Mae Cefnogi datblygiad plant yn gwrs rhagarweiniol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn natblygiad plant, yn enwedig staff cymorth mewn ysgolion, megis cynorthwywyr addysgu. Mae’n adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch sgiliau er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o blant - o’r blynyddoedd cynnar i oed gadael ysgol. Byddwch yn cael cyflwyniad i syniadau craidd yn ymwneud â datblygu a dysgu, ymddygiad, anghenion arbennig ac anableddau.
Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.
First Published: 09/09/2019
Updated: 16/04/2020