Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Targedau CAMPUS

Er mwyn sicrhau bod nodau'n gyraeddadwy, mae angen i chi gael disgwyliadau clir o ran sut rydych am i'r plant ymddwyn a chynllun ar gyfer sut i roi'r nod cytûn ar waith. Un ffordd o wneud hyn yw defnyddio targedau CAMPUS. Bydd targedau CAMPUS yn eich helpu i ystyried ac egluro cynlluniau a phennu nodau, a bydd yn ei gwneud yn haws i wybod beth a gyflawnwyd dros amser.

Defnyddiwch dargedau CAMPUS:

  • Cyraeddadwy: A yw hynny'n bosibl? Ydi (yn dibynnu ar oedran y plentyn a'r materion sy'n arwain at yr ymddygiad).
  • Amserol: Pryd rydych yn bwriadu dechrau?
  • Mesuradwy: Beth fyddai'n ganlyniad da?
  • Penodol: Beth yn union yw'r broblem?
  • Uchelgeisiol
  • Synhwyrol: A yw'n synhwyrol disgwyl y canlyniad hwn o ystyried y sefyllfa yn yr ystafell ddosbarth? A oes newidiadau y gellid eu gwneud i'r amgylchedd er mwyn gwneud yr ymddygiad dymunol yn fwy tebygol?

Yna ychwanegwch PC:

  • Pendant: Eglurwch i'r plant beth fydd yn digwydd o hyn ymlaen a beth a ddisgwylir.
  • Cytûn: Sicrhewch fod y plant yn cytuno. A yw hynny'n swnio'n iawn i chi? A ydym am wneud hynny?
  • Cytunwch ar y wobr.