Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Nodau camymddwyn

Roedd Rudolph Dreikurs (1897–1972), seiciatrydd plant ac addysgwr, yn credu bod pob bod dynol, fel bodau cymdeithasol, yn awyddus i berthyn a chael eu derbyn gan eraill. Nododd bedwar nod ar gyfer camymddwyn:

  • sylw
  • pŵer
  • dial
  • dangos annigonolrwydd.

Fel cynorthwyydd addysgu, gall datblygu dealltwriaeth o pam y gallai plant fod yn ymddwyn yn y ffordd â wnânt eich helpu i fod yn fwy gwrthrychol a thawel wrth ymateb i ymddygiad annymunol. Mae Tabl 1 yn cynnig rhesymau posibl dros ymddygiad plant a sut y gallwch deimlo ac ymateb. Mae hefyd yn awgrymu ffyrdd amgen y gallech ddelio â'r sefyllfa.

Tabl 1 Nodau camymddwyn
Cred ddiffygiol y plentynNod y plentynTeimlad ac ymateb yr oedolynYmateb y plentyn i ymdrechion yr oedolyn i'w gerydduOpsiynau amgen i oedolion
Rwyf ond yn perthyn pan fyddaf yn cael sylw neu help.Sylw

Teimlad: Dig.

Ymateb: Tueddiad i atgoffa a chymell.

Atal y camymddygiad dros dro.

Ailddechrau'r un ymddygiad yn ddiweddarach neu'n tarfu mewn ffordd arall.

Anwybyddu camymddygiad lle bo'n bosibl. Rhoi sylw am ymddygiad cadarnhaol pan nad yw'r plentyn yn ceisio ei gael. Osgoi helpu'n ormodol. Sylweddoli bod atgoffa, cosbi, gwobrwyo, cymell a helpu yn enghreifftiau o sylw gormodol.
Rwyf ond yn perthyn pan fyddaf yn rheoli sefyllfa, neu'n profi na all neb fy rheoli i!Pŵer

Teimlad: Dig; gwyllt; fel petai bygythiad i awdurdod rhywun.

Ymateb: Tueddiad i ymladd neu ildio.

Bydd camymddygiad gweithredol, neu ymosodol goddefol yn gwaethygu, neu bydd y plentyn yn ildio mewn 'cydsyniad herfeiddiol'.Tynnu'n ôl o wrthdaro. Helpu'r plentyn i weld sut i ddefnyddio pŵer yn adeiladol drwy apelio am help y plentyn a sicrhau cydweithrediad. Sylweddoli bod brwydro neu ildio ond yn cynyddu dyhead y plentyn am bŵer.
Rwyf ond yn perthyn drwy frifo eraill fel rydw i'n cael fy mrifo. Ni all neb fy ngharu.Dial

Teimlad: Dolurus iawn.

Ymateb: Tueddiad i ddial a thalu'r pwyth yn ôl.

Ceisio dial ymhellach drwy gamymddwyn yn waeth neu ddewis arf arall.Osgoi cael ei frifo. Osgoi cosb a dial. Meithrin cydberthynas llawn ymddiriedaeth; darbwyllo plentyn bod rhywun yn ei garu.
Rwyf ond yn perthyn drwy ddarbwyllo eraill na ddylent ddisgwyl dim gen i; rwy'n analluog; rwy'n ddiymadferth.Dangos annigonolrwydd

Teimlad: Anobaith; enbydrwydd – 'rwy'n rhoi'r ffidil yn y to'.

Ymateb: Tueddiad i gytuno â'r plentyn na ellir gwneud dim.

Ymateb yn oddefol neu fethu ag ymateb i beth bynnag a wneir.

Dangos dim gwelliant.

Rhoi'r gorau i bob beirniadaeth. Annog unrhyw ymgais gadarnhaol ni waeth pa mor fach ydyw; canolbwyntio ar asedau. Yn anad dim, peidio â thosturio, a dal ati.

Gweithgaredd 3

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Dychwelwch at hanes ymddygiad Kyle yng Ngweithgaredd 2 a defnyddiwch y nodau camymddwyn a roddwyd yn Nhabl 1 i ystyried pam y gallai fod wedi ymddwyn fel y gwnaeth. Ysgrifennwch syniadau yn y blwch.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Efallai mai'r peth cyntaf y gwnaethoch feddwl amdano oedd bod ymddygiad Kyle yn awgrymu ei fod am gael sylw. Efallai ei fod yn dibynnu ar eich barn ynghylch pam y gwnaeth 'lithro i lawr yn ei sedd'. A ydych yn credu bod Kyle yn ceisio bod yn anweledig? Neu a oeddech o'r farn mai gweithred herfeiddiol oedd hon yn gysylltiedig â phŵer, gyda Kyle yn dangos yn fwriadol nad oedd ots ganddo am farn yr athro, neu am yr hyn y dylai fod yn ei wneud?

Neu, efallai eich bod o'r farn bod ymddygiad Kyle yn dangos annigonolrwydd, a'i fod yn ymateb yn oddefol i'r gorchymyn y dylai roi ei ffôn i gadw. Fodd bynnag, os felly, mae 'cred ddiffygiol' Kyle ei fod ond yn perthyn drwy ddarbwyllo eraill i beidio â disgwyl dim ganddo a'i fod yn ddiymadferth yn golygu y bydd yn annhebygol y bydd unrhyw arwyddion o welliant yn ei waith ysgol. Pe byddai'r athro wedi ymateb yn wahanol, gallai barn Kyle newid gan arwain at ganlyniadau mwy cadarnhaol.

Nid yw penderfynu ar nodau camymddwyn yn dasg hawdd gan fod ein gwerthoedd, ein cred a'n safbwyntiau ein hunain yn dylanwadu ar sut rydym yn ymateb i ymddygiadau gwahanol, ac i blant gwahanol. Fel y cyfryw, nid oes ateb cywir nac anghywir. Efallai na fydd Kyle hyd yn oed yn gwybod pam y gwnaeth ymddwyn fel hynny, a gallai fod angen ymyrraeth gan y gwasanaethau cymorth er mwyn ei helpu i reoli ei ymddygiad.