Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Lleihau ôl troed carbon digidol drwy gaffael cyfrifol

Diweddarwyd Dydd Gwener, 9 Medi 2022

I ba raddau y mae polisïau caffael yn effeithio ar yr ôl troed carbon digidol? Mae'r erthygl hon yn ystyried pam y dylem edrych yn agosach wrth benderfynu beth i'w brynu.

Dysgwch fwy am gyrsiau amgylchedd Y Brifysgol Agored


Olion troed carbon digidol

Mae gan ein dibyniaeth ddigidol fodern lawer o nodweddion unigryw.

Yn ogystal â'r buddiannau y gall technolegau digidol eu darparu, fel arbedion, graddfa a galluoedd uwch, mae agweddau cymdeithasol ac amgylcheddol eraill sy'n aml yn llai amlwg. Un nodwedd o'r fath yw'r hyn a elwir yn ôl troed carbon digidol. Mae'r term yn cyfeirio at yr allyriadau carbon deuocsid cyfatebol (CO2e) y gellir eu priodoli i'r cynhyrchion a'r gwasanaethau digidol rydym yn eu prynu, eu defnyddio a'u gwaredu.

Mae natur anghyffyrddadwy y gwasanaethau digidol rydym yn dibynnu arnynt wedi rhoi ymdeimlad ffug i ni nad yw'r effaith amgylcheddol, o gymharu â dewisiadau amgen mwy ffisegol, yn bwysig.  

Fodd bynnag, nid yw'r sefyllfa mor glir â hynny, ac nid yw'r effaith mor fach ag y byddech o bosibl yn ei ddisgwyl. Yn syml, nid yw digidol yn ddi-garbon. 

Mae popeth o dagiau olrhain asedau i bwyntiau mynediad WiFi, gliniaduron, ffonau symudol, gweinyddion cyfrifiaduron, gwe-dudalennau a galwadau fideogynadledda eu holion troed carbon eu hunain. 

Penderfyniadau prynu sy'n cael effaith

Gellir priodoli tua 80% o ôl troed carbon oes dyfais ddigidol i weithgareddau sy'n digwydd cyn i'r ddyfais gael ei defnyddio hyd yn oed. Mae hynny'n cynnwys y carbon, a'r cyfwerth, a gaiff ei ddefnyddio yn creu'r cydrannau technoleg unigol fel lled-ddargludyddion, cydrannau storio, casys plastig, sgriniau, cysylltiadau a cheblau, a'r carbon a gaiff ei allyru yn ystod y broses storio a chludo.

Felly, gallwn gael yr effaith fwyaf wrth leihau allyriadau carbon dulliau digidol drwy wneud penderfyniadau prynu doethach, ehangu oesoedd defnyddiadwy'r pethau rydym yn eu prynu, ac yn y pen draw, prynu llai. 

Ond mae'n aml yn haws dweud na gwneud. Fodd bynnag, mae'r ymwybyddiaeth, yr adnoddau a'r data sydd eu hangen i gyflawni hyn yn dod yn fwy cywir ac yn fwy hygyrch nag erioed o'r blaen.




Diwedd oes

Cyn i ni hyd yn oed feddwl am brynu, mae agwedd arall y mae'n rhaid i ni ei hystyried – beth y byddwn yn ei wneud â'n technolegau ar ôl i ni orffen eu defnyddio? 

Mae cynhyrchion electronig a gaiff eu gwaredu, y cyfeirir atynt fel eWastraff, yn cyflwyno eu heriau amgylcheddol eu hunain.  

Adnoddau cyfyngedig

Mae angen cryn dipyn o adnoddau naturiol er mwyn gweithgynhyrchu cynhyrchion technoleg electronig, gan gynnwys dŵr, aur, arian, copr, lithiwm a llawer o elfennau prin o'r ddaear. Caiff y deunyddiau hyn naill ai eu defnyddio yn ystod y broses weithgynhyrchu neu eu cynnwys yn y cynhyrchion digidol – sy'n golygu bod eu hadfer yn broses gymhleth ond hanfodol.

Mae adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn awgrymu bod 7% o gyflenwad aur y byd wedi'i gloi o fewn eitemau eWastraff, a bod mwy o aur fesul tunnell mewn eWastraff nag sydd mewn mwyn aur. At hynny, mae adroddiad yn 2021 yn amcangyfrif bod gwerth mwy nag £13 miliwn o elfennau daear prin heb eu hadfer, a hynny yn y DU yn unig.

Ymdrin â chynhyrchion mewn ffordd amhriodol ar ddiwedd eu hoes

Datgelodd adroddiad Monitro E-wastraff Byd-eang 2020 ITU na ellir ond rhoi cyfrif am lai nag 18% o'r holl eWastraff, sy'n golygu ei bod yn debygol nad yw bron i 83% o e-Wastraff yn cael ei ailgylchu, ei adfer neu ei waredu'n briodol. Nododd adroddiad Rhwydwaith Gweithredu Basel fod llawer ohono yn cael ei gludo i bentrefi ledled Affrica a Tsieina, lle nad oes cyfleusterau i reoli'r gwastraff yn ddiogel.


Pentwr o broseswyr cyfrifiadurol wedi ymddeol gyda phinnau aur platiog


Yn ogystal ag allyriadau CO2e, mae eWastraff yn cynnwys deunyddiau a all, heb ofal priodol wrth eu gwaredu, achosi niwed hirdymor i bobl, yr amgylchedd a bioamrywiaeth.

O safbwynt iechyd pobl, mae'r allyriadau gwenwynig hyn yn achosi diffygion geni a thwf, gan gynnwys niwed i'r ysgyfaint, niwed cardiofasgwlaidd a hyd yn oed niwed i DNA.

Mae'n hanfodol bod ein penderfyniadau prynu yn cynnwys strategaethau ac ymrwymiadau sy'n sicrhau yr ymdrinnir â thechnoleg yn ofalus ac yn fwriadol ar ddiwedd ei hoes ddefnyddiadwy.. 

Mae athroniaeth ‘TG Gylchol’ yn anelu at ymdrin â'r heriau caffael hyn. Dwy arfer flaenllaw yn y maes hwn yw adnewyddu ac ailweithgynhyrchu. Mae'r ddwy yn anelu at gynyddu oes ddefnyddiadwy technoleg, lleihau'r galw am eitemau newydd a lleihau gwastraff, a thrwy hynny leihau effaith carbon oes ein cynhyrchion digidol.

Arferion caffael cyfrifol

Ni waeth beth yw maint sefydliad, mae'n debygol y bydd cyfres o fetrigau perfformiad allweddol yn dylanwadu ar brosesau caffael, sy'n aml yn canolbwyntio ar gydbwyso perfformiad, nodweddion a gallu yn erbyn costau cyfalaf a gweithredol. 

Mae symud tuag at benderfyniadau prynu sy'n ystyried olion troed carbon digidol yn gofyn am fetrigau a chanllawiau sgorio newydd. Dylai'r rhain ganolbwyntio ar effaith garbon y penderfyniad prynu, o ran y carbon uniongyrchol neu ymgorfforedig, ac o ran yr allyriadau gweithredu a gwaredu. 

Mae angen metrigau newydd arnom yn hyn o beth: Llinellau sylfaen carbon a ‘chynyddrannau’ carbon. 

Mae angen i'r metrigau hyn ymdrin â phrosesau caffael a gwaredu yn ogystal â'r olion troed carbon gweithredol. 

Llinellau sylfaen carbon 

Mae llinell sylfaen yn mesur y status quo o ran carbon. Gallai hyn fod ar draws y sefydliad cyfan, ar draws timau, is-adrannau, llinellau busnes neu hyd yn oed gategorïau cynnyrch syml, fel gliniaduron. 

Nid oes llawer o ddata ar gael ar olion troed carbon ac nid yw'n gwbl ddibynadwy, ond mae'r sefyllfa yn gwella'n gyflym, ac fel y cyfryw, dylid ystyried unrhyw linell sylfaen fel yr amcangyfrif gorau ar unrhyw adeg benodol.

Dylai sefydliadau anelu at wella llinellau sylfaen a'u datblygu'n barhaus, a gall y swyddogaeth caffael chwarae rhan sylweddol yn hyn o beth. 

Cynyddrannau carbon

Ar ôl pennu llinellau sylfaen, dylai penderfyniadau prynu gynnwys meini prawf carbon – a yw'r penderfyniad prynu hwn yn gwella neu'n gwaethygu ein hôl troed carbon digidol?  

Bydd gofyn y cwestiwn hwn fel cwestiwn gorfodol, neu hynod ddymunol, i'w hateb gan gyflenwyr, yn ei dro, yn eu hannog i fod yn fwy parod i ddarparu'r data carbon, ond bydd hefyd yn rhoi darlun cynyddrannol manylach i'r busnes o'i linell sylfaen ddatblygol. 

Ehangu penderfyniadau prynu cyfrifol y tu hwnt i brosesau caffael

Mewn busnesau mwy, caiff awdurdod ac awtonomi prynu eu rhaeadru lawr drwy'r sefydliad gan adael i'r timau caffael ganolbwyntio ar ofynion prynu mwy strategol, gwerth uchel neu fwy cymhleth. 

Yn draddodiadol, y prif ffactorau penderfynu cost o gymharu â pherfformiad oedd conglfeini'r broses wasgaredig hon o wneud penderfyniadau. 

Er mwyn sicrhau bod haenau'r sefydliad yn ymwybodol o garbon, mae angen rhaeadru'r dasg deirochrog o gydbwyso cost yn erbyn perfformiad yn erbyn ôl troed carbon gan ddefnyddio llinellau sylfaen a chynyddrannau carbon hefyd. 

Fodd bynnag, mewn sawl sector, mae ansawdd penderfyniadau prynu a data carbon yn gwaethygu wrth edrych islaw agregau cyflenwyr. 

Yn aml, mae data olion troed carbon yn anodd dod o hyd iddynt ar lefel cynnyrch neu wasanaeth, a lle bo data o'r fath ar gael, gall fod yn arwynebol neu'n anghyflawn. Mae hyn i'w ddisgwyl, gan fod y mwyafrif helaeth o gyflenwyr hefyd yn ceisio llunio eu data cynhyrchion a'u llinellau sylfaen eu hunain. Yn yr un modd, dylid disgwyl hefyd y bydd cyflenwyr yn gwella eu data carbon yn gyflym hefyd. 

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu mai brasamcanion a ddefnyddir yn aml i ddyrannu gwerthoedd carbon enwol i gynhyrchion yn seiliedig ar lefel y gwariant â chyflenwyr penodol, mewn rhai gwledydd penodol. Cyfeirir at hyn fel data dwysedd carbon cyflenwyr. 

Dylai timau caffael fod yn edrych am dechnoleg neu ddatrysiadau proses er mwyn helpu i ddarparu data olion troed carbon mwy gronynnog ar lefel cynnyrch fel ffordd o roi mwy byth o awtonomi penderfynu sy'n ystyried carbon ar draws eu sefydliadau. Bydd y lefel hon o ddata yn hanfodol wrth ysbrydoli a chymell y lefel o newid sydd ei hangen. 

Ysbrydoli newidiadau mewn ymddygiad

Mae'r her o ymdrin â'r argyfwng hinsawdd yn aruthrol. Mae'n gofyn am newidiadau systematig, cyflawn, radical a chyflym i bron bob agwedd ar ein bywydau. 

O ganlyniad, mae eco-bryder yn dod yn gyffredin ac yn cyflymu ar gyfradd sylweddol. Mae pobl yn teimlo'n anobeithiol, maent yn teimlo ar goll ac nad ydynt wedi'u grymuso. 

Fodd bynnag, gall prosesau caffael chwarae rhan sylweddol iawn, a hynny wrth leihau olion troed carbon ein ffyrdd o fyw digidol ac wrth helpu unigolion i deimlo bod mwy o reolaeth ganddynt ac y gallant wneud gwahaniaeth.

Mae hyn yn ymwneud â newid mewn ymddygiad a grym y cydlifiad rhwng y ddau ddyfyniad canlynol: 


Os ydych yn credu eich bod yn rhy fach i wneud gwahaniaeth, rhowch gynnig ar gysgu gyda mosgito.
Dalai Lama 
 Mae'r hyn a gaiff ei fesur yn cael ei wneud, mae'r hyn a gaiff ei fesur a'i fwydo'n ôl yn cael ei wneud yn dda, mae'r hyn a gaiff ei wobrwyo yn cael ei ailadrodd.
John E. Jones III 

Yn gyffredinol, nid yw pobl yn barod i dderbyn newid, heb sôn am newid mewn ymddygiad. Ond, mae newid mewn ymddygiad ar raddfa fawr yn hanfodol er mwyn ymdrin â'n nodau hinsawdd cyfunol. 

Mae pandemig COVID-19 yn cynnig ysbrydoliaeth annhebygol. Gyda'r cymhelliant, y dulliau mesur a'r ‘gwobrau’ cywir, gall cymdeithasau cyfan newid eu hymddygiad fwy neu lai dros nos. 

O dan arweiniad arferion caffael cyfrifol, gellir cymell ymddygiad prynu a defnyddio unigolion, ei olrhain a'i wobrwyo, gan arwain at welliannau parhaus a gaiff eu hailadrodd. 

Ar lefel unigol, efallai mai gwelliannau carbon bach a gaiff eu cyflawni, ond gallant helpu i chwalu'r ymdeimlad o anobaith, gan ddarparu cydnabyddiaeth ddiriaethol a rheolaidd a fydd yn annog newidiadau a gwelliannau pellach. 

Yn sydyn, ar raddfa fawr, gall miloedd, cannoedd o filoedd, neu filiynau o effeithiau unigol bach ddod yn llawer mwy ystyrlon. 

Mae cynaliadwyedd yn cymell

Fel y gwelwyd yn adroddiad Exploring Digital Carbon Footprints Jisc, mae staff yn fwy tebygol o newid eu hymddygiad os cânt eu cymell gan ysgogwyr cynaliadwyedd yn hytrach nag ymgyrchoedd traddodiadol i leihau costau.

Crynodeb

Mae gan dimau caffael gyfle eithriadol i gyflawni gostyngiadau sylweddol o ran olion troed carbon digidol a hynny drwy ymdrin ag allyriadau carbon uniongyrchol ar yr adeg brynu, a thrwy leihau eWastraff drwy ddefnyddio asedau am gyfnod hwy, defnyddio eitemau wedi'u hadnewyddu neu wedi'u hailweithgynhyrchu ac ailgylchu mewn ffordd gyfrifol. 

At hynny, drwy ffocws iterus ar wella llinellau sylfaen olion troed carbon digidol, ynghyd â data gwneud penderfyniadau carbon ar lefel cynnyrch, gall penderfyniadau prynu cyfrifol rymuso unigolion i gymryd eu camau gweithredu carbon cadarnhaol eu hunain a chymryd perchenogaeth dros y camau hynny.


Mwy ar olion troed carbon


 

Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

HEFCW logo

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?