3 Cyfnodau pontio plant
Ystyr 'pontio' yw trosglwyddo o un lle, cyflwr, ffurf, cam neu weithgaredd, i un arall. Mae pob un ohonom yn profi gwahanol fathau o gyfnodau pontio bob dydd a thrwy gydol ein bywydau. Gwahaniaethodd Vogler et al. (2008) rhwng cyfnodau pontio llorweddol a fertigol drwy eu cysylltu â gweithgareddau penodol. Mae cyfnodau pontio llorweddol yn digwydd bob dydd neu'n rheolaidd, ac, fel arfer, maent yn cyfeirio at symud neu newid mewn trefn. Mae cyfnodau pontio llorweddol yn disgrifio gweithgareddau fel plant yn mynd o'r ystafell ddosbarth i'r iard chwarae (symud) neu'n cymryd rhan yn y mabolgampau blynyddol (newid mewn trefn).
I'r gwrthwyneb, mae cyfnodau pontio fertigol yn llawer mwy arwyddocaol ac maent yn gysylltiedig â digwyddiadau penodol nad ydynt yn digwydd yn rheolaidd. Disgrifir dechrau yn yr ysgol fel cyfnod pontio fertigol ac, yn ddiddorol, yn aml, byddwn yn trafod plant yn symud 'i fyny' o'r cylch meithrin i'r ysgol gynradd ac yn symud 'i fyny' o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Mae rôl rhieni yn arbennig o bwysig yn y cyfnodau pontio fertigol y mae plant yn eu profi wrth symud 'i fyny' o un ysgol i un arall, ynghyd â rôl athrawon a chynorthwywyr addysgu.
‘Eto, yn aml, y cynorthwyydd addysgu sy'n gorfod delio ag ofnau plentyn am hyn gan fod ganddo fwy o amser i allu eistedd a thrafod ei bryderon ag ef.'
Mae Vogler et al. (2008) yn trafod trydydd math o gyfnod pontio o'r enw cyfnod pontio sy'n gysylltiedig ag addysg. Mae hyn yn cyfeirio at y newidiadau llai ffurfiol ym mywydau ac arferion plant sy'n digwydd y tu allan i leoliadau sefydliadol. Gall y newidiadau hyn ddigwydd mewn bywyd bob dydd y tu allan i'r ysgol ond gallant effeithio ar fywydau a llesiant plant a'u llywio; byddai ysgariad yn enghraifft o'r math hwn o newid oherwydd efallai bod yn rhaid i'r plentyn symud o fyw gydag un rhiant i fyw gydag un arall. Ar gyfer llawer o blant heddiw, gall cyfansoddiad eu bywyd teuluol newid sawl gwaith drwy gydol eu plentyndod ac efallai y byddant yn cael cyfnodau pontio pan fyddant yn symud rhwng cartrefi wrth ymweld â rhieni a byw gyda llys frodyr a chwiorydd.
Mae amseriad cyfnodau pontio fertigol, fel dechrau yn yr ysgol yn 5 oed a symud i fyny i'r ysgol uwchradd yn 11 oed, yn seiliedig ar ddatblygiad plant a chawsant eu dylanwadu'n benodol gan waith Jean Piaget. Gwnaeth ei gred fod pob plentyn, ar yr un pryd fwy neu lai, yn mynd drwy bedwar cam datblygu gwybyddol ddylanwadu'n gryf ar gysyniadau o pryd roedd plant yn 'barod ar gyfer yr ysgol' er enghraifft, ac felly llywiodd amseriad cyfnodau pontio fertigol yn y system addysg yn Lloegr.
Mae cyfnodau pontio yn digwydd i bob un ohonom drwy gydol ein bywydau. Mae rhai yn gyffredin i'r rhan fwyaf ohonom, fel dechrau yn yr ysgol neu ddod yn rhiant. Mae cyfnodau pontio arwyddocaol fel y rhain fel cerrig milltir yn ein bywydau – rydym yn pasio drwyddynt ac yn edrych yn ôl arnynt. Pan edrychwn yn ôl arnynt, byddwn yn cofio sut roeddem yn teimlo ar y pryd a gall hyn effeithio ar sut rydym yn teimlo amdanom ein hunain a'n gallu i ymdopi â sefyllfaoedd newydd, fel dechrau mewn swydd newydd neu ddod yn aelod o grŵp cymunedol lleol.