Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Cefnogi plentyn ag AAA

Yn y pwnc blaenorol buoch yn edrych ar gydberthnasau, gan ganolbwyntio'n benodol ar fwlio. Prif rôl cynorthwyydd addysgu yw helpu plant i fanteisio ar y cwricwlwm, yn yr ystafell ddosbarth neu y tu allan. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, bydd cynorthwyydd addysgu yn ymgysylltu â phlentyn mewn modd cyfannol. Er mwyn cefnogi dysgu a datblygiad plentyn, mae'n bwysig cefnogi ei ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol. Hefyd, mae'n hanfodol helpu'r plentyn i ddatblygu ei sgiliau cymdeithasol a'i gymwyseddau, a chyfathrebu'n effeithiol gan ddefnyddio iaith briodol.

Gall fod yn hawdd iawn helpu plentyn yn y ffordd 'anghywir' – ffordd nad yw'n ddefnyddiol – heb sylweddoli hynny. Felly, mae'n bwysig gwybod pryd i roi cymorth a phryd i gamu'n ôl.

Mae'r gweithgaredd canlynol yn canolbwyntio ar ffyrdd cyffredin o ymateb i blant ag AAA, a strategaethau a roddir ar waith yn aml er mwyn helpu plentyn ag AAA.

Gweithgaredd 7

Timing: Dylech neilltuo tua 15 munud

Ystyriwch y canlyniadau cadarnhaol neu negyddol posibl i'r plentyn o fabwysiadu strategaeth gymorth benodol, neu ddisgwyliad. Yna cwblhewch Dabl 2 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , a ddarparwyd fel dogfen Word wedi'i llenwi'n rhannol.

Tabl 2
Strategaethau a/neu ddisgwyliadau o ran ymddygiadauCanlyniadau cadarnhaolCanlyniadau negyddol
Cydymffurfiaeth – disgwyl i'r plant fod yn oddefol a gwneud beth mae'r oedolyn yn dweud wrthynt i'w wneudDim angen trafod ag eraill er mwyn cwblhau tasg; dysgu normau disgwyliedig o ran ymddygiadPeidio â datblygu sgiliau rhyngbersonol sy'n ymwneud â thrafod; dim ymgysylltiad â safbwyntiau pobl eraill
GoramddiffynGall swildod a diffyg gallu cymdeithasol waethygu os na chaiff ei amlygu i sefyllfaoedd cymdeithasol
Tynnu o'r ystafell ddosbarth i gael sesiynau cymorth ychwanegol
Cymorth unigol yn yr ystafell ddosbarthDim angen gofyn am help, a all dynnu sylw cyfoedion at analluoedd plentyn
Disgwyliadau gwahanol o ran ymddygiad i blentyn ag AAA o gymharu â phlant eraill yn y dosbarth
Unrhyw strategaeth/disgwyliad arall a ddefnyddir yn eich lleoliad

Gadael sylw

Mae Tabl 3 yn awgrymu canlyniadau cadarnhaol a negyddol ar gyfer pob strategaeth neu ddisgwyliad o ran ymddygiad. Ond nid y rhain yw'r unig ganlyniadau posibl.

Tabl 3
Strategaethau a/neu ddisgwyliadau o ran ymddygiadauCanlyniadau cadarnhaolCanlyniadau negyddol
Cydymffurfiaeth – disgwyl i'r plant fod yn oddefol a gwneud beth mae'r oedolyn yn dweud wrthynt i'w wneudDim angen trafod ag eraill er mwyn cwblhau tasg; dysgu normau disgwyliedig o ran ymddygiadPeidio â datblygu sgiliau rhyngbersonol sy'n ymwneud â thrafod; dim ymgysylltiad â safbwyntiau pobl eraill
GoramddiffynDdim yn cael eu hamlygu i sefyllfaoedd na allant ymdopi â nhw neu nad oes ganddynt y sgiliau ar eu cyfer etoGall swildod a diffyg gallu cymdeithasol waethygu os na chaiff ei amlygu i sefyllfaoedd cymdeithasol
Tynnu o'r ystafell ddosbarth i gael sesiynau cymorth ychwanegolRhoi'r cyfle i'r plentyn feithrin ei hyderPeidio â datblygu sgiliau rhyngbersonol nac ymgysylltu â safbwyntiau eraill
Cymorth unigol yn yr ystafell ddosbarthDim angen gofyn am help, a all dynnu sylw cyfoedion at analluoedd plentynPosibilrwydd o ddatblygu gorddibyniaeth ar gymorth
Disgwyliadau gwahanol o ran ymddygiad i blentyn ag AAA o gymharu â phlant eraill yn y dosbarthNi chaiff plentyn ei roi mewn sefyllfa na all ymdopi â hi, fel eistedd yn llonydd am yr un cyfnod ag eraill ar gyfer stori Gall plant eraill fynd yn ddig
Unrhyw strategaeth/disgwyliad arall a ddefnyddir yn eich lleoliad

Mae cymorth cymdeithasol drwy gyfeillgarwch a chydberthnasau â chyfoedion yn bwysig iawn, ond mae llawer o ffactorau sy'n effeithio ar hyn ar gyfer plant a phobl ifanc anabl. Ymhlith y rhain mae:

  • treulio llawer o amser â staff
  • cael ei addysgu ar wahân i'w grŵp o gyfoedion neu gael cymorth gan Gynorthwyydd Cymorth Dysgu yn y dosbarth
  • diffyg cyfleoedd cymdeithasol (neu gymorth i fanteisio ar gyfleoedd cymdeithasol) i feithrin a chynnal cyfeillgarwch.
(McLaughlin et al., 2012)

Dylid hefyd ystyried y materion canlynol:

  • Gall canlyniadau cadarnhaol neu negyddol hefyd ddibynnu ar amgylchiadau'r plentyn unigol, ei bersonoliaeth ac ati.
  • Gall ffactorau, fel y rhai a nodwyd gan McLaughlin et al. (2012) ynysu pobl ifanc anabl a'i gwneud yn anoddach iddynt ddatblygu cyfeillgarwch a chydberthnasau â'u cyfoedion (Y Gynghrair Gwrthfwlio, 2015b).
  • Yn dibynnu ar anabledd neu gyflwr y plentyn, efallai y bydd yn anodd iddo wybod sut i ymddwyn mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Un ffordd y gellir helpu plant yw drwy eu haddysgu sut i ymddwyn.
  • Fel arfer, caiff disgwyliadau cymdeithasol neu'r ffordd briodol i ymateb wrth ryngweithio ag eraill eu dysgu drwy esiampl, ond mae angen i blant ag anawsterau cyfathrebu a/neu broblemau ymddygiad gael cyfarwyddiadau pendant weithiau.