Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.6 Darlleniadau ac adnoddau dewisol

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y system gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma:

http://gov.wales/ topics/ educationandskills/ schoolshome/ additional-learning-special-educational-needs/ transformation-programme/ ?lang=cy [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

SNAP Cymru

Mae SNAP Cymru yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau neu y gall fod ganddynt anghenion addysgol arbennig neu anableddau.

http://www.snapcymru.org/

Yr Ymddiriedolaeth Teuluoedd a Gofal Plant

Sefydliad yw'r Ymddiriedolaeth Teuluoedd a Gofal Plant sy'n canolbwyntio ar ymgyrchu, gwneud gwaith ymchwil a rhoi gwybodaeth i lywodraethau, cyflogwyr a rhieni. Mae'n cynnwys llu o wybodaeth ar ei gwefan.

Rhai o'r gwasanaethau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r broses o helpu plant ag AAA.

Y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (NAS)

Elusen yn y DU sy'n rhoi gwybodaeth a chymorth. Mae hefyd yn ymgyrchu dros bobl ar y sbectrwm awtistig.

Young Minds

Elusen yn y DU sy'n canolbwyntio ar wella llesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae ei gwefan yn rhoi amrywiaeth eang o wybodaeth ac adnoddau i blant a phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol.