Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Ymddygiad plant

Mae Jon Richards, pennaeth addysg UNISON (a ddyfynnir yn Bennet, 2015a), yn nodi rhai gwirioneddau syml am ymddygiad plant:

  • Mae pawb yn profi ymddygiad anodd yn yr ysgol
  • Gall plant, fel pawb, fod yn hunanol, yn greulon, yn garedig ac yn anhygoel
  • Nid eich bai chi ydyw os byddant yn camymddwyn, ond mae gennych gyfrifoldeb i weithredu os bydd hynny'n digwydd
  • Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn hapus i ddilyn rheolau sy'n deg, yn gyson ac yn gymesur
  • Mae'n well gan bron bob myfyriwr fod mewn ysgol lle mae'r oedolion yn cymryd ymddygiad o ddifrif.
(Bennett, 2015a)

Gweithgaredd 1

Timing: Caniatewch tua 10 munud

Rhestrwch bum ymddygiad annymunol gan blant yn eich lleoliad.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Efallai y byddwch wedi nodi rhai o'r ymddygiadau canlynol neu bob un ohonynt:

  • difrodi eiddo
  • dweud celwydd
  • gwneud synau gwirion neu chwarae'r ffŵl
  • defnyddio iaith ddifrïol
  • ateb staff yn ôl
  • peidio â gwrando
  • rhedeg dan do, yn hytrach na cherdded.

Gall rhywbeth sy'n annymunol i un person fod yn dderbyniol i rywun arall. Felly, efallai eich bod wedi cael eich synnu gan rai o'r ymddygiadau ar ein rhestr. Efallai yr hoffech fyfyrio ar pam y gellid ystyried bod yr ymddygiadau hyn yn annymunol.

Maent yn debygol o fod yn ymddygiadau y mae'n hawdd eu hystyried yn annymunol am eu bod yn peryglu diogelwch plentyn, neu am eu bod yn aflonyddgar ac yn effeithio ar allu plentyn i ddysgu neu ryngweithio ag eraill.

Wrth i chi weithio drwy'r adran hon ar reoli ymddygiad, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych yn ôl ar yr ymatebion a roddwyd gennych a myfyrio ar sut y gellid rheoli'r ymddygiadau hyn mewn lleoliad ysgol.