3 Cyfryngu cymdeithasol
Mae damcaniaethau cymdeithasol-ddiwylliannol o'r farn bod dysgu yn greiddiol i arfer, a deellir bod pob arfer yn gymdeithasol. Mae cymryd rhan yn arferion sefydliad addysgol neu weithle yn enghraifft o weithgaredd cymdeithasol. Felly, mae'n amlwg nad yw dysgu yn rhywbeth sydd ond yn digwydd fel rhan o weithgareddau a sefydliadau penodol ar adegau penodol; yn hytrach, mae'n rhan o'n profiad byw beunyddiol wrth i ni gymryd rhan yn y byd. Mae'n rhan o'r hyn y mae pobl yn ei wneud wrth ymgymryd â'r arferion sy'n gysylltiedig ag addysg, gwaith, siopa, gofalu am deulu, ac ati. Ar sail y syniad hwn o ddysgu, ni ellir gwahanu'r cyd-destunau lle y mae pobl yn dysgu a chyd-destunau bywyd beunyddiol: mae'r ddau yn darparu cyfleoedd gwahanol i ddysgu.
Gweithgaredd 5
Mae Patricia Murphy wedi ysgrifennu rhai nodiadau ar y pwnc hwn. Gallwch lawrlwytho'r nodiadau a'u darllen drwy ddilyn y ddolen isod.
Ystyriwch y dystiolaeth a'r ddadl a gynigir yn y bennod. A yw'n ategu damcaniaeth gymdeithasol-ddiwylliannol o ddysgu yn eich barn chi?
Sut y byddech yn egluro amharodrwydd yr athrawon masnach i ystyried eu hunain yn ddysgwyr neu i gydnabod gweithgarwch yn y rhyng-fannau fel dysgu?
Gwnewch nodiadau am nodweddion y mannau trosiannol hyn ac ystyriwch beth y gallentei awgrymu o ran sut i ategu dysgu.
Gadael sylw
Ymddengys fod yr athrawon masnach o'r farn mai dim ond mewn mannau penodol a lle bo hynny'n nod penodol, bwriadol y byddant yn dysgu. Mae hyn yn awgrymu hefyd mai dim ond mathau penodol o wybodaeth a gydnabyddir fel dysgu. Mae hyn yn debyg iawn i'r syniad o 'wybodaeth' a drafodwyd yn 'Testing Times' sef mai'r hyn a gydnabyddir fel yr hyn a ddysgir yw'r hyn y gellir ei nodi'n benodol, ei egluro a'i grynhoi; nid yw'n ymwneud â gwybod sut i ymddwyn a gaiff ei lywio gan ddealltwriaeth amlwg o'r unigolyn a'r grŵp. O safbwynt cymdeithasol-ddiwylliannol, mae'r diddordeb yng nghredoau'r athrawon masnach yn ymwneud â'u dylanwad posibl ar eu dysgwyr pe byddent ond yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi mathau penodol o ddysgu. Bydd hyn yn cyfryngu'r hyn a gynigir i'w dysgwyr ei ddysgu ac felly mae'n rhaid ei ystyried wrth geisio deall dysgu a chyflawniadau eu myfyrwyr.
Mae archwiliad Solomon a'i chydweithwyr o fannau hybrid yn awgrymu eu bod yn caniatáu i fathau mwy llorweddol o gydberthnasau ac arbenigedd ddatblygu, ac yn dilysu arferion rhwng cydweithwyr a oedd yn osgoi heriau i hunaniaethau proffesiynol. Noda'r canfyddiadau fod cryn dipyn yn cael ei ddysgu yn y mannau hybrid hyn: yn wir, yn aml mwy nag yn y mannau dysgu ffurfiol, os ystyriwch safbwyntiau'r athrawon am hyfforddiant mewn swydd (HMS). Un o nodweddion addysgeg allweddol y ffactorau sy'n rhyngweithio o fewn mannau hybrid oedd eu bod yn galluogi deialog a oedd yn mynd i sawl cyfeiriad, a'u bod yn fannau 'diogel' lle y gellir mynegi syniadau a dechrau cyflwyno ffyrdd newydd o feddwl. Un pwynt pwysig a wnaed yw bod hunaniaethau proffesiynol yn drosiannol yn y mannau hyn. Mae hyn yn ei gwneud hi'n bosibl cymryd risgiau gan fod y rhagdybiaethau o ran cymhwysedd a statws cyfraniadau unigol yn wahanol rhwng y mannau trosiannol hyn a mannau dysgu ffurfiol. Mae'r amharodrwydd i ffurfioli'r mannau trosiannol hyn yn arwyddocaol gan ei fod yn dynodi rhywbeth am y ffordd y mae'r cyfranogwyr yn gwerthfawrogi'r hyn y mae'r mannau hyn yn ei gynnig iddynt.
Roedd y mannau hybrid hyn yn rhoi cyfle i bobl ystyried eu dysgu ac yn rhoi amser iddynt fyfyrio, yn wahanol i fannau dysgu ffurfiol. Roeddent hefyd yn rhoi cyfle i unigolion gael adborth, meithrin cydberthnasau newydd a chreu cysylltiadau i wybodaeth na fyddai'r gweithle o bosibl yn eu cynnig mewn mannau mwy ffurfiol. Felly, mae'r holl nodweddion hyn yn awgrymu rhywbeth am y ffordd y caiff dysgu ei alluogi. Os ceir anawsterau dysgu, mae'n awgrymu yn hytrach na disgwyl i'r dysgwr egluro'r anhawster ar ei ben ei hun, y dylid rhoi sylw hefyd i'r mannau dysgu er mwyn ystyried i ba raddau y maent yn creu amodau'r mannau trosiannol hyn:
gan gynnig ymdeimlad o ddiogelwch
gan ddilysu mynegiant o ansicrwydd ynghylch ffordd o feddwl, ac o ddysgu fel rhywbeth sy'n digwydd drwy hap a damwain
gan annog pobl i wrando ac i rannu
lle mai'r cyfranogwyr yn hytrach na ffigwr o awdurdod sy'n pennu'r agenda ac, yn bwysig, sy'n penderfynu beth yw canlyniad gwerthfawr.
Mae Solomon et al hefyd yn sôn am y gwaith hunaniaeth parhaus sy'n mynd rhagddo wrth i bobl negodi a rheoli hunaniaethau yn y mannau sydd ar gael iddynt yn y gweithle. O fewn syniad cymdeithasol-ddiwylliannol o ddysgu, mae hunaniaeth yn ffactor allweddol wrth ddeall dysgu a'r hyn a allai ei danseilio.