Yr hyn rydych wedi'i ddysgu yn yr adran hon
- Rhai cysyniadau a damcaniaethau pwysig yn natblygiad plant. Gan ddechrau o'r blynyddoedd cynnar, gwnaethoch edrych ar bwysigrwydd ymlyniad diogel. Yn y Prawf Sefyllfa Ryfedd, gwnaethoch weld ei bod yn bosibl nad yw rhai plant yn creu ymlyniad diogel am fod pethau wedi tarfu ar eu bywydau. Dilynwyd y Prawf Sefyllfa Ryfedd gan gyflwyniad byr i John Bowlby ar ddamcaniaeth ymlyniad.
- Safbwyntiau Jean Piaget. Roedd yn credu y gall plant fynd drwy bedwar cam datblygu ac mae hyn yn seiliedig ar fioleg. I'r gwrthwyneb, datblygodd y seicolegydd o Rwsia, Lev Vygotsky ddamcaniaeth lluniadaeth gymdeithasol neu ddamcaniaeth gymdeithasol-ddiwylliannol, a oedd yn dadlau bod ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol yn bwysicach na bioleg yn natblygiad plentyn.
- Pwysigrwydd rhieni fel partneriaid, yn ogystal â dulliau gwahanol o rianta, drwy waith Diana Baumrind. Mae cynorthwywyr addysgu yn cydnabod pwysigrwydd gweithio'n agos gyda rhieni ac y gall y gydberthynas hon fod ar sawl ffurf ac y gall fod yn heriol yn ogystal â chefnogol.
- Cyfnodau pontio a sut y gall cyfnodau llorweddol, cyfnodau fertigol a chyfnodau sy'n gysylltiedig ag addysg ein helpu i ddeall pwysigrwydd y symudiadau hyn o un lleoliad i un arall. Gwnaethoch hefyd edrych ar rai o'r materion a wynebir gan blant sy'n mynd drwy'r cyfnodau pontio hyn.