Cynllun datblygu proffesiynol
Cyflwyniad
Yn yr adran hon o'r cwrs, byddwch yn gwylio fideo sy'n cyflwyno trafodaeth rhwng Isobel Shelton a Chynorthwyydd Lefel Uwch. Bydd y trafodaethau yn cwmpasu cymhellion, dyheadau a phrofiadau'r Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch, Katie Harrison. Mae gan Katie brofiad o weithio mewn addysg lefel gynradd.
Ar ôl gwylio'r fideo byddwch yn cael crynodeb o'r cwrs ynghyd â chyfle i fyfyrio ar eich profiadau a'ch dyheadau eich hun. Mae'r gweithgareddau yn yr adran hon wedi'u cynllunio i'ch helpu i wneud hyn, gan eich galluogi i greu cynllun datblygu personol (CDP).