Mae bod â sgiliau da mewn mathemateg yn bwysig mewn bywyd beunyddiol. Yn wir, mae’n bosibl nad ydych wedi sylwi pa mor aml rydych yn defnyddio mathemateg o ddydd i ddydd. Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn mathemateg, ac mae wedi’i gynllunio i’ch ysbrydoli i wella eich sgiliau mathemateg presennol ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd y gallech fod wedi’u hanghofio.
Bydd gweithio drwy’r enghreifftiau a’r gweithgareddau
rhyngweithiol yn y cwrs hwn yn eich helpu, ymhlith pethau eraill, i gyfrifo
faint o baent y bydd ei angen arnoch ar gyfer addurno, a throsi arian, neu
symud ymlaen yn eich gyrfa neu addysg bellach. I gwblhau’r cwrs hwn, bydd angen
i chi ddefnyddio cyfrifiannell, papur a phen, a phrotractor.
Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.
First Published: 14/05/2019
Updated: 15/04/2020