2.5 Cynnal disgyblaeth yn yr ystafell ddosbarth
Mae Tom Bennett, awdur Managing Difficult Behaviour in Schools (2015a), yn credu bod deg peth y dylai pob athro fod yn ei wneud er mwyn sicrhau trefn yn yr ystafell ddosbarth.
- Peidiwch â thybio bod y disgyblion yn gwybod sut rydych am iddynt ymddwyn.
- Lluniwch gynllun seddi.
- Byddwch yn deg, yn gyson ac yn gymesur.
- Dysgwch enwau'r disgyblion.
- Dilynwch drywydd materion.
- Peidiwch â gweithredu ar eich pen eich hun – defnyddiwch eich rheolwr llinell os bydd angen.
- Peidiwch â chynhyrfu.
- Dylech gynnwys y rhieni.
- Byddwch yn barod ac yn drefnus ar gyfer gwersi.
- Byddwch yn athro, nid yn gyfaill.
Gweithgaredd 7
Ailddarllenwch ddeg awgrym defnyddiol Tom Bennett (2015b) ar gyfer cynnal disgyblaeth yn yr ystafell ddosbarth. Dyma'r pethau y dylai pob aelod o staff fod yn ei wneud er mwyn sicrhau trefn yn yr ystafell ddosbarth.
Yna gwyliwch glip fideo ar reoli aflonyddwch lefel isel. Gwyliwch y clip fideo yn ei gyfanrwydd unwaith heb oedi na chymryd nodiadau.
Transcript
Ymyrraeth lefel isel
Siaradwr: Tom Bennett, cynghorydd ymddygiad TES
Fel athro, bydd angen i chi wynebu ymyrraeth lefel isel yn llawer amlach nag ymyrraeth lefel uchel.
Yr hyn y mae'r rhan fwyaf o athrawon yn fwyaf ofnus yn ei gylch yw ymyrraeth lefel uchel wrth gwrs. Y rhai sy'n ceisio cydymdeimlad, y rhai sy'n ddigywilydd, sy'n rhegi, sy'n dreisgar, ac ati. Mae hynny yn digwydd, yn enwedig mewn rhai ysgolion, ond camymddwyn lefel isel yw'r math mwyaf cyffredin o gamymddwyn y bydd yn rhaid i chi ddod ar ei draws o bell ffordd.
Caiff ei alw'n gamymddwyn lefel isel, ond mae'n cael effaith lefel uchel iawn ar eich gwersi. Mae camymddwyn lefel isel yn cael effaith wael iawn ar eich gwersi. Mae'n eich blino. Mae'n erydu eich addysgu fesul tipyn. A'r peth gwaethaf amdano yw, weithiau fyddwch chi ddim hyd yn oed yn sylwi ar yr effaith a gaiff ar eich gwers.
Beth yw ystyr camymddwyn lefel isel? Pethau fel sgwrsio, pasio nodiadau. Pethau fel edrych allan drwy'r ffenestr pan ddylech fod yn gweithio. Pethau fel galw allan yn lle rhoi llaw i fyny. Pethau fel codi o'r gadair. Chwarae gyda'r llenni ac ati efallai pan na fyddwch wedi gofyn iddynt wneud hynny. Yr holl bethau y mae'n rhaid i chi roi terfyn arnynt a'u hunioni. Mae gwneud hynny'n amharu ar eich gwers. Mae'n amharu ar y llif ac, wrth gwrs, mae'n gwastraffu amser pawb arall yn yr ystafell. A dyna pam y mae ymddygiad lefel isel yn gyrydol iawn, fel asid, i'ch addysgu.
Os byddwch erioed yn ffilmio un o'ch gwersi lle rydych yn cael llawer o gamymddwyn lefel isel, yr hyn a welwch yw bod traean o'ch gwers yn cael ei threulio yn dweud wrth bobl am roi'r gorau i wneud pethau na ddylent fod yn ei wneud, a dweud y drefn wrthynt. Yn ddelfrydol, dylech fod yn osgoi hynny.
Felly sut rydych chi'n osgoi hynny? Nid oes ateb cyflym a syml i hyn, ond mae esboniad syml ynghylch beth y mae'n rhaid i chi ei wneud. A'r hyn y mae angen i chi ei wneud yw sefydlu ffiniau clir iawn gyda'r dosbarth o'r cychwyn cyntaf. A rhoi gwybod iddynt y byddwch chi'n rheoli'r ffiniau hynny.
A'r tro cyntaf y bydd disgyblion yn dechrau croesi'r ffiniau hynny, er enghraifft, drwy siarad drostoch, siarad dros eu cyfoedion, pasio nodiadau, ac ati, bydd angen i chi dynnu sylw at hynny fel mater o bwys. Rhoi rhybudd iddynt. Ac yna rhoi gwybod iddynt y bydd rhywbeth yn digwydd yn sgil hynny.
Beth y gallwch ei wneud hefyd yw, heb ddweud gair, anwybyddu'r camymddwyn lefel isel er mwyn sicrhau bod y wers yn parhau i lifo. Mae hynny'n strategaeth. Nid wyf yn golygu anwybyddu'r camymddwyn. Yr hyn rwy'n ei olygu yw dychwelyd at y camymddwyn a sut rydych am ddelio ag ef pan fyddwch chi'n barod, nid pan fyddan nhw am i chi fod yn barod.
Felly os bydd rhywun yn siglo ar ei gadair neu'n pasio nodiadau ac ati, ac rwyf yng nghanol dweud wrth y dosbarth beth yw'r dasg, weithiau ni fyddaf yn rhoi'r gorau i'r hyn rwy'n ei wneud. Byddaf yn gorffen egluro wrth y dosbarth ac yna, pan fyddaf wedi gwneud hynny, byddaf yn mynd at y disgybl ac yn dweud, iawn, mae angen i ni gael sgwrs y tu allan. Neu, mae angen i mi dy weld ar ôl y wers. Neu, dyma dy rybudd olaf di, ddylet ti ddim bod yn gwneud hynny. Felly gwnewch bethau yn eich amser chi, nid yn eu hamser nhw. Fel arall, bydd y camymddwyn lefel isel yn dechrau dylanwadu ar sut rydych yn gweithredu mewn ystafell ddosbarth.
Ac un o'r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud mewn ystafell ddosbarth yw dangos eich bod mewn rheolaeth o'ch hun. Wedi'r cyfan, allwch chi ddim rheoli neb arall, ond gallwch reoli eich hun. A thrwy osod yr esiampl honno, a thrwy wefru eich ffiniau gyda chosbau a chanmoliaeth, gallwch arwain y disgyblion at y math hwnnw o ymddygiad.
Mae honno'n broses araf. Mae'n rhaid i chi osod y safon yn uchel iawn i ddechrau. A rhaid i chi reoli'r safon honno yn eithaf dwys. A bydd yn cymryd llawer o amser. Nid oes ffordd o amgylch hyn.
Ni allwch reoli'r math hwn o beth heb siarad gyda llawer o blant ar ôl gwersi a siarad â llawer o rieni. Ond, os byddwch yn gwneud hynny, a'ch bod yn ei wneud yn llym ar ddechrau eich gyrfa gyda grŵp o blant, bydd yn talu ar ei ganfed yn y dyfodol. Ar un olwg, mae'n fuddsoddiad yn eich dyfodol chi, a, gorau oll, yn eu haddysg nhw.
A dyna sut rwyf yn delio ag ymyrraeth lefel isel.
Nawr gwyliwch y clip fideo am yr eildro gan ystyried y cwestiynau canlynol:
- Sut y gallech chi, fel cynorthwyydd addysgu, helpu'r athro i reoli aflonyddwch lefel isel?
- Pa mor hyderus ydych chi'n teimlo yn helpu'r athro gyda hyn?
- Beth fyddai'n eich helpu chi i wella eich hyder?
Os nad ydych yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu ar hyn o bryd, dychmygwch sefyllfa lle mae aflonyddwch lefel isel yn digwydd a chymhwyswch y cwestiynau at hyn.
Gwnewch eich nodiadau cyn darllen ein sylwadau.
Sylwadau
Mae Tom Bennett yn siarad am effeithiau cyrydol mân gamymddwyn ymysg plant, fel siarad neu basio nodiadau, neu fod rhywbeth yn tynnu eu sylw. Fel cynorthwyydd addysgu, rydych mewn sefyllfa dda i helpu'r athro i reoli'r math hwn o ymddygiad. Efallai y gwnaethoch nodi sut y gallech, yn dyner, atgoffa plant i wrando, neu ganmol plentyn am ymddwyn yn briodol. Yn aml, bydd canolbwyntio eich sylwadau ar ymddygiad priodol yn arwain at gywiro ymddygiad amhriodol eraill, heb fod angen dweud dim wrth y plant hynny.
Nododd Tom Bennett bod rheoli ymyrraeth lefel isel yn rhywbeth sy'n cymryd amser, ac nad oes 'ateb cyflym'. Yn yr un modd, mae meithrin sgiliau a gwybodaeth – a hyder – i reoli ymddygiad plentyn yn effeithiol yn rhywbeth sy'n cymryd amser. Bydd siarad â'r athro dosbarth neu â'ch mentor, neu â'r aelod o staff sy'n gyfrifol am reoli ymddygiad yn yr ysgol, yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau o ran rheoli ymddygiad.