Mynd i'r afael â'r bwlch rhwng y rhywiau
Caiff strategaethau amrywiol eu hawgrymu er mwyn ceisio lleihau'r bwlch mewn llythrennedd rhwng bechgyn a merched, ac yn benodol er mwyn ysbrydoli bechgyn i ddarllen ac ysgrifennu.
- rhoi ymdeimlad penodol o ddiben i fechgyn ym mhob gwers a'u hannog i gydweithredu.
- gofyn i'r disgyblion ddarllen llyfr ac yna ysgrifennu adolygiad ohono er mwyn argymell y llyfr i blentyn iau. Mae hyn yn eu hysbrydoli i ddewis llyfrau priodol ar gyfer plant eraill, i'w darllen yn ofalus ac ysgrifennu adolygiadau gofalus. Gallant hefyd ddefnyddio eu sgiliau TGCh a chelf i gyflwyno eu hadolygiadau mewn ffordd effeithiol. Gallai hyn hefyd helpu i wella eu sgiliau llythrennedd eu hunain.
- defnyddio deunydd darllen o ansawdd da, sy'n eu hysbrydoli, yn ystod sesiynau darllen dan arweiniad a gwersi llythrennedd. Mae ansawdd y testunau'n bwysig er mwyn rhoi enghreifftiau da o ysgrifennu, ond mae hefyd angen i'r deunydd pwnc ddal sylw'r bechgyn, e.e. straeon arswyd, neu straeon antur, yn enwedig rhai lle mae'r prif gymeriad yn fachgen.
- annog y bechgyn i ddarllen unrhyw beth y mae ganddynt ddiddordeb ynddo i ddechrau, boed hynny'n gylchgronau, straeon, comics neu gyfarwyddiadau ar gyfer gemau. Yn raddol, byddant yn dewis llyfrau sydd o ddiddordeb iddynt.
- cyflwyno ysgogiad i ysbrydoli'r bechgyn, fel clipiau ffilm, er mwyn cynnig deunydd pwnc ar gyfer gwers. Mae'r defnydd o chwarae rôl a gweithgareddau drama yn ychwanegu at y diddordeb ac yn helpu i gymell y bechgyn i barhau i ddarllen, er mwyn cael gwybod beth sy'n gwybod nesaf yn y stori ac i fod ag awydd i ysgrifennu eu fersiynau eu hunain o olygfeydd o'r stori.
Myfyriwch ar eich ymarfer eich hun a nodwch strategaethau gwahanol sy'n gweithio'n dda i chi. Beth yw eich profiadau o'r bwlch rhwng y rhywiau?