Dysgwch fwy am gyrsiau amgylchedd Y Brifysgol Agored
Fel y gwelir yn yr erthyglau eraill yn y gyfres hon (gweler isod), nid yw ein ffyrdd o fyw digidol yn ddi-garbon, gan fod y cynhyrchion a'r gwasanaethau technoleg digidol rydym yn eu prynu ac yn eu gwerthu oll yn cyfrannu at ein hallyriadau carbon cyfun.
Mae papur Exploring Digital Carbon Footprints Jisc yn nodi mai'r amcangyfrif gorau ar hyn o bryd o ôl troed carbon y rhyngrwyd yw tua 1.7bn o dunelli yn 2020. Pe ystyriwyd y rhyngrwyd fel gwlad, byddai yn y pedwerydd safle y tu ôl i Tsieina, UDA ac India o ran allyriadau byd-eang.
Fodd bynnag, mae union faint cyfanswm yr allyriadau carbon sy'n deillio o'n ffyrdd o fyw digidol yn destun trafod a gwaith ymchwil parhaus.
Un duedd na cheir dadlau yn ei chylch yw cyfradd twf technolegau digidol. Bu'n tyfu mewn ffordd esbonyddol ers masnacheiddio'r transistor, ac mae'r twf hwnnw'n parhau, er gwaethaf digwyddiadau byd-eang.
Mae technolegau digidol yn gyfrifol am allyriadau carbon o'r adeg y cânt eu creu, wrth eu defnyddio a'u gwaredu, a bydd eu twf esbonyddol parhaus yn parhau i gyfrannu at y twf mewn allyriadau carbon.
O safbwynt cadarnhaol, wrth i fwy o'r seilwaith cyflenwi a gweithredu technoleg symud o ynni sy'n seiliedig ar danwyddau ffosil, mae'n ddigon posibl y bydd y gyfradd twf yn arafu o fodelau esbonyddol i fodelau llinellol syml.
Gallai fod yn demtasiwn i sefydliadau ystyried nad yw olion troed carbon digidol yn bwysig o gymharu â rhannau eraill o'u busnes, ond o gofio'r pwyntiau uchod ac ymdrechion parhaus i drawsnewid diwydiannau cyfan i ddulliau gweithredu digidol, byddai hynny'n gamgymeriad.
Mae'r cyfle sy'n gysylltiedig â deall ein holion troed digidol corfforaethol a gweithredu arnynt yn ddeublyg:
- Ar y naill law, gall gostyngiadau mewn olion troed carbon digidol gael effaith sylweddol tymor agos a chanlyniadau eraill cadarnhaol ym mhob rhan o'r gweithlu, er enghraifft, goresgyn petruster hinsoddol a helpu i ymdrin ag eco-bryder. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler yr erthygl yn y gyfres hon ar weithio o bell.
- Ar y llaw arall, bydd sefydliadau sy'n gweithredu nawr i leihau eu hallyriadau digidol yn rhoi eu hunain ar drywydd gwell o ran cyflawni a chynnal strategaethau SeroNet wrth i ddulliau gweithredu digidol barhau i ddod yn fwy fwy amlwg.
Beth gall corfforaethau ei wneud i fynd i'r afael ag olion troed carbon digidol?
Mae'r llwybr tuag at reoli a lleihau olion troed carbon digidol yn gofyn am newidiadau o ran polisïau, gweithdrefnau ac ymddygiad.
Mae'r llwybr hwn yn dechrau â dau weithgaredd sylfaenol sy'n sail i'r awgrymiadau eraill y byddaf yn eu rhannu'n ddiweddarach ac yn hwyluso'r awgrymiadau hynny
- Yn gyntaf, rhaid i ni geisio creu darlun sy'n gwella'n barhaus o sefyllfa garbon y sefydliad ar y pryd, neu ei ‘linell sylfaen o ran carbon’.’.
- Yn ail, rhaid i ni wella ymwybyddiaeth o'r ffaith bod cost garbon yn gysylltiedig â dulliau gweithredu digidol, yn ogystal â buddiannau sylweddol. .
Datblygu’r llinell sylfaen
Wrth bennu ôl troed sefydliad, gan gynnwys ei ôl troed digidol, mae un o'r heriau mwyaf yn gysylltiedig â data a gwybodaeth – nid yw'r data yn ddigon cadarn neu nid oes digon o ddata ar gael eto. Mae hynny'n golygu na fydd unrhyw linell sylfaen o'r sefyllfa ar y pryd ddim ond cystal â'r wybodaeth sydd ar gael ar y pryd.
Mae'r data hyn yn gwella'n gyflym, sy'n golygu y bydd oes silff y llinell sylfaen yn naturiol yn fyr ac y bydd angen ei diweddaru'n barhaus
Wrth ddatblygu llinell sylfaen, dylai cwmnïau gofio cynnwys data o bob rhan o'u busnes; ymhellach i fyny'r gadwyn gyflenwi (oes eu cynhyrchion a'u gwasanaethau ar ôl eu cyflenwi), yn is i lawr y gadwyn gyflenwi (cyflenwyr, a chadwyni cyflenwi) a gweithredol.
Dylid mynd i'r afael â'r cysyniad ‘bod dulliau gweithredu digidol yn ddi-garbon’ a gwella ymwybyddiaeth y gall newidiadau o ran arferion prynu, defnyddio a gwaredu gael canlyniadau cynyddrannol effaith uchel i unigolion, i'r busnes ac i'r amgylchedd.
Ar ôl ei datblygu, dylid defnyddio'r llinell sylfaen ym mhob rhan o'r busnes i bennu cyllidebau carbon is, a fydd yn rhaeadru drwy haenau sefydliadol ac yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd tebyg i gyllidebau ariannol i gan hwyluso prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau, atebolrwydd a threfniadau cymell.
Gwella ymwybyddiaeth, llythrennedd carbon digidol
Gan fod technolegau digidol yn cynnig pob math o fuddiannau o gymharu â dewisiadau amgen, gan gynnwys osgoi costau a charbon – fel gostyngiadau o ran teithio, argraffu, gwastraff a thrafodion cyflymach, mwy effeithlon – mae tuedd i ystyried bod dulliau gweithredu digidol yn ddewis di-garbon.
Yn anffodus, er eu bod o bosibl yn cynnig opsiwn carbon is, nid yw dulliau gweithredu digidol yn ddi-garbon.
Dyma'r lle cyntaf i ddechrau. Dylid mynd i'r afael â'r cysyniad ‘bod dulliau gweithredu digidol yn ddi-garbon’ a gwella ymwybyddiaeth y gall newidiadau o ran arferion prynu, defnyddio a gwaredu gael canlyniadau cynyddrannol effaith uchel i unigolion, i'r busnes ac i'r amgylchedd.
Gellir bwrw ati o wahanol safbwyntiau:
Llywodraethu: Integreiddio llinellau sylfaen, ‘cynyddraddau carbon’ (gweler yr erthygl Caffael Cyfrifol isod) a chyllidebau carbon i brosesau rheolwyr ar gyfer gwneud penderfyniadau a threfniadau cymell.
Creu gemau: Gosod heriau lleihau carbon rhwng timau ac adrannau sy'n eu hannog i ddeall technoleg a'r defnydd o ynni.
Cyfathrebu: Cynnwys mesuriadau a thargedau carbon digidol fel rhan o drefniadau cyfathrebu ehangach mewn perthynas â chynaliadwyedd, yn ogystal â chynnig gwobrau a chydnabyddiaeth i unigolion am gyflawni gostyngiadau.
Syniadau ar gyfer lleihau ôl troed carbon digidol sefydliad
O ran lleihau olion troed carbon digidol ar draws sefydliad, mae amrywiaeth o weithgareddau y gellir ymgymryd â nhw.
Ar un pen o'r sbectrwm, mae prosiectau cyfalaf-ddwys y gall fod angen cryn ymdrech i'w cyflawni ond sy'n cael effaith uniongyrchol ar raddfa fawr – fel datblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy, neu newid i ffynonellau o'r fath, ar draws ystadau cyfan, neu gynnwys cyfrannau mwy sy'n cynyddu o elfennau caffael wedi'u hailweithgynhyrchu o fewn cylchoedd adnewyddu a phrynu cyfarpar.
Yn ogystal, mae newidiadau llai sy'n haws eu cyflawni y gellir eu gwneud ar lefel unigol. Mae'r newidiadau hyn yn cyflawni gostyngiadau carbon sydd, o gymharu, yn llawer llai yn eu rhinwedd eu hunain na phrosiect cyllideb fawr ar gyfer ystad gyfan, ond pan gânt eu lluosi ar draws gweithlu, gallant arwain at arbedion sylweddol.
Dyma rai syniadau o fentrau y gall corfforaethau eu rhoi ar waith i ddechrau mesur olion troed carbon digidol eu cwmni cyfan a'u lleihau.
Ynni Bach
‘Ynni bach’ yw'r ynni sydd ei angen i bweru cyfarpar trydanol llai fel gwefrwyr ffonau, argraffwyr, cyfrifiaduron, monitorau a chyfarpar swyddfa arall.
Mae gwaith ymchwil yn dangos y gellir priodoli mwy na 20% o ddefnydd ynni swyddfa i'r dyfeisiau hyn. Mae manylion yn yr adroddiad yn nodi y gallai gadael dim ond 10 cyfrifiadur bwrdd gwaith yn segur y tu allan i oriau gwaith gynhyrchu 145 kWhs o drydan er mwyn gwneud dim byd.
Gan ddefnyddio CarbonIntensity.org.uk i gyfrifo dwysedd carbon amser real Grid Cenedlaethol y DU (250gCo2e/kWh), mae 145 kWhs yn trosi i 36kg o garbon.
A dim ond 10 cyfrifiadur yw hynny: beth am gannoedd neu filoedd ohonynt. Wedyn ychwanegwch gost dyfeisiau llai effeithlon fel argraffwyr a pheiriannau gwerthu. Mae'n dechrau cynyddu'n gyflym iawn.
Mae yna systemau y gellir eu gosod mewn adeiladau ac ar gampysau sy'n cadw trac o'r dyfeisiau ‘fampirau ynni’ ac yn eu troi ymlaen a'u diffodd yn awtomatig. Mae un enghraifft o'r fath gan gwmni o'r enw Measureable Energy, a ymddangosodd ar y BBC i drafod y broblem, a sut mae'r datrysiad a grëwyd ganddo hefyd yn dangos pa mor ‘wyrdd’ yw'r ynni sy'n dod allan o'r soced ar y pryd.
Mae'r systemau hyn yn gofyn am fuddsoddiad a gwaith cynllunio, ond gellir eu cyflwyno'n awtomatig ar draws adeiladau cyfan.
WiFi Campws
Er y bydd fersiynau 5G yn y dyfodol yn cynnig buddiannau sylweddol o ran optimeiddio ynni, ar hyn o bryd, mae WiFi yn aml yn fwy effeithlon na dulliau cyfathrebu cellog. Dylai sefydliadau geisio optimeiddio'r rhwydweithiau WiFi er mwyn sicrhau effeithlonrwydd ynni a dylent wneud yn siŵr y gellir eu defnyddio ym mhob rhan o'u hadeiladau a'u tiroedd, ond hefyd bod modd i ymwelwyr eu defnyddio'n hawdd.
Mae hyn yn gofyn am waith cynllunio gofalus a gwaith i ddatblygu polisi TG er mwyn sicrhau bod rhwydweithiau WiFi yn cael gwared ar rwystrau mewngofnodi a'u bod yn gweithredu fel y cludwr diofyn ar gyfer y miloedd o ddarpar ddefnyddwyr ar eu safleoedd.
Mewn llawer o wledydd, mae cost data symudol wedi cyrraedd pris lle yn aml nad yw'n werth trafferthu i fewngofnodi i rwydwaith WiFi dim ond er mwyn arbed data. Felly mae angen i sefydliadau ddod o hyd i'r cymhellion cywir i sicrhau bod defnyddwyr yn mynd ati i gysylltu.
Gellid gwneud hynny drwy eu galluogi i fewngofnodi unwaith a dulliau eraill sy'n cynnig mynediad hawdd, neu drwy fuddiannau eraill fel mynediad hawdd i systemau corfforaethol neu fuddiannau yn y gweithle.
Gosodiadau diofyn cyfarpar TG
Dylai adrannau TG geisio rhoi polisïau newydd ar waith i sicrhau bod yr holl gyfarpar wedi'i osod i weithredu yn y dulliau mwyaf ynni effeithlon posibl.
Er enghraifft, dylid lleihau lefelau disgleirdeb monitorau newydd o'r gosodiadau ffatri diofyn sy'n nodweddiadol ar lefel uchel o >90% i lefelau sy'n ddefnyddiadwy ond sy'n arbed ynni, sef lefelau rhwng 50 a 60%.
Dylid galluogi'r modd tywyll fel modd diofyn ar ddyfeisiau symudol ag arddangosiadau OLED, gan y gall hyn arbed hyd at 30% o fywyd y batri, ac felly gynyddu'r amser rhwng ailwefru.
Dylid sicrhau bod gliniaduron yn defnyddio moddau arbed ynni a'u bod yn annog defnyddwyr i ddiffodd y pŵer pan na fyddant yn eu defnyddio.
Canolfannau data ar y safle
Mae sawl buddsoddiad mawr y gellir ei wneud er mwyn optimeiddio'r defnydd o ynni, ac felly allyriadau carbon canolfannau data ar y safle. Yn ogystal, mae nifer o arferion gorau bach, mwy hygyrch a all gael effeithiau mawr.
Gall corfforaethau ofyn am gymorth gan sefydliadau fel CEEDA a DEEP er mwyn dod yn fwy cynaliadwy. Fodd bynnag, mae rhai arferion gorau budd cyflym y gall rheolwyr canolfannau data ymchwilio iddynt sy'n gysylltiedig â llif aer.
Gall gwella'r llif aer wella effeithlonrwydd oeri ac felly leihau'r swm o ynni ac allyriadau sy'n gysylltiedig â gorbenion y ganolfan nad ydynt yn ymwneud â chyfrifiaduron.
- Archwiliwch wagleoedd o dan y llawr, gan gael gwared ar rwystrau fel ceblau, hambyrddau a pheipiau.
- Monitrwch y gwasgedd statig o dan y llawr, ac ymchwiliwch i'r ffactorau sy'n achosi amrywiadau.
- Sicrhewch nad oes aer oer yn dianc o'r semiau rhwng y waliau, gweinyddion a lloriau uwch neu brif linellau ceblau. Mae brwshis rhawn yn ffordd hawdd o atal gollyngiadau.
- Sicrhewch fod cyfraddau llif teils nenfwd a theils llawr yn addas ar gyfer y cabinetau y maent yn eu gwasanaethu.
Defnyddio'r cwmwl
Mae'r cwmwl wedi cynnig newid byd, ond fel y crybwyllir yn yr erthygl Lleihau ôl troed carbon digidol y cwmwl (gweler isod ar gyfer gweddill y gyfres), gall syndrom ‘o'r golwg, o'r meddwl’ chwarae rhan..
Wrth leihau olion troed carbon technolegau cwmwl, mae tri pheth i'w hystyried: data, trawsyrru a phrosesu.
Data
Mae fideo Sow a Seed Jisc yn datgan mai dim ond 6% o ddata a gaiff ei ddefnyddio'n rheolaidd. Mae hynny'n golygu o bosibl nad oes angen 94% o'r data a gaiff eu storio gennych neu y gellir eu symud i systemau storio all-lein.
Yn aml, ystyrir mai swyddogaeth statig heb orbenion yw storio data. Fodd bynnag, mae costau ynni ac allyriadau yn gysylltiedig â storio data yn y cwmwl, ynghyd ag effaith ar y galw am galedwedd ac felly ar garbon ymgorfforedig.
Mae Cylchgrawn Stanford yn awgrymu y gallai storio 100 gigabeit o ddata yn y cwmwl fod yn gyfrifol am ryw 0.18 i 0.2 tunnell o CO2e bob blwyddyn. Ar draws corfforaeth, mae sawl ffordd y gallai darnau 100GB ddod i gyfanswm mawr yn hawdd, fel copïau wrth gefn o ddata gliniaduron neu ffonau symudol diangen, ffeiliau wedi'u dyblygu, cipluniau bwrdd gwaith o bell ar gyfer cyn-gyflogeion, archifau wedi dyddio a ffeiliau a rennir.
Mae costau trawsyrru yn gysylltiedig â storio data yn y cwmwl yn ddiangen hefyd.
Trawsyrru
Mae cyfrifo cost amgylcheddol beit o ddata sy'n cael ei drawsyrru yn hafaliad hynod amrywiol a chymhleth y mae'n rhaid iddo ystyried nifer sylweddol o ffactorau allanol ac amrywiadau amseryddol. Fodd bynnag, cydweithiodd tîm byd-eang o wyddonwyr data i greu model wedi'i symleiddio sy'n amcangyfrif bod trawsyrru 1GB o ddata yn hafal i 419g o CO2e (yn seiliedig ar ddwysedd carbon cyfredol Grid Cenedlaethol y DU, fel y nodir uchod).
Os mai dim ond 6% o bob 100GB a gaiff ei storio yn y cwmwl a ddefnyddir, byddai hynny'n cyfateb i gynhyrchu bron i 40kg o CO2e diangen.
Prosesu
Fwy na thebyg mai dyma'r gweithgaredd hawsaf i'w ddeall o ran cyfrifiadura cwmwl – caiff ynni ei ddefnyddio pan gaiff apiau cwmwl eu defnyddio. Yn gynyddol, bydd yr ynni hwnnw yn cael ei ddarparu gan ffynonellau adnewyddadwy, ond nid yn ddieithriad am beth amser. Y tu hwnt i'r ynni, po fwyaf y bydd yn rhaid i ddarparwyr cwmwl gynyddu eu darpariaeth er mwyn darparu capasiti ar gyfer cyfrifiadura diangen, y mwyaf o galedwedd y bydd ei hangen arnynt, ac felly y mwyaf o galedwedd y bydd angen iddynt ei phrynu.
Awgrymiadau ar gyfer lleihau allyriadau cwmwl
- Dysgwch sut i fonitro ac olrhain allyriadau carbon darparwyr cwmwl Naill ai gan ddefnyddio dangosfyrddau'r darparwr ei hun, neu ddangosfyrddau eraill fel y prosiect cod agored Cloud Carbon Footprint neu opsiynau trydydd parti eraill fel GreenPixie.
- Edrychwch yn rheolaidd ar gamau dileu data polisïau cadw data a'u dilyn.
- Chwiliwch am gyfleoedd i storio data yn lleol neu gan ddefnyddio datrysiadau storio cyfrifiadura ymylol.
- Gostyngwch lefelau gweithredu gwasanaethau cwmwl yn ystod cyfnodau anweithgar, er enghraifft systemau adnoddau dynol pan fydd y swyddfa ar gau.
Awgrymiadau a syniadau pellach
Os byddwch yn edrych am fwy o syniadau o ran sut y gall corfforaethau leihau eu hôl troed carbon digidol, edrychwch ar yr erthyglau blaenorol yn y gyfres hon sydd hefyd yn cynnwys awgrymiadau perthnasol.
Mwy ar olion troed carbon
Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon