Datblygu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ymhellach
1 Beth wyf wedi'i ddysgu?
Gobeithio bod Cefnogi datblygiad plant wedi bod yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth.
Efallai y byddwch yn cofio ateb rhai cwestiynau ar ddechrau'r cwrs am yr hyn sy'n eich cymell i ddysgu. Nawr eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan neu ran ohono, hoffem ofyn i chi fyfyrio ar eich profiad drwy gwblhau un gweithgaredd byr olaf.
Gweithgaredd 1
Holiadur am yr hyn rydych wedi'i ddysgu (2) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Os hoffech adolygu eich ymatebion i'r holiadur cyntaf ar ddechrau'r cwrs, gallwch ddychwelyd i'r Holiadur am yr hyn rydych wedi'i ddysgu (1).
Ystyriwch ble oeddech chi pan wnaethoch ddechrau'r cwrs hwn.
- Sut roedd astudio'r cwrs hwn yn cyd-fynd â'ch bywyd bob dydd? A wnaethoch chi neilltuo amser i weithio arno neu a gawsoch chi amser penodol i wneud hynny?
- A wnaethoch wynebu unrhyw heriau penodol? Sut wnaethoch chi eu goresgyn?
- Ydych chi wedi dysgu unrhyw beth y gallwch ei ddefnyddio yn y dyfodol? Sut allai hyn ddylanwadu ar y ffordd y byddwch yn gwneud pethau yn y dyfodol?
Drwy astudio'r cwrs hwn, dylech bellach fod:
- wedi cael cipolwg ar safbwyntiau amrywiol plant o'r blynyddoedd cynnar drwodd i'r ysgol uwchradd
- yn gallu myfyrio ar brofiad ac ymarfer personol, nodi cryfderau a gwendidau, a chymhwyso hyn at y materion y dewch ar eu traws yn eich ymarfer
- yn deall sut mae rhai damcaniaethau yn ceisio egluro datblygiad plentyn
- yn myfyrio ar werth gwaith cynorthwywyr addysgu, y sgiliau cymorth cysylltiedig, a meddwl am eich rôl yn y dyfodol.