Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Llythrennedd a darllen yn yr ysgol uwchradd

Os ydych yn gynorthwyydd addysgu mewn ysgol uwchradd, meddyliwch pa ddeunyddiau cymorth y gellid eu haddasu ar gyfer eich sefyllfa eich hun. Er enghraifft:

Os nad ydych yn gweithio mewn ysgol uwchradd ond eich bod yn adnabod plant ar y cam hwn, ceisiwch ddysgu mwy am yr hyn maent yn ei ddarllen mewn perthynas â phwnc penodol a sut mae geirfa neu eiriau allweddol yn wahanol i iaith bob dydd. Gallai un enghraifft o ddaearyddiaeth gynnwys y geiriau canlynol: globaleiddio, trefol a gwledig, tafod, rhewlif, erydiad pridd, datgoedwigo.

  • Sut mae eich ysgol yn helpu gyda llythrennedd yn y cwricwlwm uwchradd?
  • Pa eiriau sy'n gysylltiedig â phwnc ysgol uwchradd sy'n wahanol i'r hyn a ddefnyddir bob dydd?

Bydd eich ateb yn dibynnu ar eich lleoliad, ac ar b'un a oes gan eich ysgol bolisi ar waith i annog darllen a llythrennedd. Beth bynnag fo'r polisi, ni ddylai hynny eich rhwystro rhag bod yn greadigol ac annog syniadau newydd mewn llythrennedd i blant.

Beth rydych wedi'i ddysgu yn yr adran hon:

  • Agweddau ar ddarllen a llythrennedd ar dri cham datblygu gwahanol. Yn y blynyddoedd cynnar, sut mae babanod yn dysgu rhyngweithio â'u rhieni neu ofalwyr wrth ddechrau cyfathrebu.
  • Materion yn ymwneud â darllen a llythrennedd yn yr ysgol gynradd.
  • Heriau darllen a llythrennedd sy'n parhau ar lefel uwchradd.
  • Mae'r 'bwlch darllen' yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas, ac mae mesurau'n cael eu gweithredu er mwyn ei oresgyn. Y 'bwlch rhwng y rhywiau' yw pan fydd gwahaniaethau rhwng bechgyn a merched o ran sut maent yn ymdrin â darllen a llythrennedd.
  • Ystyriwch sut mae'r pynciau yn yr adran hon yn ymwneud â'ch ymarfer eich hun: sut mae gwneud cysylltiadau rhwng eich profiad eich hun, eich astudiaethau a'r lleoliad rydych yn gweithio ynddo, yn eich helpu i ddod yn ymarferydd myfyriol.