3.1 O'r cartref i'r ysgol
Mae'n debyg bod pob un ohonom yn cofio ein diwrnod cyntaf yn yr ysgol gynradd yn glir. Mae'r astudiaeth achos isod yn eich cyflwyno i Lowri a'i hatgofion o'i diwrnod cyntaf yn yr ysgol.
Astudiaeth achos: diwrnod cyntaf Lowri yn yr ysgol gynradd
Mae Lowri yn 11 oed. Mae'n edrych yn ôl ar ei phrofiadau o'i chyfnod pontio pwysig cyntaf o'r cartref i'r ysgol. Roedd hwn yn gyfnod pontio llorweddol i ddechrau, gan ei fod yn cynnwys symud ffisegol yn llythrennol o un lle i'r llall. Ond roedd hefyd yn gyfnod pontio fertigol, gan ei fod yn cynnwys newid profiad, symud ‘i fyny' i'r ysgol gynradd.
Yn Ffigur 7, mae Lowri yn cofio ei diwrnod cyntaf yn yr ysgol a'r teimladau a gafodd ynghylch cael ei gadael mewn lleoliad dieithr. Chwaraeodd ei hathro rôl bwysig wrth wneud y cyfnod pontio yn haws i Lowri. Mae'r ffaith ei bod yn cofio'r diwrnod yn fanwl yn dangos pa mor gofiadwy oedd y profiad i blentyn bach 4 oed.
I blant bach, mae'n debyg y bydd y cyfnod pontio fertigol o'r cartref i'r ysgol hefyd yn golygu newid gofalwr, fel newid o fam i athro. I blant hŷn, bydd symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd hefyd yn golygu newid arferion, fel gorfod symud o amgylch yr ysgol i fynd i ystafelloedd dosbarth gwahanol ar gyfer yr holl bynciau gwahanol a gaiff eu hastudio. I lawer o blant, gall symud i ysgol uwchradd olygu newid grŵp ffrindiau hefyd, oherwydd, yn aml, caiff plant eu hanfon i ysgolion gwahanol yn dibynnu ar ddalgylchoedd neu ddewis rhieni.
Mae Gweithgaredd 6 yn gofyn i chi nodi cyfnodau pontio yn eich bywyd cynnar a myfyrio arnynt.
Gweithgaredd 6
Rhan 1
Y tri math o gyfnod pontio yw:
- cyfnodau pontio llorweddol
- cyfnodau pontio fertigol
- cyfnodau pontio sy'n gysylltiedig ag addysg.
Gan ystyried y rhain, meddyliwch am eich plentyndod a nodwch yr adegau pan wnaethoch wynebu'r cyfnodau pontio hyn. Gwnewch nodyn o'r cyfnodau pontio a gafodd yr effaith fwyaf ar eich bywyd, gan sicrhau eich bod yn cynnwys eich oedran ar adeg y cyfnod pontio.
Cyfnodau pontio llorweddol
Cyfnodau pontio fertigol
Cyfnodau pontio sy'n gysylltiedig ag addysg
Sylwadau
Mae'n fwyaf tebygol y byddwch wedi nodi'r cyfnod pontio o ddechrau yn yr ysgol neu o adael yr ysgol. Efallai eich bod wedi nodi pan wnaethoch chi symud tŷ neu symud i wlad newydd fel cyfnod pontio llorweddol. Efallai bod dechrau yn y Cubs neu'r Brownies, neu adael y clybiau hyn, wedi rhoi atgofion cryf i chi o gyfnod pontio fertigol.
Rhan 2
Dewiswch un cyfnod pontio fertigol i fyfyrio arno. Nodwch bobl eraill fel oedolion, brodyr a chwiorydd neu ffrindiau a fu o gymorth i chi yn ystod y cyfnod pontio hwn.
- Sut oeddech chi'n teimlo cyn ac ar ôl y cyfnod pontio?
- Pa rôl (cadarnhaol neu negyddol) a chwaraeodd pobl eraill?
- Sut y gellid bod wedi gwella'r profiad?
Sylwadau
Pa eiriau a ddefnyddiwyd gennych er mwyn disgrifio sut roeddech yn teimlo: llawn cyffro, nerfus, ofnus neu gyfuniad o'r rhain? Mae plant heddiw yn dal i brofi'r emosiynau hyn wrth iddynt nesáu at gyfnodau pontio yn eu bywydau a mynd drwyddynt.
A lwyddoch i gofio a gwneud nodyn o'r bobl a wnaeth eich helpu drwy'r newidiadau hyn? Weithiau, efallai mai plentyn arall, brawd neu chwaer hŷn neu ffrind gydag ymagwedd gadarnhaol at fywyd oedd y person hwn.
Mae cynorthwywyr addysgu yn chwarae rôl allweddol yn helpu plant i setlo mewn lleoliad newydd, wrth iddynt bontio o un ysgol i un arall.