Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Anghenion arbennig

Cyflwyniad

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 1 Delwedd Wordle sy'n dangos geiriau allweddol yn y Côd Ymarfer AAA –0–25 (Yr Adran Addysg, 2014a)

Mae hwn yn gyflwyniad cyffredinol i faes plant ag anghenion addysgol arbennig (AAA) a gaiff ei alw yn anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn y dyfodol yng Nghymru. Mae'r geiriau amlycaf yn y ddelwedd Wordle – cymryd rhan, gwneud dewisiadau, cymryd rheolaeth a dileu rhwystrau – yn ystyriaethau pwysig ar gyfer helpu plant ag AAA ac mae'r cysyniadau hyn yn sail i'r adran hon.

Caiff llawer o gynorthwywyr addysgu eu cyflogi i helpu plant ag AAA ar sail unigol, neu mewn rôl cymorth arbenigol. Felly, byddwch yn ystyried sut i helpu plant ag AAA drwy eu hysgol gynradd ac uwchradd. Nod yr adran hon yw datblygu eich dealltwriaeth o'r hyn y mae AAA yn ei gwmpasu, pa gymorth sydd ar gael i blant ag AAA, a beth yw'r heriau ar gyfer plant o'r fath.

Mae'r pwnc hwn wedi'i rannu yn dri maes:

  1. Mae Beth yw ystyr AAA? yn ystyried beth yw ystyr y derminoleg a'r polisi sy'n ymwneud ag AAA.
  2. Mae Erledigaeth a bwlio yn canolbwyntio ar y cymorth y gallai fod angen i blant ei gael os byddant yn dod i'r ysgol gyda 'diagnosis' neu label penodol. Beth mae deddfwriaeth a pholisi yn ei ddweud wrthym ynghylch sut y dylem fod yn helpu plant, a sut beth yw'r polisi yn ymarferol?
  3. Mae Helpu plentyn ag AAA yn canolbwyntio ar rôl y cynorthwyydd addysgu yn helpu plant ag AAA. Fodd bynnag, nid oes neb yn arbenigwr ar bopeth, felly byddwn hefyd yn ystyried beth y gallwch ei wneud os ydych yn teimlo eich bod mewn dyfroedd dyfnion.

Nodyn am derminoleg:

Eglurodd Deddf Plant a Theuluoedd 2014 gwmpas y cymorth o ddeddfwriaeth gynharach, a oedd ond yn cyfeirio at blant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig (AAA), er mwyn cynnwys plant a phobl ifanc ag anableddau yn benodol drwy ddefnyddio'r term AAA mewn dogfennaeth polisi. Fodd bynnag, ni chaiff y newid hwn mewn terminoleg ei adlewyrchu mewn dogfennaeth sy'n bodoli eisoes ac felly, wrth i chi weithio drwy'r deunydd, byddwch yn dod ar draws y term AAA, yn ogystal â'r term ADY.