Strwythur y cwrs
Mae pum adran i'r cwrs hwn, gyda phob un yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar gefnogi datblygiad plant.
- Mae Datblygu a rheoli cydberthnasau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn edrych ar gamau datblygiad plentyn drwy ddefnyddio astudiaethau achos a chyflwyniad i theori datblygiad plentyn. Mae'n ystyried rolau'r teulu, yn ogystal â gweithwyr cymorth, mewn perthynas â'r datblygiad hwn.
- Mae Annog darllen yn ystyried sut mae plant yn dysgu sut i ddarllen a datblygu sgiliau llythrennedd o'r adeg pan fyddant yn fabanod hyd at pan fyddant yn yr ysgol uwchradd.
- Mae Rheoli ymddygiad yn edrych ar achosion posibl ymddygiad plant a phobl ifanc a rhai strategaethau cyffredin ar gyfer rheoli ymddygiad.
- Mae Anghenion arbennig yn edrych ar beth yw ystyr anghenion addysgol arbennig (AAA) a rôl cynorthwywyr addysgu wrth helpu plant sydd ag AAA. Yn y dyfodol, bydd hyn yn newid o AAA i ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol)
- Mae Cynllun datblygu proffesiynol (CDP) yn edrych ar bwysigrwydd myfyrio ar eich ymarfer eich hun a gall llunio CDP eich helpu i feddwl am eich datblygiad personol a datblygiad eich gyrfa.
Gyda'i gilydd, maent yn creu amser astudio o tua 15 awr. Mae pob adran yn cynnwys cymysgedd o ddeunydd darllen, clipiau fideo, gweithgareddau a chwisiau a fydd yn eich helpu i ymgysylltu â chynnwys y cwrs.
Bydd adran arall, Datblygu'r hyn rwyf wedi'i dysgu ymhellach, yn eich galluogi i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu ar y cwrs hwn. Mae hefyd yn eich cyfeirio at wefannau ac adnoddau perthnasol, sydd hefyd yn ymwneud â'r broses o ddatblygu eich dysgu a'ch rhagolygon gyrfa.
Ar ôl i chi astudio adran, gofynnir i chi gwblhau cwis ar-lein byr sy'n cynnwys hyd at bum cwestiwn fesul adran. Bydd hyn yn eich helpu i brofi a sefydlu eich dysgu.
Mae Cefnogi datblygiad plant wedi'i gynllunio i'ch galluogi i ddefnyddio'r adnoddau fel y mynnwch, gan astudio fesul tipyn er mwyn cyd-fynd â'ch gwaith a'ch ymrwymiadau mewn bywyd. Os byddwch yn dewis cwblhau pob adran o Cefnogi datblygiad plant a chasglu'r bathodyn, gallwch lawrlwytho datganiad cyfranogi sy'n cydnabod eich cyflawniad. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol i'w ddangos i'ch cyflogwr fel tystiolaeth o'ch dysgu. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ennill eich bathodynnau, darllenwch Beth yw bathodyn?
Gwe-lywio'r wefan
Gallwch ganfod eich ffordd o amgylch y cwrs hwn drwy glicio ar y dolenni. Mae'r hafan yn cynnwys dolenni i'r holl adrannau, cwisiau ac adnoddau perthnasol. Pan fyddwch mewn adran, bydd y ddewislen ar yr ochr chwith yn cynnwys dolenni i bynciau'r adran honno a'r cwis cysylltiedig. Mae'r ddewislen hefyd yn cynnwys dolenni i adrannau eraill o Cefnogi datblygiad plant ac i'r adran adnoddau.
Os nad ydych yn siŵr, symudwch eich llygoden dros un o'r dolenni yn y ddewislen a chlicio arni. Dyma'r ffordd hawsaf o symud o dudalen i dudalen. Gallwch hefyd glicio ar y ddolen 'Nesaf: … ’ ar waelod pob tudalen o destun. Peidiwch â phoeni am dorri dolen na difrodi'r we-dudalen – ni fydd hynny'n digwydd. Rhowch gynnig arni cyn gynted â phosibl cyn i chi ddechrau astudio.