Mae'r cwrs rhad ac am ddim hwn, “Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Lleoliadau Iechyd Meddwl a Charchardai”, yn cyflwyno syniadau ac arferion allweddol ymwybyddiaeth ofalgar, yn disgrifio sut mae'n helpu i gwnsela cleientiaid a charcharorion, a hefyd yn edrych ar rai o'r beirniadaethau y mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi'u cael yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
diffinio ymwybyddiaeth ofalgar
ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn eich bywyd bob dydd
deall sut mae ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu helpu cleientiaid sydd ag anawsterau iechyd meddwl
disgrifio sut y gall ymwybyddiaeth ofalgar fod yn ddefnyddiol mewn carchardai
gwerthuso'r 'mudiad ymwybyddiaeth ofalgar' yn feirniadol.