Skip to main content

About this free course

Become an OU student

Download this course

Share this free course

Croeso: Beginners' Welsh
Croeso: Beginners' Welsh

Start this free course now. Just create an account and sign in. Enrol and complete the course for a free statement of participation or digital badge if available.

5.3 Sesiwn 4

Ymarfer 44

Llenwch y bylchau yn y sgwrs hon.

Mae Sioned a Gwenda yn edrych ar ffotograff:

Fill the blanks in this conversation.

Sioned and Gwenda are looking at a photograph:

Sioned
Beth ___ ei enw e?
Gwenda
Fe? Colin ___ e. Mae e'n ___ yn y swyddfa.
Sioned
O ble ___ e'n dod?
Gwenda
O Aberystwyth. Ond ___ e'n byw ar bwys Aberaeron nawr.
Sioned
Beth mae e'n ___ yn y swyddfa?
Gwenda
Technegydd (technician) ___ e. Mae e'n gweithio ___ chyfrifiaduron.
Sioned
Pwy ___ hi?
Gwenda
O, Carys ___ hi.
Sioned
Ysgrifenyddes ___ hi?
Gwenda
___ (N), athrawes yw hi.
Sioned
O ble mae hi'n dod yn ___ ?
Gwenda
O Fangor.
Sioned
Ydy hi'n byw yn ___ dre?
Gwenda
___ (Y)
 

Answer

This is how the blanks should be filled:

Sioned
Beth yw ei enw e?
Gwenda
Fe? Colin yw e. Mae e'n gweithio yn y swyddfa.
Sioned
O ble mae e'n dod?
Gwenda
O Aberystwyth. Ond mae e'n byw ar bwys Aberaeron nawr.
Sioned
Beth mae e'n wneud yn y swyddfa?
Gwenda
Technegydd yw e. Mae e'n gweithio gyda chyfrifiaduron.
Sioned
Pwy yw hi?
Gwenda
O, Carys yw hi.
Sioned
Ysgrifenyddes yw hi?
Gwenda
Nage, athrawes yw hi.
Sioned
O ble mae hi'n dod yn wreiddiol?
Gwenda
O Fangor.
Sioned
Ydy hi'n byw yn y dre?
Gwenda
Ydy
 

Ymarfer 45

Ysgrifennwch y brawddegau hyn yn Gymraeg:

Write these sentences in Welsh:

(a) He lives in Llanelli.

 ____________

(b) Where does she live?

 ____________

(c) What does he do?

 ____________

(ch) She's a nurse.

 ____________

(d) What's her name?

 ____________

(dd) She lives near town.

 ____________

(e) What's his phone number?

 ____________

(f) Does he work?

 ____________

(ff) He works with children.

 ____________

(g) She works as a teacher.

 ____________

Answer

These are the sentences correctly translated into Welsh:

(a) Mae e'n byw yn Llanelli.

(b) Ble mae hi'n byw?

(c) Beth mae e'n wneud?

(ch) Nyrs yw hi.

(d) Beth yw ei henw hi?

(dd) Mae hi'n byw ar bwys y dre.

(e) Beth yw ei rif ffôn e?

(f) Ydy e'n gweithio?

(ff) Mae e'n gweithio gyda phlant.

(g) Mae hi'n gweithio fel athrawes.