2 Rheoli dosbarth neu grŵp
Cafwyd sawl dull o reoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. Yn dibynnu ar eich cefndir diwylliannol, eich oedran, lleoliad addysgol neu hyd yn oed eich dewis o ddeunydd darllen, efallai eich bod wedi dod ar draws rhai o'r dulliau a ddangosir yn Ffigur 2 neu bob un ohonynt.
Yn sicr, ni fyddai pob un o'r rhain yn cael eu caniatáu yn hinsawdd heddiw o hawliau plant a'n gwybodaeth am seicoleg plant. Fodd bynnag, nid oes un dull cytûn o reoli ymddygiad ac mae dulliau gwahanol yn gweithio gyda phlant gwahanol.