Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Lleihau ôl troed carbon TG ar safleoedd

Diweddarwyd Dydd Mawrth, 13 Medi 2022

Gydag adeiladau yn dod yn fwy ‘clyfar’, mae rheolwyr TG yn gynyddol gyfrifol am weithredu systemau rheoli adeiladau. Mae'r erthygl hon yn ystyried costau carbon olion troed carbon digidol TG ar safleoedd.

Dysgwch fwy am gyrsiau amgylchedd Y Brifysgol Agored



Lleihau olion troed carbon digidol asedau digidol

Mae olion troed carbon digidol ein hasedau technoleg wedi'u rhannu rhwng yr allyriadau carbon deuocsid cyfatebol (CO2e) a achosir wrth weithgynhyrchu, storio a chludo'r cynhyrchion a'r allyriadau a gynhyrchir drwy ddefnyddio a gwaredu.

Fel y trafodwyd yn yr erthygl Caffael Cyfrifol, nid oes cydbwysedd cyfartal rhyngddynt, a'r carbon uniongyrchol, neu ymgorfforedig, a'r carbon gwaredu yw'r ffactorau pwysig.

Er bod sawl rhan o'r gadwyn gyflenwi technoleg ar lwybr ynni adnewyddadwy tuag at ddatgarboneiddio, dylai pob un ohonom fabwysiadu dulliau sy'n fwy ystyriol o garbon a'r amgylchedd wrth brynu a gwaredu, gan mai dyma a gaiff yr effaith gyfunol fwyaf am flynyddoedd i ddod. 

Gan weithio gydag adrannau caffael, gall rheolwyr TG leihau cost garbon ymgorfforedig eu hasedau'n sylweddol drwy ddull gweithredu TG cylchol mewn perthynas ag ehangu oesoedd technoleg, penderfyniadau i ailbwrpasu cyfarpar a dulliau ailgylchu wedi'u dilysu.  Mae opsiynau technoleg wedi'i hailweithgynhyrchu a'i hadnewyddu yn dod yn gynyddol hygyrch, ac yn fwy ymarferol. 

Fodd bynnag, beth gellir ei wneud i leihau ôl troed carbon dyfeisiau a chyfarpar sydd eisoes yn cael eu defnyddio? 




Olion troed carbon digidol gweithredol

Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod ôl troed gweithredol cynhyrchion digidol yn cyfateb i 20% o gyfanswm allyriadau carbon oes, felly byddai'n hawdd i ni feddwl nad yw'n faes y dylid rhoi blaenoriaeth uniongyrchol iddo. Ond byddem yn anghywir.

Mae dau reswm am hyn.  

Yn gyntaf, bu ein defnydd o dechnoleg ddigidol ar gromlin twf esbonyddol ers degawdau.  Yn ôl adroddiadau, cafodd y twf hwn ei gyflymu gan bandemig COVID-19 yn ôl ffactor o chwech mewn rhai sectorau. 

Nawr, ar ôl uchafbwynt y pandemig a'r prinder sglodion, mae ein dibyniaeth ar dechnolegau digidol a'n defnydd ohonynt yn parhau ar lwybr esbonyddol, sy'n golygu, os na chaiff ei atal, y gallai'r costau gweithredol hefyd gyflymu ar raddfa sylweddol. 

Yn ail, ar adeg ysgrifennu'r erthygl, mae prisiau ynni byd-eang ar lefelau digynsail a disgwylir iddynt gynyddu ymhellach.  Fel y cyfryw, mae buddiannau ariannol ac amgylcheddol yn gysylltiedig â chanolbwyntio ar leihau costau carbon gweithredol. 

Mae'r symbiosis rhwng arbedion carbon ac arbedion ariannol yn wir mewn cyd-destun mwy cyffredinol hefyd, gydag ymdrechion i leihau allyriadau carbon yn aml yn cyd-fynd yn uniongyrchol â buddiannau diriaethol o ran elw.  Fodd bynnag, dangoswyd bod cais i weithredu sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd yn rheswm mwy cymhellol dros newid i lawer nag ymgyrchoedd ‘lleihau costau’ syml, gan felly arwain at ostyngiad mewn costau ariannol ac mewn costau carbon ag ymdrech gymhellol lai corfforaethol. 

Dibynnu ar ostyngiadau carbon gan gyflenwyr?

Fel rhan o ymdrech y gadwyn gyflenwi i symud i ynni adnewyddadwy, gallai fod yn deg tybio wrth i'r cyflenwadau ynni i'n cyfleusterau a'r cyfleusterau rydym yn dibynnu arnynt (e.e. y rhyngrwyd a seilwaith y cwmwl) ddatgarboneiddio, y bydd ein hôl troed gweithredol yn gwneud hynny hefyd. 

Yn wir, bydd hyn yn ffactor, ond roedd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn glir wrth nodi ei bryderon yn hyn o beth yn ei chweched adroddiad:  


‘There is growing concern that remaining [infrastructure] energy efficiency improvements might be outpaced by rising demand for digital services….’ 


Felly er y gallwn o bosibl ddibynnu ar ffactor maint y cwmwl, y rhyngrwyd a'r grid cenedlaethol fel ‘galluogwyr datgarboneiddio’, ni allwn roi cyfrifoldeb llwyr iddynt dros ein strategaeth gynaliadwyedd gyfan.

Olion troed carbon digidol gweithredol ar safleoedd

Mae’r term olion traed carbon digidol yn cwmpasu’n fras dechnolegau a pherifferolion a ddefnyddir naill ai i hwyluso ein gweithgareddau digidol, neu sy’n cael eu llywio ganddynt. Mae hyn yn cynnwys ymgeiswyr amlwg fel ffonau symudol a gliniaduron, ond mae hefyd yn ymestyn i eitemau llai amlwg fel pwyntiau mynediad Wi-Fi, dyfeisiau ‘clyfar’, synwyryddion IoT, camerâu IP, gwefannau, storio data, cyfryngau cymdeithasol a chyfarfodydd ar-lein.

Dyfeisiau fampir 

Daw tua 20% o ddefnydd ynni adeilad nodweddiadol, ac felly yr allyriadau carbon sy'n gysylltiedig ag ynni, o ddyfeisiau sy'n parhau i ddefnyddio cyflenwadau trydan pan fyddant wedi'u ‘diffodd’ i bob pwrpas.

Bydd y dyfeisiau hyn wedi'u plygio i mewn, gan naill ai anghofio amdanynt neu gymryd nad ydynt yn defnyddio llawer o ynni. 

Er enghraifft, mae seinydd clyfar Echo Amazon yn defnyddio rhwng 2.4W a 3.8W pan fydd wedi'i blygio i mewn, wedi'i gysylltu â Wi-Fi, yn gwneud dim ond gwrando. Efallai na fydd hynny'n swnio fel swm sylweddol, yn enwedig gan mai prif ddiben y ddyfais yw bod yn barod am orchymyn llais ar unrhyw adeg.  Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd cyfnodau rheolaidd lle y byddai'n annhebygol iawn y byddai angen y ddyfais;  dros nos, ar benwythnosau, yn ystod gwyliau ac ati. 


Amazon smart speaker


Byddai diffodd y seinydd clyfar dros nos (rhwng 11pm a 5am) yn arbed 22W o bŵer bob dydd, sy'n hafal i fwy nag 8kW y flwyddyn, sy'n cyfateb i ryw 2kg o CO2e neu yrru 5.56 milltir mewn car petrol nodweddiadol (defnyddiwyd ffactor trosi o 0.35915 o yma), sef, fel mae'n digwydd, yr un pellter â'r pellter cymudo dyddiol cyfartalog yn y DU. Felly, mae diffodd eich Alexa dros nos yn arbed cymaint o garbon mewn blwyddyn â theithiau cymudo cyfartalog gyrrwr car.

T dim ond un ddyfais fach yw honno.  Mae argraffwyr jetiau inc i gynhyrchwyr-ddefnyddwyr yn defnyddio tua'r un faint pan fyddant yn segur, ac mae cyfrifiaduron a gliniaduron yn defnyddio rhwng 2W a 10W o bŵer pan fyddant yn segur neu yn y modd cysgu. 

Er mwyn rhoi hyn mewn cyd-destun; byddai gadael deg gliniadur cyffredin yn segur dros nos am 365 diwrnod y flwyddyn yn gwastraffu 307kWh o drydan bob blwyddyn. Gan ddefnyddio dwysedd carbon byw grid cenedlaethol y DU, sef 226 gCO2e/kWh, mae hyn yn hafal i 69kg o allyriadau carbon o ddefnydd ynni diangen ar gyfer dim ond deg gliniadur.

Os oes gennych fwy na deg gliniadur, a chan ystyried yr amser y maent yn segur dros benwythnosau neu gyfnodau gwyliau, gall y rhif hwn ddod yn eithriadol o uchel.

Gweithredu ar uchafswm

Mae dyfeisiau fampir yn gyfrifol am allyriadau carbon digidol o'r defnydd o ynni a wastreffir o bethau wrth law. Maes cyffredin arall o wastraff ynni yn cael ei ddefnyddio yw dyfeisiau sy'n cael eu cludo gyda gosodiadau rhagosodedig diangen o uchel - disgleirdeb monitor LCD, pŵer trosglwyddo Wi-Fi, er enghraifft.

Yn fy ymchwil, ni wnaeth troi fy monitor i lawr o'r rhagosodiad 95% i 55% arwain at unrhyw wahaniaeth canfyddadwy o ran cysur neu ddefnydd, ond torrwch fy nefnydd o ynni ar gyfer yr un ddyfais honno gan 10w, ar unwaith. Cyfwerth o 4.7 kg CO2e y flwyddyn neu bron i £7 y flwyddyn ar brisiau heddiw o un ddyfais.

Mae'r enghreifftiau a grybwyllwyd uchod i gyd yn sicrhau arbedion o ran llai o wastraff ynni ac felly llai o allyriadau carbon, heb unrhyw wahaniaeth canfyddadwy i'r defnydd. Gall yr arbedion fod yn fach yn unigol, ond ar raddfa sefydliadol, gallant sicrhau effaith gynyddol ystyrlon

Fideogynadledda

Cynyddodd amlder cyfarfodydd ar-lein a galwadau fideo tîm yn sylweddol yn ystod COVID-19 ac mae llawer ohonom bellach o'r farn bod cynnal busnes o bell dros alwadau fideo yn well na'r opsiynau amgen. 

Wel, mae dwy ochr i'r geiniog. 

O'r holl ffactorau sy'n cyfrannu at ein holion troed carbon digidol, fideo yw'r mwyaf o bell ffordd.  Fideo ar y rhyngrwyd (ffrydio, fideogynadledda, camerâu diogelwch IP, gemau ac ati)  yw'r categori defnydd rhyngrwyd sy'n cynyddu fwyaf hefyd.


Video conference


Gan fod gan bob un beit o ddata ôl troed carbon, gall technolegau sy'n creu symiau mawr o ddata fel ffrydiau fideo fod yn gyfrifol am symiau anhygoel o garbon. 

Er enghraifft, gall galwad fideo HD un funud rhwng dau berson ar Zoom fod yn gyfrifol am 44g o CO2e bob munud. Unwaith eto, mae hyn yn ymddangos yn isel, ond o ystyried faint y caiff cyfarfodydd ar-lein eu defnyddio yn yr oes sydd ohoni, mae'n dod i gyfanswm o dunelli o garbon bob blwyddyn.

Mae cant o aelodau o staff sy'n cymryd rhan mewn dim ond dwy alwad Microsoft Teams un-i-un am awr y dydd dros flwyddyn waith nodweddiadol yn creu mwy na naw tunnell o CO2e y flwyddyn. Pe byddent yn defnyddio Zoom, byddai'n mwy na dyblu, gan fod gofynion lled band Zoom fwy na dwywaith cymaint.

Awgrym syml yn hyn o beth yw newid o HD i SD (gan haneru'r allyriadau) neu ddiffodd y cyfleuster fideo'n llwyr a defnyddio'r cyfleuster sain, fel y gwnaethom cyn i alwadau fideo ddod mor boblogaidd.  Byddai'r un senario Zoom uchod, ond gan ddefnyddio sain yn unig, yn lleihau'r allyriadau carbon digidol cysylltiedig 98%. 

Pan fydd ar safleoedd oddi ar safleoedd 

Mae rhai meysydd lle nad yw'r diffiniad o ‘TG ar safleoedd’ yn gwbl berthnasol, ond maent yr un mor ddilys.

Ynni o bell 

Yn dilyn newid wedi'i lywio gan y pandemig tuag at weithluoedd o bell a gwasgaredig, gallai fod yn hawdd syrthio i'r fagl ‘o'r golwg, o'r meddwl’.  Y tu hwnt i'r materion iechyd meddwl a chynhyrchiant sy'n gysylltiedig â'r dybiaeth ffug hon, rhaid i ni gydnabod mai'r sefydliad sy'n gyfrifol am yr ynni a ddefnyddir gan ein cydweithwyr (a hyd yn oed gan ddefnyddwyr terfynol wrth ddefnyddio ein cynhyrchion). 

Mae'r allyriadau hyn yn rhan o allyriadau Maes 3 y Protocol Nwy Tŷ Gwydr.  Fel y cyfryw, o safbwynt rheolwr TG, rhaid ystyried y cynhyrchion a gaffaelir at ddibenion gweithio y tu allan i'r swyddfa, a'r ynni a ddefnyddir ac a gaiff ei wastraffu wrth wneud hynny, hefyd a rhoi cyfrif amdanynt.

Rheoli adeiladau 

Mae mwy o'n hadeiladau yn dod yn ‘adeiladau clyfar’, ac fel y cyfryw yn fwy dibynnol ar TG. Mae rheolwyr TG yn dod yn gynyddol gyfrifol am weithredu systemau rheoli adeiladau, technolegau arddangos gwybodaeth a thechnolegau optimeiddio ynni.  Mae'r costau caffael a'r costau carbon gweithredol cysylltiedig hefyd yn rhan o'r ôl troed carbon digidol TG cyffredinol ar y safle. 

Crynodeb

Mae ôl troed carbon digidol cyfarpar TG ar safleoedd yn cynnwys allyriadau carbon ymgorfforedig, allyriadau carbon gweithredol ac allyriadau carbon gwaredu.  Er y gall arferion caffael cyfrifol helpu i raddau helaeth, ni ddylid anwybyddu ymwybyddiaeth o'r potensial y gallai allyriadau gweithredol gynyddu. 

Fel gyda phob agwedd ar fynd i'r afael â'n holion troed carbon digidol, ymwybyddiaeth a chamau bach yw'r man cychwyn.  

Mae'r cyfle i wella ymwybyddiaeth o ddefnydd ynni diangen anfwriadol, ac felly i'w leihau, yn cynnig potensial i wneud arbedion cost a charbon sylweddol ar raddfa eang, heb effeithio ar berfformiad na phrofiad. 


Mwy ar olion troed carbon


 


Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

HEFCW logo

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?