Skip to content
Skip to main content

Olion troed carbon digidol a gweithio o bell

Updated Wednesday, 14 September 2022

Gyda llawer o bobl yn dewis gweithio o gartref, boed ar ffurf hybrid neu'n llawn amser, mae'r erthygl hon yn ystyried cost gweithio o bell o ran olion troed carbon.

This page was published over 1 year ago. Please be aware that due to the passage of time, the information provided on this page may be out of date or otherwise inaccurate, and any views or opinions expressed may no longer be relevant. Some technical elements such as audio-visual and interactive media may no longer work. For more detail, see how we deal with older content.

Dysgwch fwy am gyrsiau amgylchedd Y Brifysgol Agored



Olion troed carbon digidol a'r gweithlu o bell 

Mae llawer o gwmnïau yn yr oes sydd ohoni wedi cyrraedd croesffordd o ran dau fega-duedd byd-eang yn ymwneud â'r gweithlu – gweithluoedd ar wasgar sy'n gweithio o bell a ffenomenon yr Ymddiswyddiad Mawr.  

Mae'r ddwy duedd hyn wedi amharu ar y cysyniad o'r gweithle a chyfrifoldeb cyflogwyr o ran y gweithlu, ac mae llawer o gyflogwyr yn ei chael hi'n anodd gwybod sut i ddarparu cymorth digonol a sicrhau cynhwysiant i weithwyr o bell, gweithwyr hybrid a gweithwyr yn y swyddfa.

Wrth i uchafbwynt y pandemig basio, derbyniwyd yn raddol y byddai dyletswydd gofal cyflogwyr yn ehangu y tu hwnt i waliau swyddfeydd am gyfnod amhendant. Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o gwmnïau yn ymwybodol bod cyfrifoldeb ar gyflogwyr i sicrhau gofal bugeiliol, iechyd, diogelwch a chyfleoedd twf i'w cyflogeion, ni waeth ble y bydd eu staff wedi'u lleoli.

Rydym bellach yn wynebu cyfosodiad rhwng dau rym – newid yn yr hinsawdd, strategaethau SeroNet a'r argyfwng ynni byd-eang. Mae goblygiadau'r rhain yn dal i ddod i'r amlwg, ond mae un ffactor pwysig nad yw'n amlwg eto ymhlith y gymuned fusnes, a dyna brif bwynt yr erthygl hon – allyriadau carbon gweithwyr o bell. 




Meysydd cyfrifoldeb 

Wrth i fusnesau roi strategaethau cynaliadwyedd, hinsawdd a SeroNet ar waith, maent yn dod yn ymwybodol iawn o'r cyfrifoldebau sydd arnynt ar draws tri maes penodol sy'n ymwneud â hinsawdd

Mae'r meysydd cyfrifoldeb hyn wedi cael eu diffinio gan y Protocol Nwy Tŷ Gwydr i ddisgrifio allyriadau nwyon tŷ gwydr gweithgareddau cwmni. Maent yn cynnwys allyriadau a gynhyrchir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y busnes, fel rhan o'i weithgareddau i fyny'r gadwyn gyflenwi ac yn is i lawr y gadwyn gyflenwi.  

Cyfeirir at y meysydd hyn yn syml fel Maes 1, Maes 2 a Maes 3.

  • Mae Maes 1 yn ymwneud ag allyriadau a gynhyrchir yn uniongyrchol gan y sefydliad, fel y rheini sy'n deillio o gerbydau, adeiladau, prosesau gweithgynhyrchu neu ollyngiadau o gyfarpar. 

  • Mae Maes 2 yn ehangach, gan gynnwys allyriadau anuniongyrchol a gynhyrchir gan fathau o ynni a gaiff eu prynu, fel trydan, stêm a gwres. Mae'r maes hwn hefyd yn cynnwys yr allyriadau a gynhyrchir gan y trydan a ddefnyddir gan ddefnyddwyr terfynol. 

  • Mae Maes 3 yn anodd, a gwneir buddsoddiadau helaeth ynddo ar hyn o bryd. Mae Maes 3 yn ymwneud â'r holl allyriadau eraill, gan gynnwys yr ynni a ddefnyddir gan y cyfleustodau wrth drawsyrru a darparu'r ynni, cludiant (cyflenwyr a chwsmeriaid), gwastraff, buddsoddiadau, nwyddau cyfalaf, masnachfreintiau a chymudo gan gyflogeion.

Allyriadau carbon gweithwyr o bell

Yn dechnegol, mae meysydd y Protocol Nwy Tŷ Gwydr braidd yn eang o ran rhoi cyfrif am ynni ac allyriadau carbon cysylltiedig gweithwyr o bell ac adrodd arnynt.

Mae Maes 3 yn cynnwys categori penodol ar gyfer cymudo gan gyflogeion yn ogystal â'r ynni a'r cyfarpar TG a gaiff ei brynu a'i ddefnyddio yn y swyddfa. Mae diffiniad Maes 3 Categori 7 Cymudo gan Gyflogeion yn awgrymu y gellir dewis p'un a ddylid cynnwys ‘teleweithwyr’ ai peidio. 

Yn yr oes sydd ohoni, mae angen mwy o bwyslais ar hynny, yn enwedig o ystyried bod Maes 2 yn ei gwneud hi'n ofynnol i gwmnïau ystyried yr ynni a ddefnyddir gan eu cwsmeriaid wrth iddynt ddefnyddio eu cynhyrchion neu wasanaethau..  

Er bod ceisiadau wedi dod i law i ddiweddaru'r canllawiau ar gyfer y meysydd, mae llawer o gwmnïau eisoes yn dewis gweithredu mewn ffordd integrus fwy blaengar, gan roi cyfrif am y defnydd ynni sy'n gysylltiedig â gweithwyr o bell sy'n gweithio o gartref ynghyd â gostyngiadau cysylltiedig o ran gofynion ynni'r swyddfa. 

Mae'r ardystiad B-Corp sy'n tyfu'n gyflym yn fwy caeth yn hyn o beth, ac mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i gwmnïau ddatgan defnydd ynni eu gweithwyr o bell. Gall hyn fod braidd yn gymhleth o safbwynt technegol ac o safbwynt moesegol. 

Mewn cyfweliad fideo â'r dylunydd gwefannau gwyrdd a'r arloeswr busnes cynaliadwy, mae Tom Greenwood yn rhannu'r anawsterau a gafodd wrth gymell staff i nodi eu gofynion ynni fel rhan o broses ardystio B-Corp.  



Roedd y canlyniad yn fwy cadarnhaol na'r disgwyl, a chafodd sgil effaith luosogol wrth i gartrefi cyfan, yn hytrach na dim ond cyflogeion unigol, symud tuag at ffynonellau ynni adnewyddadwy.. 

Ni waeth sut na phryd y bydd y Meysydd Nwy Tŷ Gwydr yn cynnwys allyriadau sy'n gysylltiedig â gweithio o bell, dylai busnesau blaengar sy'n ymwybodol o'r hinsawdd fod yn anelu at gyfrifo olion troed carbon digidol eu gweithwyr o bell fel rhan o brosiect mwy i ddeall olion troed carbon o bell cyfan eu cyflogeion. 

Y tu hwnt i'r rhesymau atebolrwydd carbon amlwg sy'n gysylltiedig â hyn, mae'n cynnig cyfle i gyflogwyr gefnogi costau gweithio o bell eu staff yn well yn ystod yr argyfwng yni parhaus, ac ar yr un pryd i fwrw ati hefyd i ymdrin â phwnc iechyd meddwl newydd – eco-bryder. 

Gweithwyr o bell ac eco-bryder 

Yn ddiau, gallai cynnwys eco-bryder mewn erthygl am olion troed carbon digidol ymddangos yn rhyfedd, ond mae'n faes cyfrifyddu carbon a all gael effaith gymdeithasol gadarnhaol annisgwyl.  Mae hefyd yn enghraifft ardderchog o'r cysylltiad annatod a geir yn aml rhwng ein heriau byd-eang.   

Yn ôl adroddiad Grist, cynyddodd y tueddiadau ar gyfer chwiliadau pryder hinsawdd fwy na 565% rhwng 2020 a 2021 o gymharu â'r 16 mlynedd cyn hynny. Ym mis Mai 2022, ysgrifennodd Cylchgrawn Smithsonian am astudiaeth fawr i'r pwnc, lle caiff pryder hinsawdd ei nodi fel maes o bryder cynyddol, yn enwedig mewn cenedlaethau ifancach.

Nododd y cyfweliad fel rhan sylweddol o'r ateb y dylid caniatáu i bobl ddod at ei gilydd, rhannu eu pryderon a theimlo eu bod wedi'u grymuso i wneud newidiadau fel rhan o ateb llawer mwy na nhw eu hunain. 

Dyma lle y gall ymgysylltu â chyflogeion ar olion troed carbon digidol arwain at symbiosis teirffordd rhwng cwmnïau, gweithwyr a'r blaned.  

I'r cwmni, bydd gweithio gyda gweithwyr o bell yn rhoi data a gwybodaeth bwysig iddo er mwyn gallu rheoli ei effaith garbon yn well ac adrodd arni, sy'n cysylltu â'i strategaeth gynaliadwyedd ehangach.

O safbwynt gweithwyr, os caiff y broses ei rhoi ar waith yn ofalus, ni fydd o bosibl yn ymddangos cymaint fel proses ymwthiol i olrhain a monitro gweithgareddau, ond yn hytrach fel dull gweithredu cydgysylltiedig er mwyn helpu i leihau eu heffaith gyfunol ar yr amgylchedd, ac effaith eu cyflogwr. 

At hynny, mae rhai o'r camau gweithredu y gall cyflogeion eu cymryd i leihau eu holion troed carbon digidol yn gymharol hawdd ac yn ymddangos yn fach, ond ar raddfa cwmni cyfan, bydd eu heffaith yn fawr o hyd. Mae hyn yn cynnig y cyfle i unigolion gymryd rhan mewn rhywbeth mwy, drwy gymryd camau cymharol fach. 

Mae'r gallu i gymryd camau bach fel rhan o ymgyrch fwy yn hanfodol wrth helpu unigolion i oresgyn petruster hinsoddol a gall fod yn gatalydd ar gyfer camau gweithredu personol pellach mewn perthynas â'r hinsawdd.

Yn amlwg, mae'r camau uchod o fudd i'r cwmni ac i'r unigolyn mewn sawl ffordd, y gallai pob un ohonynt arwain at leihau'r effaith gyfunol ar yr amgylchedd mewn ffordd ystyrlon. 

Ystyried olion troed carbon digidol gweithwyr o bell 

Wrth gyfrifo cyfraniad gweithwyr o bell at ôl troed carbon y cwmni, dylai cyflogwyr geisio casglu'r mathau canlynol o wybodaeth: 

  • nifer yr oriau a gaiff a weithiwyd  

  • y math o gyfarpar a ddefnyddiwyd hyd y defnydd

  • nifer yr oriau ar alwadau fideo 

  • faint o  ynni a ddefnyddiwyd o ran golau a gwres na fyddai wedi cael ei ddefnyddio pe bai'r cyflogai yn y swyddfa

  • faint o'r ynni a ddaeth o ffynonellau adnewyddadwy

Wrth gwrs, oran olion troed carbon digidol, rydym yn poeni llai am y defnydd golau a gwres cynyddrannol, ond mae gennym ddiddordeb mawr gwybod faint o ynni sy'n cael ei ddarparu gan ddarparwyr adnewyddadwy.. 

O safbwynt defnyddio technoleg, mae adnoddau gweithle yn golygu y gellir cyflwyno rhai adroddiadau canolog am yr amser y caiff ei defnyddio. Y tu hwnt i hyn, fel y dywedodd Tom Greenwood yn y cyfweliad uchod, gellir cymell staff i ddarparu diweddariadau rheolaidd a all fod yn ddienw ac y gellir eu cyfuno i greu cipolwg cyfannol.

Ond dylid nodi bod yn rhaid i gyflogwyr fod yn ofalus wrth geisio deall gweithgareddau eu gweithwyr o bell, yn enwedig gartref. Mae angen casglu gwybodaeth yn ofalus a chael caniatâd i wneud hynny, er mwyn osgoi ofnau preifatrwydd o ran gallu cyflogwyr i gael mynediad at ofod preifat cyflogeion.  

Lleihau olion troed carbon digidol o bell 

Fel y trafodwyd yn fanylach yn yr erthyglau blaenorol ar gaffael, ar TG ar safleoedd a'r cwmwl, daw'r effaith fwyaf o ran lleihau ein holion troed carbon digidol o arferion caffael cyfrifol gofalus, cynyddu defnydd oes cyfarpar TG a lleihau'r angen a'r galw am dechnoleg newydd 

Y tu hwnt i hynny, rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o'r ynni a ddefnyddir gennym, ac felly o'r carbon a allyrir gennym wrth ddefnyddio ein technolegau. Drwy ddod yn fwy ymwybodol o'r hyn a ddefnyddir gennym, a sut y gall newidiadau bach mewn ymddygiad gael effeithiau mawr ar y cyd, gallwn nodi sut i fynd i'r afael ag ynni a gaiff ei wastraffu.y. 

Gall lleihau'r ynni a gaiff ei wastraffu ein helpu i leihau symiau sylweddol o allyriadau carbon diangen. Gorau oll, gellir cyflawni rhai o'r meysydd lle gallwn gael effaith uniongyrchol ar garbon heb fawr effaith o gwbl ar ein cysur gweithio na'n cynhyrchiant.

Yn gyffredinol, dylech anelu at herio arferion digidol a thechnoleg sefydledig sy'n gwastraffu ynni'n anfwriadol. Dyma rai syniadau i'w hystyried: 

  • Peidiwch â gadael eitemau technoleg yn segur am gyfnodau hir. Hyd yn oed pan fyddant yn y modd ‘cysgu’, mae cyfrifiaduron, argraffwyr, pwyntiau mynediad WiFi, gwefrwyr a dyfeisiau bach oll yn defnyddio symiau bach o ynni a gall y symiau bach hynny, dros amser, o ddydd i ddydd ac o fis i fis, ddod i gyfanswm mawr.

  • Gostyngwch bethau fel ansawdd argraffwyr, disgleirdeb monitorau a phŵer trawsyrru WiFi o'r gosodiadau ffatri diofyn i lefelau is cyfforddus. 

  • Ffrydiwch lai o fideo naill ai drwy newid o HD i SD, neu drwy ddiffodd y cyfleuster fideo yn llwyr, yn enwedig os ydych yn cymryd rhan mewn llawer o alwadau fideo. 

Edrychwch allan am gyngor ac awgrymiadau manylach mewn erthyglau eraill yn y gyfres hon, ceir dolenni iddynt isod.

Crynodeb 

Gyda chyfrannau uwch o'r gweithlu yn cynnal eu dyletswyddau o bell o swyddfeydd wedi'u datganoli, mae ôl troed carbon sefydliad yn fwy gwasgaredig nag erioed o'r blaen. 

Rhaid i sefydliadau weithredu i ddeall olion troed carbon cyfunol eu gweithwyr o bell a darparu systemau i'w staff gyfrannu data'n ddiogel yn ogystal â chymryd rhan mewn mentrau arbed carbon cyfunol a chael eu gwobrwyo drwy fentrau o'r fath.

Mae effaith olrhain olion troed carbon gweithwyr o bell mewn ffordd gadarn, gynhwysol a diogel yn mynd y tu hwnt i ddatblygu gwell trefniadau ar gyfer cyfrifyddu carbon ac adrodd arno, gan helpu hefyd o bosibl i liniaru argyfwng iechyd meddwl arfaethedig. 


Mwy ar olion troed carbon


 


Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

HEFCW logo

 

Become an OU student

English

Author

Ratings & Comments

Share this free course

Copyright information

Skip Rate and Review

For further information, take a look at our frequently asked questions which may give you the support you need.

Have a question?