ynghylch canolbwyntio ar ymwybyddiaeth ofalgar a/neu arferion myfyrdod yn y carchar.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Ar ôl gwrando ar gyfweliad Maull, efallai y byddwch wedi sylwi ar y pethau canlynol y mae ef a charcharorion eraill wedi’u cael yn sgil ymarfer myfyrdod:

  • rhywbeth i roi strwythur i'w hamser yn y carchar, neu i lenwi'r amser hwnnw
  • ymdeimlad o ystyr neu bwrpas: rhywbeth buddiol i'w wneud gyda’r amser, gwneud yn siŵr bod rhywbeth da yn deillio o sefyllfa ddrwg
  • ymddangos yn ymroddgar ac yn ddisgybledig, gan ennyn parch staff a charcharorion eraill
  • cod moesegol i'w ddilyn, yn ymwneud â bod o gymorth i eraill, gydag athrawon neu hwyluswyr fel modelau rôl
  • rhywbeth sy’n lleddfu'r euogrwydd neu'r cywilydd maen nhw’n ei deimlo am y troseddau maen nhw wedi’u cyflawni
  • ymdeimlad o berthyn â'r carcharorion eraill sy’n rhan o'r grŵp ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrdod neu Dharma
  • lle i siarad yn agored ac yn onest am eu trafferthion, ac i gael cefnogaeth.

Wrth feddwl yn fwy beirniadol am ddefnyddio rhaglenni myfyrdod neu ymwybyddiaeth ofalgar yn y carchar, efallai y byddai'r pwyntiau canlynol yn dod i'ch meddwl wrth ystyried eu gwendidau:

  • Nid yw ychwanegu rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod at y system cyfiawnder troseddol presennol yn mynd i’r afael â rhai o broblemau difrifol y system hon, er enghraifft, anghyfiawnderau o ran dosbarth a hil yng nghyswllt y rheiny sy’n cael eu carcharu.
  • Ychydig y mae’n ei wneud o ran mynd i’r afael â'r cwestiynau ynghylch a yw carcharu yn ddull effeithiol o adsefydlu pobl ac a yw’n driniaeth briodol ar gyfer pobl sydd eu hunain yn aml yn ddioddefwyr camdriniaeth ddifrifol. Os mai un o brif nodau ymwybyddiaeth ofalgar yw meithrin caredigrwydd a thrugaredd, beth yw goblygiadau ceisio gwneud hyn mewn system sydd, ei hun, yn aml yn greulon? Er enghraifft, mae'r cyfweliad gyda Maull yn tynnu sylw at y ffaith bod perygl uchel o fwy o gam-drin corfforol neu rywiol yn y system carchardai, a bod staff yn aml yn trin carcharorion fel pobl israddol.
  • Efallai bod gan lawer o bobl sydd mewn carchardai gredoau, ffydd ac arferion ysbrydol yn barod. A ddylid cynnig ymwybyddiaeth ofalgar fel dewis arall yn lle’r rhain, neu a fyddai'n fwy priodol archwilio beth sydd ar gael yng nghefndir diwylliannol personol pob grŵp neu unigolyn, a’u hannog i ddatblygu'r elfennau hynny?

Mae'r pwyntiau hyn yn ymwneud â pheth o'r feirniadaeth ehangach o’r mudiad ymwybyddiaeth ofalgar. Byddwn yn trin a thrafod y rhain yn y man. Mae'r rheini sy’n feirniadol o hyn wedi dadlau ei bod yn anodd cyflwyno arferion ymwybyddiaeth ofalgar mewn lleoliadau fel gweithleoedd, ysgolion a charchardai fel rhywbeth ategol heb herio'r ffyrdd anegwyddorol anfoesegol y mae lleoliadau o'r fath yn aml yn gweithredu. Er enghraifft, mewn strwythurau hierarchaidd mae faint mae pobl yn cael eu gwerthfawrogi yn aml yn anghyfartal, mae pobl yn aml yn cael eu bwlio neu eu cam-drin mewn rhyw ffordd arall, ac yn cael eu trin fel pethau i gynhyrchu canlyniadau a chyrraedd targedau yn hytrach na fel bodau dynol cyflawn.

Mae’r rheini sy’n feirniadol hefyd wedi cyfeirio at y problemau diwylliannol sydd ynghlwm â chynnig y fersiwn sydd wedi' gorllewineiddio, seciwlaraidd hon o Fwdhaeth i bawb heb ystyried yr arferion a'r traddodiadau ysbrydol cyfoethog y gallai pobl fod yn ymwneud â nhw eisoes – llawer ohonynt yn cynnwys syniadau tebyg i ymwybyddiaeth ofalgar.