Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sut i gael bathodyn

Dyw cael bathodyn ddim yn gymhleth! Dyma’r hyn mae’n rhaid ichi ei wneud:

  • darllen holl dudalennau’r cwrs
  • sgorio 70% neu fwy yn y cwis diwedd cwrs.

O ran y cwisiau i gyd, gallwch gael tri chais ar y rhan fwyaf o’r cwestiynau (dim ond un cais a gewch fel arfer ar gyfer cwestiynau math ‘cywir’ neu ‘anghywir’). Os cewch yr ateb yn iawn y tro cyntaf, byddwch yn cael mwy o farciau nag am roi’r ateb cywir yr ail neu’r trydydd tro. Felly cofiwch y gallech ateb holl gwestiynau’r cwis diwedd cwrs yn iawn heb gyrraedd 50% a bod yn gymwys i ennill bathodyn OpenLearn y tro hwnnw. Os yw un o’ch atebion yn anghywir, yn aml byddwch yn cael adborth ac awgrymiadau cynorthwyol ynglŷn â sut i gyrraedd yr ateb cywir.

Os na fyddwch yn llwyddo i gael 70% yn y cwis diwedd cwrs y tro cyntaf, gallwch roi cais arall arno ar ôl 24 awr, a dod yn ôl cynifer o weithiau ag yr hoffech.

Rydym yn gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn ennill bathodyn y Brifysgol Agored – felly dylech weld cael bathodyn fel cyfle i fyfyrio ar yr hyn a ddysgoch yn hytrach nag fel prawf.

Os bydd arnoch angen mwy o ganllawiau ynghylch cael bathodyn a’r hyn y gallwch ei wneud ag ef, ewch i OpenLearn FAQs [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Pan fyddwch yn ennill eich bathodyn, cewch eich hysbysu drwy neges e-bost a byddwch yn gallu gweld a rheoli’ch holl fathodynnau yn My OpenLearn cyn pen 24 awr ar ôl cwblhau’r meini prawf i ennill bathodyn.

Nawr ewch i Sesiwn 1.