3.5 Deunydd darllen ac adnoddau dewisol
Os oes gennych amser ac os hoffech archwilio'r pwnc hwn ymhellach, edrychwch ar yr adnoddau isod.
CAMHS Inside Out: A Young Person’s Guide to Child and Adolescent Mental Health Services [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Llyfryn i unrhyw berson ifanc sydd am wybod mwy am beth i'w ddisgwyl gan Wasanaethau Cymunedol Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.
Yr Adran Addysg (2015) Mental Health and Behaviour in Schools: Departmental Advice for School Staff
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys gwybodaeth am hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol, nodi, ymyriadau, ffeithiau am broblemau iechyd meddwl ymysg plant a phobl ifanc, mathau o anghenion iechyd meddwl a ffynonellau cymorth a gwybodaeth.
Awgrymiadau gwrando i ymarferwyr: Yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd a Participation Works
Adnodd addysgol am ddim yw MindEd ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae'n cynnig amrywiaeth eang o sesiynau e-ddysgu am ddim, ac un o'r rhain yw 'y plentyn ymosodol/anodd'. Mae'r sesiwn benodol hon yn rhoi cyfle i chi adnabod arwyddion a symptomau, ac achosion posibl ymddygiad ymosodol a gwrthgymdeithasol ac ystyried sut y dylid mynd i'r afael ag ymddygiad o'r fath.
Y Gymdeithas ABGI (gyda chefnogaeth yr Adran Addysg) (2015) Preparing to Teach about Mental Health and Emotional Wellbeing.
Er bod yr adnodd hwn wedi'i anelu'n bennaf at athrawon sy'n cynllunio rhaglen o wersi, ceir gwybodaeth ddefnyddiol iawn am amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl fel anhwylderau bwyta, gorbryder a hunan-niweidio. Mae'r cynnwys rhestrau llyfrau a ffynonellau cymorth ar-lein tuag at ddiwedd y ddogfen hon.
Mae'n rhoi taflenni gwybodaeth am ddim y gellir eu lawrlwytho sy'n canolbwyntio ar ymddygiad heriol a phlant ac oedolion ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd.
Mae gwefan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn cynnwys disgrifiadau o'r symptomau nodweddiadol a ddangosir gan blant sydd ag anhwylderau iechyd meddwl gwahanol. Os byddwch yn ymweld â'u rhestr Mental Health A-Z gallwch chwilio am broblemau iechyd meddwl, problemau nodweddiadol ac opsiynau o ran triniaethau.
Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn cynnwys llu o wybodaeth ddarllenadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth am broblemau iechyd meddwl. Mae'r Mynegai Gwybodaeth i Rieni a Phobl Ifanc yn fan cychwyn da ar gyfer cael gwybod am wybodaeth sy'n berthnasol i'ch rôl fel cynorthwyydd addysgu.