Pam y dylech astudio'r cwrs hwn?
Nawr, bydd Jennifer Colloby, un o gyfranwyr y cwrs hwn, yn rhoi ychydig o gefndir i chi am y rheswm pam y gallech fod am astudio'r cwrs hwn. .
Transcript
Helo. Fy enw yw Jennifer Colloby ac rwy'n aelod o'r tîm a ddatblygodd y cwrs hwn.
Croeso i Cefnogi datblygiad plant. Drwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn cael cyflwyniad i rai o'r gwobrau a'r heriau a wynebir gan gynorthwywyr addysgu a chydweithwyr eraill sy'n gweithio gyda phlant mewn ysgolion. Os byddwch yn cwblhau'r asesiad byr ar ddiwedd pob adran, byddwch yn gallu casglu bathodyn adran. Rhoddir y bathodynnau rhithwir hyn i gydnabod yr hyn rydych wedi'i ddysgu a gallwch eu harddangos ar eich proffiliau cyfryngau cymdeithasol – er enghraifft, ar LinkedIn a Facebook.
Mae Cefnogi datblygiad plant yn cynnwys pum adran. Mae'r adrannau y byddwch yn eu hastudio yn seiliedig ar themâu a damcaniaethau cyffredin sy'n rhoi cipolwg ar y ffordd orau o gefnogi datblygiad plant.
Yn Adran 1 byddwch yn archwilio datblygiad cydberthnasau plant yn y teulu ac yn yr ysgol.
Nod Adran 2 yw eich cyflwyno i rai agweddau ar ddatblygiad plentyn mewn perthynas â'r broses o ddatblygu sgilau llythrennedd a darllen.
Yn Adran 3, byddwch yn darganfod bod rheoli ymddygiad yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth yn helpu plant i ymddwyn mewn ffyrdd sy'n eu helpu i gymryd rhan yn llwyddiannus mewn gwersi, fel y gallant ddysgu a chyflawni eu potensial.
Yn Adran 4, byddwch yn ystyried y mathau o gymorth y gellir eu defnyddio ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig pan fyddant yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd.
Mae Adran 5 yn canolbwyntio ar drafodaeth gyda Katie, sy'n gynorthwyydd addysgu, a byddwch yn gweld beth sy'n rhoi boddhad i Katie yn ei swydd a sut mae'n gweld ei gyrfa'n datblygu. Yn yr adran hon, byddwch yn cael amser i fyfyrio ar eich sefyllfa bresennol, a chreu cynllun ar gyfer eich datblygiad personol eich hun.
Ar ddiwedd y pum adran, ceir gwybodaeth am 'Datblygu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ymhellach'. Bydd y rhain yn eich cyfeirio at wefannau ac adnoddau perthnasol sy'n ymwneud â datblygiad parhaus eich dysgu eich hun.
Gallwch astudio pob un o'r pum adran ar wahân ac mewn unrhyw drefn, a chasglu bathodynnau rhithwir wrth i chi weithio. Mae'r cwrs yn hyblyg ac nid oes unrhyw derfyn amser ar gyfer ei gwblhau. Mae hyn yn golygu y gallwch astudio ar eich cyflymder eich hun ac ar yr adegau mwyaf cyfleus i chi. Rydym yn argymell y dylech geisio ymgymryd â phob un o'r adrannau, gan y bydd hyn yn eich galluogi i gael datganiad cyfranogi sy'n cydnabod y deilliannau dysgu a gyflawnwyd gennych. Gallwch ddangos y datganiad hwn i'ch cyflogwr wedyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i astudio a'i ddysgu ar y cwrs.
Mae'r cwrs yn cynnwys nifer o weithgareddau dan arweiniad a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich ymarfer eich hun, a chyfres o gwisiau rhyngweithiol ar ddiwedd Adrannau 1–4 a fydd yn rhoi cyfle i chi ennill eich bathodyn ar gyfer yr adrannau hynny.
Gall fod sawl rheswm pam eich bod wedi dewis astudio'r cwrs hwn. Gallai fod er mwyn helpu eich datblygiad proffesiynol drwy wella eich sgiliau sylfaenol, neu'n syml er eich budd personol ac er mwyn datblygu eich hyder fel dysgwr.
Nid yw'n hanfodol eich bod yn cael eich cyflogi fel cynorthwyydd addysgu er mwyn astudio'r cwrs hwn. Gallech fod wedi dod ar draws y cwrs hwn fel rhan o'ch taith i ddysgu mwy am ddatblygiad plant – efallai eich bod yn rhiant neu efallai eich bod yn ystyried symud i yrfa yn gweithio gyda phlant. Beth bynnag fo'ch rheswm, bydd astudio'r cwrs hwn yn rhoi cipolwg i chi ar y ffyrdd amrywiol y gallwch gefnogi datblygiad plant.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau'r cwrs hwn, a phob lwc i chi wrth ddatblygu eich gyrfa yn y dyfodol.
Os ydych eisoes yn gynorthwyydd addysgu, bydd yn ddefnyddiol i chi ystyried sut mae eich rôl a'ch profiad yn cyd-fynd â'r pynciau a gwmpesir yn y cwrs. Bydd y gweithgareddau wedi'u llywio drwy gydol y cwrs hwn yn eich helpu i ddysgu a myfyrio ar eich rôl eich hun. Os oes gennych rôl cynorthwyydd addysgu gyflogedig, bydd cwblhau Cefnogi datblygiad plant yn eich galluogi i ddangos eich dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn i'ch cyflogwr. Gallai eich cyflogwr hefyd ofyn i chi astudio'r cwrs hwn fel rhan o'ch rhaglen sefydlu ar gyfer rôl newydd, neu ar gyfer eich datblygiad proffesiynol.
Drwy gydol y cwrs, bydd gweithgareddau a fydd yn gofyn i chi ysgrifennu eich meddyliau a'ch teimladau yn seiliedig ar y materion sy'n cael eu trafod. Gofynnir rhai cwestiynau syml a fydd yn eich annog i feddwl mewn ffordd benodol. Byddai'n ddefnyddiol i chi dreulio rhywfaint o amser yn ystyried yr hyn rydych wedi'i ddysgu ym mhob adran, a'r cysylltiad rhyngddo â'ch rôl bresennol.
Nid prawf yw'r gweithgareddau hyn. Bwriedir iddynt eich helpu i fyfyrio'n fanylach ar yr hyn rydych wedi'i ddarllen. Darperir y gofodau ar gyfer y gweithgareddau hyn at eich defnydd eich hun er mwyn eich helpu i nodi'r hyn rydych wedi'i ddysgu, hyd yn oed os nad ydych wedi dod ar eu traws yn rhinwedd eich rôl eto. Ni fydd neb arall yn gweld yr hyn y byddwch yn ei ysgrifennu yma. Y nod yw eich helpu i fod yn fwy myfyriol a dwyn agweddau ar eich profiadau personol a'ch profiadau proffesiynol ynghyd er mwyn i chi allu eu hadolygu a dysgu ohonynt.