Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Strwythur y cwrs

Mae pum adran i'r cwrs hwn, gyda phob un yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar gefnogi datblygiad plant.

  1. Mae Datblygu a rheoli cydberthnasau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   yn edrych ar gamau datblygiad plentyn drwy ddefnyddio astudiaethau achos a chyflwyniad i theori datblygiad plentyn. Mae'n ystyried rolau'r teulu, yn ogystal â gweithwyr cymorth, mewn perthynas â'r datblygiad hwn.
  2. Mae Annog darllen yn ystyried sut mae plant yn dysgu sut i ddarllen a datblygu sgiliau llythrennedd o'r adeg pan fyddant yn fabanod hyd at pan fyddant yn yr ysgol uwchradd.
  3. Mae Rheoli ymddygiad yn edrych ar achosion posibl ymddygiad plant a phobl ifanc a rhai strategaethau cyffredin ar gyfer rheoli ymddygiad.
  4. Mae Anghenion arbennig yn edrych ar beth yw ystyr anghenion addysgol arbennig (AAA) a rôl cynorthwywyr addysgu wrth helpu plant sydd ag AAA. Yn y dyfodol, bydd hyn yn newid o AAA i ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol)
  5. Mae Cynllun datblygu proffesiynol (CDP) yn edrych ar bwysigrwydd myfyrio ar eich ymarfer eich hun a gall llunio CDP eich helpu i feddwl am eich datblygiad personol a datblygiad eich gyrfa.

Gyda'i gilydd, maent yn creu amser astudio o tua 15 awr. Mae pob adran yn cynnwys cymysgedd o ddeunydd darllen, clipiau fideo, gweithgareddau a chwisiau a fydd yn eich helpu i ymgysylltu â chynnwys y cwrs.

Bydd adran arall, Datblygu'r hyn rwyf wedi'i dysgu ymhellach, yn eich galluogi i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu ar y cwrs hwn. Mae hefyd yn eich cyfeirio at wefannau ac adnoddau perthnasol, sydd hefyd yn ymwneud â'r broses o ddatblygu eich dysgu a'ch rhagolygon gyrfa.

Ar ôl i chi astudio adran, gofynnir i chi gwblhau cwis ar-lein byr sy'n cynnwys hyd at bum cwestiwn fesul adran. Bydd hyn yn eich helpu i brofi a sefydlu eich dysgu.

Mae Cefnogi datblygiad plant wedi'i gynllunio i'ch galluogi i ddefnyddio'r adnoddau fel y mynnwch, gan astudio fesul tipyn er mwyn cyd-fynd â'ch gwaith a'ch ymrwymiadau mewn bywyd. Os byddwch yn dewis cwblhau pob adran o Cefnogi datblygiad plant a chasglu'r bathodyn, gallwch lawrlwytho datganiad cyfranogi sy'n cydnabod eich cyflawniad. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol i'w ddangos i'ch cyflogwr fel tystiolaeth o'ch dysgu. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ennill eich bathodynnau, darllenwch Beth yw bathodyn?

Gwe-lywio'r wefan

Gallwch ganfod eich ffordd o amgylch y cwrs hwn drwy glicio ar y dolenni. Mae'r hafan yn cynnwys dolenni i'r holl adrannau, cwisiau ac adnoddau perthnasol. Pan fyddwch mewn adran, bydd y ddewislen ar yr ochr chwith yn cynnwys dolenni i bynciau'r adran honno a'r cwis cysylltiedig. Mae'r ddewislen hefyd yn cynnwys dolenni i adrannau eraill o Cefnogi datblygiad plant ac i'r adran adnoddau.

Os nad ydych yn siŵr, symudwch eich llygoden dros un o'r dolenni yn y ddewislen a chlicio arni. Dyma'r ffordd hawsaf o symud o dudalen i dudalen. Gallwch hefyd glicio ar y ddolen 'Nesaf: … ’ ar waelod pob tudalen o destun. Peidiwch â phoeni am dorri dolen na difrodi'r we-dudalen – ni fydd hynny'n digwydd. Rhowch gynnig arni cyn gynted â phosibl cyn i chi ddechrau astudio.