Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Sut y gall pob un ohonom fynd i'r afael â'n hôl troed carbon digidol

Diweddarwyd Dydd Gwener, 16 Medi 2022

Gall ymddangos yn llethol ond mae llawer o gamau y gallwn eu cymryd fel unigolion i leihau ein hôl troed carbon digidol. Gallwn eich helpu i ddechrau arni.

Dysgwch fwy am gyrsiau amgylchedd Y Brifysgol Agored



Olion troed llai 

Mae'r newid yn yr hinsawdd yn creu cyfres o heriau anferthol i ddynoliaeth. Mae un prif hanfod yn uno'r heriau hyn: osgoi effeithiau catastroffig y newid yn yr hinsawdd drwy gapio codiadau tymheredd byd-eang i 1.5℃.

Mae cyflawni hyn yn her eithriadol, a bydd angen i bob corfforaeth, llywodraeth a dinesydd wneud newidiadau cyflym a sylweddol i'n ffyrdd o fyw – rhai mwy nag eraill.

Er mai gwledydd a diwydiannau sy'n bennaf cyfrifol, mae cyfleoedd mawr o ran yr effaith y gall camau gweithredu cyfunol gan bob un ohonom ei chael.

Er mwyn cyflawni'r nod hwn, mae angen i wledydd, diwydiannau ac unigolion leihau eu holion troed carbon er mwyn cyflawni cyllidebau carbon blynyddol llawer is. Ar gyfartaledd, mae angen i bob un ohonom leihau cyfanswm ein hôl troed carbon o fewn cyllideb garbon bersonol o ddwy dunnell y flwyddyn. Mae hyn yn ostyngiad enfawr i'r rhan fwyaf o economïau datblygedig.

O fis Medi 2022, yn ôl Worldometer, ceir allyriadau carbon o 4.99 tunnell y pen yn y DU ar hyn o bryd, 4.65 yn Ffrainc, 8.56 yn yr Almaen, 4.89 yn Sbaen a 14.08 tunnell yn yr Unol Daleithiau.

Ymhlith y deg gwlad sy'n gyfrifol am yr allyriadau carbon mwyaf, dim ond India ac Indonesia sydd islaw'r gyllideb o ddwy dunnell ar hyn o bryd, sef 1.73 ac 1.84 tunnell o allyriadau carbon y pen bob blwyddyn.

Bydd angen cryn ymdrech ac ymrwymiad i leihau ein holion troed carbon, ond mae'n holl bwysig i bob un ohonom.

                 Graff yn dangos allyriadau carbon blynyddol cyfartalog y penAllyriadau carbon blynyddol cyfartalog y pen. Ffynhonnell: Worldometer, Medi 2022
Ble i ddechrau'r broses leihau?  

Er y gall hyn fod yn llethol, y newyddion da yw bod modd cyflawni'r nodau hyn drwy addasu rhai o'n bywydau a'n harferion.

Mae'r rhannau mwyaf o'n holion troed carbon unigol yn gysylltiedig â dim ond tri chategori – tai, teithio a bwyd.

Bydd lleihau'r defnydd ynni sydd ei angen ar gyfer tai (e.e. gwres, trydan ac oeri), ynghyd â lleihau teithiau mewn ceir diesel neu betrol, a bwyta llai o fwydydd sy'n cynnwys cig, yn cael effaith fawr ar ein holion troed unigol.

Ond beth yw rôl yr ôl troed carbon digidol yn hyn o beth?  

Dim ond ffracsiwn o gyfanswm ein hôl troed carbon yw ein holion troed carbon digidol, ond mae tri rheswm pam na ddylid eu hesgeuluso.

Rheswm 1: Esbonyddol a chynyddrannol 

Bu ein dibyniaeth gyfunol ar dechnolegau digidol a'n defnydd ohonynt ar gyfradd twf esbonyddol ers degawdau ac nid oes unrhyw awgrym y bydd y gyfradd honno'n arafu. Po fwyaf y bydd yn parhau i dyfu, y mwyaf y daw'r ôl troed carbon digidol. 

Rheswm 2: Trawsbynciol

Mae ein gweithgareddau digidol yn dylanwadu ac yn effeithio ar ein hallyriadau ar draws categorïau eraill, gan gynnwys allyriadau sy'n gysylltiedig â thai a theithio.

Rheswm 3Grymusol

Fel y crybwyllir yn yr erthygl ar weithio o bell (y ceir dolen iddi isod), mae rhai o'r camau y gallwn eu cymryd i leihau ein holion troed carbon digidol personol yn fach, ond yn cael effaith fawr. Gall y camau hyn sy'n haws eu gweithredu helpu i oresgyn rhywfaint o'r petruster a'r anobaith y bydd llawer yn ei deimlo wrth geisio deall sut y gall eu camau gweithredu unigol ddechrau cyfrannu at yr her fyd-eang, a thrwy hynny helpu i annog pobl i fwrw ati i wneud newidiadau.

Beth y gallwn ni ei wneud fel unigolion?

Yn syml, mae angen i ni brynu llai a defnyddio llai. Mae prynu llai yn golygu defnyddio ein technolegau am gyfnod hwy a dewis opsiynau mwy cynaliadwy wrth gaffael eitemau newydd neu wrth adnewyddu eitemau.


Awgrymiadau ar gyfer lleihau carbon ymgorfforedig


  • Ehangwch oes ddefnyddiadwy eich technoleg drwy ystyried opsiynau uwchraddio neu atgyweirio.

  • Dewch o hyd i gartref newydd i dechnoleg nad yw'n addas at eich diben chi mwyach. Chwiliwch am gyfleoedd i helpu eraill i osgoi prynu eitemau newydd drwy gynnig eitemau technolegol nad oes eu hangen arnoch chi iddyn nhw.

  • Edrychwch ar gynhyrchion wedi'u hadnewyddu a'u hailweithgynhyrchu, ar farchnadoedd fel Back Market, Reebelo, Cashify a Swappie. Mae gwasanaeth arall o'r enw Grover yn cynnig model tanysgrifio ar gyfer eitemau electronig fel dewis amgen i'w prynu.

  • Mae brandiau mawr yn gwneud mwy o ymdrech i gynnig opsiynau wedi'u hadnewyddu a'u hailweithgynhyrchu, fel porth Second Chance Amazon.

  • Edrychwch am ardystiadau a safonau newydd, fel nod barcud y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) ar gyfer ailweithgynhyrchu neu ardystiad Carbon Niwtral yr Ymddiriedolaeth Garbon.


Carbon neutral certificationsArdystiad Carbon Niwtral yr Ymddiriedolaeth Garbon, nod barcud y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) a'r Safon Ôl Troed Carbon.


  • Pan na fydd modd defnyddio'r cynnyrch mwyach neu nad oes ail neu drydydd fywyd ar gael iddo, dewiswch opsiwn ailgylchu cylchol ar gyfer eich technoleg.

  • Mae cyflenwyr brandiau mawr yn cynnig mwy o opsiynau cyfnewid neu ailgylchu technoleg. Er enghraifft:
    • Mae Apple yn cynnig opsiynau cyfnewid a/neu ailgylchu gan ddibynnu ar eich gwlad.
    • Mae Amazon yn darparu gwasanaeth ailgylchu drwy ei borth Second Chance.
    • Mae Currys, y manwerthwr o'r DU, yn cynnig opsiwn ailgylchu technoleg fel rhan o'i wasanaeth.


Addasu ein hymddygiad prynu yw'r peth unigol pwysicaf y gallwn ei wneud a fydd o fudd i'n hôl troed digidol, ac i'n hôl troed carbon yn ehangach.  Fodd bynnag, mae mwy y gallwn ei wneud i leihau'r allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â'n defnydd o dechnoleg.

Lleihau carbon gweithredol – technoleg fideo 

Mae technolegau sy'n dibynnu ar anfon deunydd fideo ar draws rhwydweithiau ymhlith y ffactorau sy'n cyfrannu fwyaf at olion troed carbon digidol. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i'r swm o ddata a gynhyrchir ganddynt, yn ogystal â'r ynni a'r cyfarpar sydd eu hangen i drawsyrru, storio, prosesu a chyflwyno'r data hynny. 

O ystyried hynny, lleihau ein defnydd o fideo yw'r cam cyntaf yn ein hymdrech i leihau'r allyriadau carbon a gynhyrchir gennym wrth ddefnyddio technolegau digidol. Wedyn, gallwch chwilio am gyfleoedd i leihau unrhyw ddefnydd diangen o bŵer drwy ostwng lefelau dyfeisiau, neu eu diffodd. 

Awgrymiadau ar gyfer lleihau carbon gweithredol 


  • Diffoddwch ddyfeisiau, yn hytrach na'u gadael yn y modd segur: Rydym wedi dod i arfer â gadael ein dyfeisiau yn y modd segur, neu ynghwsg. Yn aml, dim ond symiau bach o bŵer y bydd y dyfeisiau hyn yn eu defnyddio pan fyddant yn y cyflyrau hyn. Yn unigol, mae'r pŵer a ddefnyddir i raddau helaeth yn ddibwys, ond bydd sawl dyfais heb eu diffodd am 24 awr y dydd, 365 o ddiwrnodau'r flwyddyn yn defnyddio pŵer sylweddol. Er enghraifft:
    • Gallai dadblygio Amazon Echo dros nos arbed 3 watt yr awr, sy'n gyfwerth ag 8.7 kWh dros gyfnod o flwyddyn. Gan ddefnyddio prisiau ynni heddiw, mae hynny'n cyfateb i bron i £4 o drydan wedi'i wastraffu o un ddyfais nad yw'n cael ei defnyddio, neu bron i 1.5 kg o CO2e.
    • Gallai diffodd gliniadur yn lle ei adael yn segur arbed hyd at 9 kg o CO2e bob blwyddyn.

  • Lleihau lefelau a lliwiau: Gall lleihau lefelau disgleirdeb awtomatig ar setiau teledu a monitorau leihau'r swm o bŵer a ddefnyddir i'w rhedeg yn sylweddol, heb gael llawer o effaith (os o gwbl) ar gysur gwylio. Er enghraifft:
    • Mae lleihau disgleirdeb monitor 4K my BenQ o'r gosodiadau ffatri, sef 95%, i 60% yn atal 2.6 kg o CO2e bob blwyddyn o'r un ddyfais honno.
    • Gall dewis y modd tywyll ar ffonau clyfar â thechnoleg arddangos OLED arbed hyd at draean o'r batri, sy'n golygu y bydd angen i chi ei wefru lai, gan felly wneud arbedion egni a charbon cynyddrannol pellach.

  • Cael eich clywed ac nid eich gweld: Wrth gymryd rhan mewn galwadau fideo, dewiswch ddefnyddio'r fideo manylder safonol (SD) yn hytrach na manylder uchel, gostyngwch ddisgleirdeb eich monitor, ac os nad yw'r fideo yn ychwanegu gwerth i'r alwad (fel sy'n aml yn wir wrth ymuno â chyfarfodydd aml-aelod), diffoddwch y fideo a dibynnwch ar y sain yn unig – hyd yn oed os mai dim ond ran o'r cyfarfod y byddwch yn gwneud hynny. Er enghraifft:
    • Gallai galwad fideo awr o hyd rhwng dau berson gynhyrchu cymaint â 2.3 kg o CO2e, o gymharu â 90g ar gyfer galwad sain yn unig.

  • Mesur, tracio ac arbrofi: Os bydd eich darparwr ynni wedi gosod Mesurydd Deallus, gallwch roi cynnig ar droi pethau ymlaen a'u diffodd er mwyn gweld faint o ynni y maent yn eu defnyddio pan fyddant yn cael eu defnyddio a phan fyddant yn segur. Os oes gennych blwg deallus* fel yr un a ddangosir yma, mae llawer ohonynt yn cynnwys metrigau defnydd ynni a all ddarparu'r un wybodaeth â Mesurydd Deallus. 


Dau blwg deallus


*Nodiadau ar blygiau deallus: fel unrhyw ddyfais drydanol a gaiff ei gadael wedi'i phlygio i mewn, mae'r rhain hefyd yn defnyddio swm bach o ynni dim ond wedi'u plygio i mewn. Os ydych yn bwriadu eu defnyddio am fwy na hapwiriadau neu arbrofion, gwnewch yn siŵr bod y swm o ynni y byddwch yn ei arbed drwy ddiffodd dyfeisiau atodedig yn fwy na'r swm y byddech yn ei wario yn eu gosod. Peidiwch â phrynu plwg deallus ar gyfer arbrawf untro, neu os mai dim ond swm bach o ynni y byddwch yn ei arbed. Mae'n debygol y bydd carbon ymgorfforedig prynu un newydd yn gwrthbwyso'r rhan fwyaf o arbedion carbon bach sy'n gysylltiedig ag ynni. Os gallwch rannu plwg neu gael benthyg un, mae'n well na'i brynu.

Mwy ar olion troed carbon


 


Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

HEFCW logo

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?